Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac Adwy'r Clawdd. Dechreuwyd cadw ysgol sabbothol yn y lle er's dros 60 mlynedd. Gan fod Bursham oddeutu canol y ffordd rhwng y ddau le uchod, byddai rhai o'r athrawon yn dyfod yno o'r Adwy, a rhai eraill o Wrecsam yn myned yno i'w cyfarfod. Un o'r athrawon a âi yno o Wrecsam oedd hen ŵr o'r enw William Owen; a'r rhai a ddeuent yno o'r Adwy oeddynt Edward Hughes, Richard Hughes, a John Hughes, tri o frodyr; yr olaf a'r ieuengaf o'r tri a ddaeth wedi hyny i fod 'y Parch. J. Hughes, Liverpool.' Dygid yr ysgol yn mlaen gan mwyaf, debygid, yn yr iaith Saesneg.

Oherwydd fod yr hen William Owen yn Sais bychan, byddai y plant yn cael llawer iawn o ddifyrwch yn gwrando arno yn siarad. Wrth gyhoeddi casgliad i fod y sabboth dyfodol at gael glô i wneyd tân yn y lle, yr hen ŵr a ddywedai wrth y plant, "You must bring som hopans (dimeiau) with yaw next Sunda, to buy som colls (glö)."

Yr ydym yn cofio Mr. Charles, o'r Bala, er's feallai yn agos i 60 mlynedd yn ol, yn cadw sasiwn plant yn y lle hwn, pryd yr oedd canoedd lawer o'r cymmydogaethau cylchynol wedi dyfod yn nghyd. Un o ddeiliaid cyntaf ysgol sabbothol y 'Ddôl' oedd mam y Parchedig John Parry, o'r Bala; a digon tebyg mai yn y gymmydogaeth hon, os nad yn hen dŷ 'Bodo Rolant,' y dechreuodd y Parch. J. Parry, yr hwn yn awr sydd yn un o athrawon parchus Athrofa'r Bala, ddysgu yr A. B. C. Yr oedd tipyn o ysbryd missionary yn mam Mr. Parry, oblegid hi fyddai yn myned o dŷ y naill gymmydog i dŷ cymmydog arall, a'i Thestament yn ei llaw, ac yn darllen iddynt yr Ysgrythrau, ac yn dysgu ambell un anllythyrenog ddyweyd adnod allan. Byddent yn hôff iawn o'i gweled hi a'i Thestament yn dyfod trwy ei chylch-deithiau. Bu'r moddion syml hwnw yn fendithiol i ennill amryw o'i chymmydogion i ddysgu gair yr Arglwydd. Yn lled fuan wedi i Mr. Charles fod yno, symmudwyd yr ysgol i 'Bange y ffwrnes; lle yn yr un gymmydogaeth. Hen adeilad oedd hwn fu yn perthyn i waith haiarn Mr. Wilkins, ond a adnabyddid gynt wrth yr enw 'Bursham Iron Works.' Symmudwyd yr achos oddiyno i Rhostyllen, cymmydogaeth ydyw hon yn ymyl y llall. Yn y gymmydogaeth hon yr adeiladwyd y capel a elwir y Tabernacl, un