Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bump, ac eraill, y lleiaf, bedwar swllt. Talwyd y symiau hyny i fyny yn gryno yn niwedd y flwyddyn 1846, oddigerth ychydig iawn nad ydyw yn werth ei enwi. Ymunodd amryw bersonau i dalu pedair punt yn y flwyddyn am bedair blynedd, fel, erbyn y flwyddyn 1852, nad oedd swm y ddyled oedd eto yn aros ond yn unig oddeutu £145. Yn fuan ar ol hyn, ymgyfarfu y Parchedigion Thomas Francis, John Jones, a'r Meistri R. Hughes, D. Jones, E. Powell, W. Pearce, J. Lewis, a chyfaill arall dienw, i ystyried am y tro diweddaf beth oedd i'w wneuthur at orphen talu y gweddill bychan oedd eto yn aros o'r ddyled. Y canlyniad o hyn fu i'r holl frodyr a enwyd, yn nghydag eraill hefyd, estyn allan eto eu rhoddion, fel erbyn dechreu y flwyddyn 1854, neu rywbryd oddeutu hyny, nid oedd o'r holl ddyled ag oedd eto yn aros ond oddeutu £38. Yn fuan wedi hyn aeth Mrs. Jones, gweddw y diweddar Barch. J. Jones, a Mrs. Phillips, gweddw y diweddar Barch. E. Phillips, oddiamgylch am y waith olaf; a chasglasant rhyngddynt uwchlaw £20; yr hyn, ynghyd a'r £16 o arian yr eisteddleoedd, a wnaethant y swm i fyny; yna gorphenwyd talu a llwyr ddileu yr holl ddyled. Yn fuan wedi hyn, cawsom Jubili; bwytasom ac yfasom, a llawenychasom hefyd yn ddirfawr. Gwnaethom hyn yn y capel yn Abbot-street, yr hwn ar y pryd ydoedd newydd gael ei adgyweirio, ei baentio, a'i lanhau; ac hefyd yn fwy a gwell na phob peth, wedi ei waredu a'i ryddhau o gaethiwed dyled ag yr oedd dano am yn agos i bymtheg mlynedd ar hugain.

Er na chostiodd y tir ac adeiladu y capel, yn 1821, ond £1,100, eto erbyn y flwyddyn 1854, rhwng corff yr arian, y llôgau a'r holl adgyweiriadau fu arno, costiodd trwy'r cwbl uwchlaw dwy fil o bunnau

Nifer yr eglwys yn 1832 oedd ..... 50
yr ysgol sabbothol ..... 50 i 60.
y gynnulleidfa ..... 100 i 120.

Dyma y nifer bychan, yn fuan wedi hyn, a gymmerasant arnynt y cyfrifoldeb o dalu y swm o £1,260, ac erbyn y flwyddyn 1854, neu rywbryd oddeutu hyny, yr oedd yr holl orchest waith wedi ei gwblhau;