Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r rhai helaethaf yn ngoror Gwrecsam gan ein cyfundeb ni. Yr ydym yn gwneyd sylw o'r lle hwn, nid yn gymmaint am ei fod yn agos i Wrecsam, ond am fod yr eglwys a'r ysgol sabbothol yn y lle, hyd o fewn ychydig flynyddau yn ol, fel yn gangen o eglwys Gwrecsam y blaenoriaid a'r pregethwyr o Wrecsam, y naill yn niffyg y llall, fyddent yn myned yno i'r cyfarfodydd eglwysig. Nid oes ond blwyddyn neu ddwy er pan beidiodd Mr. R. Hughes, o herwydd henaint, a myned yno i'r ysgol sabbothol, wedi bod yn myned iddi, yn y gwahanol fanau, am uwchlaw hanner canrif.

Mae'r holl eglwysi a enwyd uchod yn ymddibynu yn awr arnynt eu hunain er's blynyddau bellach; yr unig gysylltiad erbyn hyn. ydyw fod ambell un o'r cyfeillion o'r dref yn myned i gynnorthwyo yn yr ysgol sabbothol.

Mae yn deilwng o sylw, ac yn ffaith werth ei chofnodi, mai o Wrecsam, yn gysylltiedig âg Adwy'r Clawdd, yr ymwelodd y Trefnyddion Calfinaidd am y waith gyntaf â goror Clawdd Offa. Ar foreu sabboth yn Ngwrecsam, oddeutu'r flwyddyn 1807, ymffurfiodd myntai ynghyd, cynnwysedig o naw neu ddeuddeg o wŷr mewn oed a'r un nifer o fechgyn ieuaingc. Yn eu plith yr oedd Thomas Edwards, o Liverpool, John Edwards, Gelli-gynan, Mr. Evans, Adwy'r Clawdd, a Robert Llwyd, Nant-y-ffrith (amaethdŷ gerllaw yr Adwy). Hefyd, Edward Hughes, Adwy'r Clawdd, Richard Hughes, a John Hughes; tri o frodyr. Y diweddaf ar ol hyny, fel y dywedwyd o'r blaen, a ddaeth i fod y 'Parch. J. Hughes, Liverpool.' Pwy oedd y gweddill o'r fyntai, nid ydym yn gwybod. Dyben eu dyfodiad yn nghyd oedd myned am y waith gyntaf erioed, mewn cysylltiad â Methodistiaeth, i bregethu'r efengyl i baganiaid anwybodus goror Clawdd Offa. Y ddau gyntaf a enwasom oeddynt ddau bregethwr, a'r pump eraill i arwain ac i gynnorthwyo yn y canu. Buasai yn bur dda genym pe buasai enwau yr holl fyntai ar gael, ond nid ydynt.

Oddeutu wyth o'r gloch, ar foreu sabboth, yn yr hâf, cychwynodd y fyntai ryfedd hon o'r dref; gŵr ar ei farch, a bachgenyn wrth ei ysgil. Mae yn debyg na welwyd o'r blaen, mewn tref na gwlad, y