rhwygo eu teimladau yn y dyfodol, pan yn cofio am yr hen gartref. Yr oedd dosbarth arall ieuengach yn mhlith y gaethglud ddychweledig, y rhai ni wyddent ddim am Jerusalem a'r deml gyntaf, ond yn unig mewn hanes. I'r dosbarth hwn yr oedd yr oll o'r hen bethau megys out of sight, out of mind. Ond yr oeddynt hwythau yn llawenhau am eu bod yn cael gweled hen ddinas beddrod eu tadau, a chael ad-feddiannu yr hyn a fu am ysbaid deng mlynedd a thriugain yn meddiant estroniaid.
Yn gyffelyb i hyn yr oedd dosbarth lliosog o'r meibion a'r merched ieuaingc yn ein plith ninau, ac hefyd ddosbarth ieuengach o'r plant, y rhai oeddynt oherwydd eu hoedran heb weled, gwybod, na theimlo yn gyffelyb i'r hen frodyr yn y lle. Nis gallasai fod eu hymlyniad a'u serch hwy eto wedi dyfod y peth ag oedd yn eu tadau. Yr oedd y dosbarth hwn, gan hyny, o herwydd y rheswm a grybwyllwyd, nid yn ngafael tristwch a galar yn cefnu ar y lle, ond yn llawenhau a gorfoleddu. Ymadawsant â chalon lawen, wyneb siriol, ac hefyd â sain cân yn eu genau. Dyma mewn rhan oedd ansawdd teimladau yr eglwys, y gynnulleidfa, a'r ysgol sabbothol yn y lle hwn, y sabboth olaf y buont yn y capel, a'r dydd yr ymadawsant. Yr oedd yma orfoledd a llawenydd mewn un ystyr; a llais wylofain a galar mewn ystyr arall; a'r ddau deimlad, yn gyffelyb i liwiau yr enfys, yn rhedeg i'w gilydd, ac yn ymgymmysgu yn eu gilydd, fel mewn gwirionedd yr oedd yr olygfa wedi dyfod yn un brydferth a dymunol. Oni bai fod rhyw beth yn gyssylltiedig â hen deimladau nas gellir yn hawdd gyfrif am danynt, diau genym y buasai yr hynaf wŷr a'r hynaf wragedd yn llawenhau llawn cymmaint â'r bobl ieuaingc, oblegid nid oedd dim swynol na dymunol yn yr hen gapel yn y blynyddoedd diweddaf i'w cadw ynddo.
Yr oedd mewn cyssylltiad â'r achos yn ei ymadawiad â'r hen gapel, ac yn yr ymsefydliad yn y newydd, dri o weinidogion a phedwar o ddiaconiaid. Y gweinidogion oeddynt y Parchedigion J. H. Symond, gweinidog a bugail y lle; a William Lewis, diweddar genhadwr ar Fryniau Cassia, yn India'r Dwyrain; a Richard Jones, yr hwn ni chafodd fwynhau ein cyfarfod yn y capel newydd, ond