nghylch dau ddwsin mewn nifer. Yna fe esgynodd Thomas Edwards, o Liverpool, ar y gadair, ac a roddodd bennill allan i'w ganu. Hyd y mae Mr. Richard Hughes yn cofio, y geiriau a ganwyd gyntaf oeddynt―
'Come, ye sinners, poor and wretched,
Weak and wounded, sick and sore;
Jesus ready stands to save you,
Full of pity joined with power:
He is ready: He is willing,
Doubt no more.'
Ar hyn rhoddodd y cantorion allan eu lleisiau, a dechreuasant ganu. Gan nad ydyw y dreflan ond bechan, a'i holl drigolion ond ychydig nifer, aeth sŵn y canu o'r bron trwy yr holl le, ac yn ebrwydd daeth amryw o'r trigolion i'r fan i weled a chlywed. Daliwyd ati i ganu hyd nes y daeth amryw yn nghyd, ond eu bod ar y dechreu yn lled wasgaredig. Y pregethwr, cyn dechreu darllen rhanau o air yr Arglwydd, yn garedig a'u cyfarchodd, ac a'u gwahoddodd i ddyfod yn nes. Dywedodd hefyd ddyben eu dyfodiad, sef mai dyfod yno a wnaethant i roddi gair o gyngor i'r bobl, trwy bregethu iddynt yr efengyl. Sicrhâodd hefyd iddynt mai nid dyfod yno a wnaethant yn erbyn yr eglwys, ond y byddai yr oedfa hono drosodd erbyn amser dechreu gwasanaeth yr eglwys, ac yr aent hwythau bob un i'r eglwys. Wedi hyn daeth amryw o'r bobl yn nes at y pregethwr, ond eraill a safasant o hirbell hyd y diwedd. Ar hyn, darllenodd Thomas Edwards ranau o'r gair sanctaidd, gweddïodd, a chymmerodd ei destyn. Cafwyd pob llonyddwch, a gwrandawiad astud. Terfynodd yr oedfa yn brydlon, ac aethant oll gyda'u gilydd i hen eglwys Bangor-is-y-Coed. Dyma'r ysgogiad cyntaf erioed a wnaeth y Trefnyddion Calfinaidd tuag at oleuo ac efengyleiddio trigolion goror Clawdd Offa, y rhai ar y pryd oeddynt yn eistedd yn mro a chysgod angau. Ni byddai yn ormod dyweyd fod y preswylwyr yn gyffredinol, ar y pryd, yn meddiant tywyllwch anwybodaeth, o'r bron yn baganiaid hollol, yn ystyr eangaf y gair. Ar ol cael tamaid o giniaw yn y tŷ tafarn, aethant oddiyno, fel y crybwyllasom o'r