esmwyth. Fe geisiodd satan nithio fel gwenith deulu Abbot-street, unwaith neu ddwywaith, ond Ysbryd yr Arglwydd a'i hymlidiodd ef ymaith gwasgarwyd, yn ddieithriad, yr holl rai a fuasent yn llawenychu yn aflwydd a dinystr y frawdoliaeth.
Oddeutu'r flwyddyn 1860, meddyliodd y cyfeillion yn y lle am alw rhyw frawd yn y weinidogaeth i fugeilio yn eu plith. Ar ol hir ymbwyllo, arafu, cyd-ymgynghori, a gweddïo llawer, tueddwyd meddyliau y brodyr i feddwl am y Parch. J. H. Symond, oedd y pryd hwnw yn cartrefu gyda ei dad yn Glan Clwyd, ger Ruthyn. Ar ol llawer o drafodaeth gydag ef, cynnygiwyd ef i'r eglwys fel i fugeilio yn ein plith, yr hwn a ddewiswyd ganddi yn ddieithriad; dyfodiad yr hwn hefyd i'n plith sydd wedi bod o fawr fendith. Cyn pen hir, ar ol i Mr. Symond ymsefydlu yn y dref, meddyliwyd yn fwy unfrydol a phenderfynol am adeiladu capel newydd. Bu hyn am wythnosau a misoedd dan ystyriaeth pwyllgor o'r brodyr, a hyny yn y modd mwyaf difrifol, pwyllog, ac arafaidd; a Mr. Symond erbyn hyn yn llywyddu. Penderfynwyd yn lled fuan ar gael capel, ond y llanerch i adeiladu arno nid oeddid eto wedi gallu ei sicrhau. Wedi meddwl am y lle hwn, a'r lle arall, a'r trydydd, a methu a bod yn llwyddiannus; o'r diwedd daeth pawb i gydweled am lanerch ag oedd yn ymddangos yn ddymunol; rhoddwyd ar Mr. Daniel Jones, merchant, un o'r frawdoliaeth, i brynu'r lle, yr hyn hefyd a wnaeth. Ac ar y tir hwnw, erbyn heddyw, y mae'r addoldŷ ymneillduol helaethaf o gryn lawer, a'r gwychaf hefyd yn y dref. Geill eistedd ynddo yn gysurus oddeutu wyth gant; ond fe welwyd ynddo ar gyfarfod neillduol ddeuddeg cant neu ragor.
Cyn terfynu hyn o gofnodau, mae yn dda genym hysbysu fod yr eglwys yn Ngwrecsam yn fam i wyth neu naw o eglwysi yn ngoror Clawdd Offa; sef y Tabernacl; Crabtree Green; Bethel; Bowling Bank; Glan-y-Pwll; Holt; Bethlehem; Zion, Hope; a Hill-street. Yn Bursham y dechreuwyd yr achos sydd yn awr yn y Tabernacl, Rhostyllen, mewn tŷ hen wreigan a adnabyddid y pryd hwnw wrth yr enw Bodo Rolant o'r Ddôl;' neu yn fwy cyflawn, 'Dolcehelyn.' Cymmydogaeth ydyw hon heb fod ar linell uniawn, rhwng Gwrecsam