Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Trig yn Seion, aros yno,
Lle mae'r llwythau'n d'od y'nghyd;
Byth na 'mad oddiwrth dy bobl,
Nes yn ulw'r elo'r byd.'

Traddodwyd y bregeth ddiweddaf, yn hen gapel Abbot-street, sabboth, yr eilfed-ar-ugain o Fedi, 1867, gan y Parch. David Hughes, Bryneglwys. Hyd ydym yn cofio, nid oedd dim yn y testyn na'r bregeth yn cyfeirio at yr amgylchiad, er ei fod i'r eglwys ar y pryd, ac i'r gwrandawyr hefyd, yn beth gwir nodedig. Yr ydym yn tueddu i feddwl y dylasai gweinidog y lle fod yno y sabboth hwnw; oblegid y buasai ganddo ef lawer o fantais i wneyd sylwadau ar amryw bethau yn eu cysylltiad â'r achos yn y lle, ac hefyd â'r amgylchiad hwnw-pethau ag a fuasent yn tueddu i adael argraff o ddifrifwch ar feddyliau y gwrandawyr. Yr oedd y teimladau ar y pryd yn ddyeithr, amrywiol, a thra gwahanol. Bron na thybiem fod tebygolrwydd rhwng eu teimladau hwy ar y pryd â theimladau nifer liosog o'r gaethglud gynt a ddychwelasant o Babilon i Jerusalem. Yr oedd gwahaniaeth y mae'n rhaid addef, ond yr oedd yno debygolrwydd hefyd. Yr oedd yno un dosbarth yn wylo'r dagrau yn hidl, wrth weled nad oedd gogoniant y deml adgy weiriedig gynt yn deilwng o'i chystadlu mewn gwychder a gogoniant â'r un o'i blaen. Yr oedd yn Abbot-street hefyd y sabboth olaf hwnw rai o'r hynaf wŷr a'r hynaf wragedd yn methu a pheidio galaru hyd nes wylo'r dagrau; nid mewn un modd am fod y lle yr oeddynt hwy ar gefnu arno yn lle mor ddymunol a chysurus, ond yn unig oblegid mai y lle hwnw oedd y fan ddedwydd hono lle y byddent yn arfer mwynhau cysur a gorfoledd eu crefydd. Yma y bu rhai o'r hen bererinion hynaf yn cyd-eistedd, yn cyd-fwyta, yn cyd-wledda a llawenhau, a hyny am flynyddau lawer. Yr oedd hen serch at y lle a'r ymlyniad wrtho, wedi dyfod o'r bron yn deimlad rhy anngherddol i feddwl ei adael. Yr oedd myfyrio ar y peth hwn, ac yn y peth hwn aros, yn peri fod dyfnderoedd ffynnonau galar yn ymfyrlymio allan yn ffrydiau aruthrol o ddagrau lawer. Yr oedd rhai o honynt yn rhagbortreiadu yn eu dychymmygion y tristwch a'r hiraeth fyddai yn