hwnw fu genym i osod yr eisteddleoedd. Yr oedd yn gorwedd yn glaf amser yr agoriad, a bu farw y drydedd wythnos ar ol hyny, er colled a galar mawr i ni oll. Y diaconiaid oeddynt y Meistri Richard Hughes, Evan Powell, Richard Brunt, yn nghyd ag ysgrifenydd hyn o hanes. Yr oedd nifer y cymmunwyr ar hyn o bryd yn 206. Nifer y plant perthynol i'r eglwys oddeutu 80. Nifer holl ddeiliaid yr ysgol sabbothol ar y llyfrau oeddynt 273. O'r nifer hwn byddai yn bresenol oddeutu dau gant ac ugain; ar brydiau byddai llai, ac ambell waith byddai rhagor. Yr oedd nifer lled fawr hefyd yn y cyfamser o rai ar brawf, ac yn ceisio aelodaeth.
Byddai nifer y gwrandawyr ar nos sabboth tua 400, ond yn y boreu ychydig yn llai. Gan y bwriedir yn niwedd hyn o hanes roddi taflen gryno yn cynnwys y manylion am ansawdd yr achos, ni bydd i ni yma, gan hyny, ymhelaethu ar hyn.
Y sabboth olaf o fis Medi, 1867, ydoedd y tro cyntaf i ni fyned i addoli i'r capel newydd. Yr oedd uchel-ŵyl gyfarfod wedi ei threfnu a'i hir ddysgwyl fel agoriad iddo. Boreu sabboth am ddeg, pregethwyd y tro cyntaf ynddo gan y Parch. L. Edwards, D.D., Bala, ar 'Pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef?' &c. Psalm xxiv. 3-10. Pregeth hynod o gymhwys i'r adeg, a chryn enneiniad hefyd ar yr holl wasanaeth. Am hanner awr wedi dau yn y prydnawn, yr oedd y gwasanaeth yn Saesneg, a'r Parch. D. Charles, B.A., Abercarn, yn pregethu yn dda a phriodol i'r amgylchiad. Am chwech yr oedd y ddau ŵr parchedig uchod yn pregethu yn Gymraeg. Yr oedd genym bregethu drachefn nos Lun, a thrwy ddydd Mawrth, a nos Fercher. Ac heblaw y gweinidogion oedd gyda ni y sabboth, daeth yma i bregethu y Parchedigion H. Rees, ac O. Thomas, Liverpool; Joseph Thomas, Carno; Robert Roberts, Carneddi, a T. Charles Edwards, Liverpool. Gwnaed casgliad yn mhob oedfa, a chyrhaeddodd erbyn y diwedd dros £121. Y sabboth canlynol pregethodd y Parch. J. H. Symond, yn y boreu, ar 'Mor ofnadwy yw y lle hwn! nid oes yma ond tŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd.' Genesis xxviii. 17; a'r nos ar 'Yn mhob man lle y rhoddwyf gaffadwriaeth o'm henw, y deuaf attat ac y'th fendithiaf.' Exod. xx. 24.