myned dros 200; yr ysgol sabbothol hefyd a'r gynnulleidfa wedi cynnyddu yn gyfartal. Yr oedd llawr y capel yn rhy fychan ar noson y cymmundeb i'r gweinidog yn hwylus allu myned trwy y gwasanaeth. Heblaw fod y capel yn fychan, yr oedd amryw bethau yn nglŷn â'r lle oddiallan, yn y blynyddoedd diweddaf, yn peri llawer o annghysur. Yr oedd yr holl bregethwyr, bron yn ddieithriad, a ddeuai i'r lle, yn cwyno yn fawr yn ei herwydd. Fel hyn y buom am rai blynyddoedd, fel yn dyheu am le mwy dymunol i addoli; ond dim yn cael ei wneyd ond siarad a chwyno: ond dylasem ddyweyd fod yno obaith cryf ar waith y pryd hwnw ag iddo sail dda.
Wrth i ni gymmeryd rhyw un drem gyffredinol ar yr achos, yn yr hanner canrif ddiweddaf, gellir dyweyd fod pethau ar y cyfan wedi bod yn lled gysurus, llwyddiannus, a dymunol. Nis gellir dyweyd am y lle fod cenedl wedi cael ei geni ynddo ar unwaith, ond yr oedd yma blant er hyny yn cael esgor arnynt yn wastadol, ac felly yr oedd y teulu yn cynnyddu trwy'r blynyddoedd y gwir am yr eglwys heddyw ydyw ei bod yn llawen fam plant.' Ein syniad gostyngedig hefyd ydyw na bu'r teulu heb famau â bronau maethlon i fagu, nac ychwaith heb dadau, y rhai oeddynt yn llywodraethu mewn diwydrwydd a doethineb, yn gofalu am y teulu yn ei holl amgylchiadau a'i gysylltiadau, ac yn gwneyd pob ymdrech i'w porthi â gwybodaeth ac â deall, gan eu maethu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Nid aml, o bosibl, y bu un eglwys o'i maint mor aml ei chynghorwyr; ac nid aml, ychwaith, y bu praidd mor fychan, mewn ystyr, yn cael ei wylio a'i borthi gan gynnifer o fugeiliaid, y rhai bob amser oeddynt yn ffyddlon a gweithgar. Yr ydym yn cofio y bu yn ein plith am lawer o flynyddoedd, a hyny ar yr un amser, fel y crybwyllasom o'r blaen, bump o weinidogion yr efengyl, y rhai bob amser oeddynt, un ac oll, yn ffyddlon yn ein cynnulliadau eglwysig. Fel y crybwyllasom o'r blaen, er fod pethau ar y cyfan wedi bod yn gysurus yn ein plith, eto ni buom heb ein profedigaethau. Cododd dwy ystorm lled erwin, ond tawelwyd y gwyntoedd, a gorchymynwyd i'r tònau lonyddu. Daeth y llong eilwaith, a'i llwyth, i nofio yn