Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blaen, i dref fechan arall gerllaw, o'r enw Worthenbury, lle heb fod yn nepell o hen gartref yr anfarwol Philip Henry, yr hwn a fu am dymmor yn weinidog yr eglwys yn y lle.

Mae yn ymddangos fod amryw o drigolion y dref fechan hono ar y pryd odditan effeithiau diodydd meddwol, yr hyn a barodd na bu eu dyfodiad i'r lle hwnw mor ddymunol ag i Bangor. Dychwelasant erbyn yr hwyr i Wrecsam.

Cyfeillion Gwrecsam, fel y gwelir, mewn cysylltiad â brodyr Adwy'r Clawdd, fuont yn offerynau cyntaf erioed, yn yr undeb Methodistaidd, yn swnio yn nghlustiau preswylwyr y wlad frâs hono efengyl y bendigedig Iesu. Mae yr ychydig hâd hwnw, a roddwyd yn y priddellau, erbyn hyn wedi dyfod yn gnwd lled doreithiog. Mae dau o'r fyntai ryfedd hon eto yn fyw, sef Mr. Evans, Adwy'r Clawdd, a Mr. Richard Hughes, stationer, Wrecsam, gan pa rai y cawsom yr hanes; y rhai hefyd ydynt barod i gadarhau gwirionedd yr hyn a ysgrifenwyd.

Yr oedd y diweddar Mr. Thomas Glyn Jones, Mostyn, swydd Fflint, yn un o'r rhai ieuaingc yn mhlith y fyntai. Dywedai y brawd hwnw wrth gyfaill iddo, mai y waith gyntaf erioed iddo ef weled dagrau Seisnig ar y gruddiau oedd yn Mangor-ïs-y-Coed, pan oedd Mr. Thomas Edwards, o Liverpool, yn pregethu. Fe fu tywallt yr ychydig ddagrau hyny yn ngoror Clawdd Offa, ar y pryd, yn ddechreuad tywallt dagrau lawer ar ol hyn, ac hefyd yn ddechreuad tywallt allan y galon mewn edifeirwch, yr hyn a dybenodd yn iachawdwriaeth i laweroedd.

Da genym allu ychwanegu fod ysgogiad yn awr ar droed tuag at adeiladu capel perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd yn Bangor. Y mae brawd o'r enw Robert Evans, yr hwn a ddaeth yma i breswylio er's ychydig flynyddoedd yn ol, wedi cael tueddu ei feddwl i gymmeryd y cam hwn. Y mae yno eisoes ysgol sabbothol yn cael ei chynnal.

Dymunol fuasai genym roddi hanes helaethach am fanylion pethau yn y blynyddoedd diweddaf yn Abbot-street; ond gan fod hyn o gofnodau wedi chwyddo eisoes yn llawer mwy nag y meddyliwyd ar