fath fyntai ryfedd. Braidd na thybiem eu bod rywbeth yn debyg i'r caravan yn teithio crasdir tywodlyd poethdiroedd Arabia; gyda'r eithriad mai camelod gan mwyaf sydd ganddynt hwy, ond meirch gan y rhai hyn. Yr oeddynt er's peth amser wedi arfaethu hyn, ac nid hyny yn unig, ond wedi pennodi allan facs eu llafur.
Y maes ydoedd Bangor-is-y-Coed; treflan bum' milldir o Wrecsam; hefyd Worthenbury, tref arall fechan, rhwng hyny a'r Eglwys Wen. Cychwynasant o Wrecsam, fel y dywedwyd o'r blaen, oddeutu wyth o'r gloch yn y boreu. Troisant eu hwynebau tua Bangor-is-y-Coed, hwyliasant eu camrau tuag yno, ac i Bangor yn llwyddiannus y cyrhaeddasant. Wedi cyrhaedd o honynt i'r dreflan, aethant yn un llu mawr gyda'u gilydd at ddrws tŷ tafarn, a gofynasant i ŵr y tŷ a allent gael rhoddi'r anifeiliaid i fyny a chael ychydig ebran iddynt, yn nghyd a thamaid o giniaw iddynt hwythau eu hunain. Heb gymmeryd llawer o amser i ystyried y cwestiwn, fe farnodd y tafarnŵr wrth weled cynnifer, fod yno le iddo wneyd ceiniog oddiwrthynt, felly efe a gymmerodd y meirch i'r ystablau, ac a'u porthodd, a pharotoisant yn yr Inn giniaw iddynt hwythau hefyd. Yr oedd y tafarnwr yn gwneuthur rhyw lygad cornelog arnynt yn awr ac eilwaith, ac fel un yn methu a deall pa beth allasai fod dyben dyfodiad y fath rai ar foreu sabboth. Yn fuan wedi eistedd o honynt, dywedasant wrtho eu neges, sef mai dyfod yno a wnaethant i bregethu Iesu Grist yn Geidwad i bechaduriaid. Mae'r tŷ y cymmerodd yr ymddyddan le o flaen, ac yn wynebu eglwys Bangor, ac yn agos iawn ati. Gofynasant iddo hefyd 'a fyddai ganddo ryw wrthwynebiad rhoddi benthyg cadair iddynt, i'r pregethwr sefyll arni pan yn pregethu? Wrth ofyn hyn o gymmwynas, yr oeddynt ar yr un pryd yn sicrhau iddo y byddai y bregeth drosodd cyn dechreu gwasanaeth yr eglwys, ac y byddai iddynt, un ac oll, fyned i'r eglwys. Wedi i'r gŵr weled, ac erbyn hyn farnu nad oedd dim yn afresymol yn nghais y dyeithriaid, nac ychwaith un math o berygl terfysg, efe a ddywedodd yn rhwydd y caent fenthyg cadair, a chroesaw. Wedi ennyd, fe ddaeth yr amser i ddechreu, ac fe ddygwyd y gadair i'r lle. Fe ymsefydlodd y fyntai o ddeutu'r gadair, yn