Wrth gymmeryd un drem gyffredinol ar yr achos yn ei wedd ysprydol, gellir hysbysu fod pethau ar y cyfan yn lled gysurus. Mae yma ryw rai yn feunyddiol o'r newydd yn ymofyn lle ac aelodaeth yn mhlith y frawdoliaeth. Mewn un ystyr gellir dyweyd nad oes yn ein plith ryw lawer o bethau mawrion a rhyfedd yn cymmeryd lle, megys mellt a tharanau, a daeargrynfâau; ond y mae yma ryw lef ddystaw fain er hyny, a hono ar brydiau, ac nid anfynych, yn peri ei chlywed a'i theimlo yn bur effeithiol. Treulir ein cyfarfodydd eglwysig, gan mwyaf, trwy fod rhyw rai yn y frawdoliaeth yn adrodd eu profiadau; sef y peth hwnw a deimlent yn eu hysbrydoedd yn yr ymarferiad â moddion grâs. Treulir ambell i gyfarfod i ymdrin â phwngc o athrawiaeth; rheol ddysgyblaethol; ac adrodd adnodau ar ryw fater wedi ei drefnu a'i hysbysu yn flaenorol; ac weithiau trwy ddysgyblu am fai, pan y bydd bai yn galw am oruchwyliaeth felly. Rhoddir y flaenoriaeth bob amser yn ein cyfarfodydd eglwysig i'r hyn a elwir yn 'ddyweyd profiad.' Treulir un cyfarfod bob mis, o'r hyn lleiaf ran o hono, i ymddiddan â, a derbyn rhai o'r newydd at fwrdd yr Arglwydd. Mae'r weinidogaeth yn ein plith yn bur gyson, a llawer o amrywiaeth yn y doniau; ac ar y cyfan yn hynod o'r coeth. Y mae ein gweinidog, y Parch. J. H. Symond, yn arfer pregethu yn y lle un sabboth yn y mis. Cynhelir un cyfarfod yn yr wythnos gyda'r bobl ieuaingc yn benaf, i ddarllen a chwilio yr ysgrythyrau, a hyny mewn dullwedd sydd yn tueddu at eu heglurhau a pheri argraff ddaionus ar eu hysbrydoedd. Cynhelir cyfarfod arall ar noson o'r wythnos i addysgu'r dosbarth ieuengaf o'r plant. Y prif athraw a llywydd yn y cyfarfodydd dyddorol hyn ydyw gweinidog y lle. Hefyd, y mae yn dda genym ychwanegu fod gan y chwiorydd eu cyfarfod wythnosol yn eu plith eu hunain, ar wahan oddiwrth y brodyr. Amcan y cyfarfod hwn eto ydyw addysgu y naill y llall yn yr ysgrythyrau; cynghori eu gilydd, ac ymarfer eu hunain i gydweddïo. Yn ychwanegol at hyn, yr hyn hefyd sydd yn werth ei hysbysu, mae dosbarth lliosog o'r chwiorydd wedi ymffurfio yn fath o gymdeithas, i'r dyben o wneuthur ymchwiliad yn mhlith y tlodion; hyny ydyw, y tlodion gan mwyaf sydd yn dwyn cyssylltiad â'r
Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/74
Gwedd