gynnulleidfa Gymreig yn y lle. Enw'r gymdeithas ydyw 'Dorcas.' Mae ymysgaroedd tosturiol y Ddorcas' hon, yn nghyd a'i llaw haelionus, yn enwedig yn misoedd oerion y gauaf, wedi estyn allan roddion lawer.
Mae yr addoldŷ newydd yn adeilad lled fawr-yn agos i saith-arugain o latheni o hyd oddifewn i'r muriau, a phedair-ar-ddeg o latheni o led. Y mae gallery ar ddwy ochr iddo, yn nghyd a gallery hefyd yn un pen. Y fo ydyw'r addoldŷ ymneillduol helaethaf yn y dref. Mae wedi ei gyfaddasu i gynnwys wyth cant i eistedd ynddo yn gysurus. Mae'r front, er yn syml, eto â rhywbeth ynddo yn fawreddog ac ardderchog. Mae'r ddwy gongl yn y front ar ffurf math o dyrau, ac o'r hanner i fyny yn ymffurfio yn binaclau pigfeinion, troedfedd[1] o uchder. Oddifewn i'r tyrau hyn y mae'r esgynfan i'r gallery, wedi eu gwneuthur yn risiau troellog; hawdd hyd yn oed i'r oedranus eu dringo. Mae dau ddrws yn y front yn cael eu cylchynu gan ddau o byrth (porches), pob un yn cael eu cynnal gan ddwy o golofnau caboledig, o'r maen a elwir y granite coch, y rhai a gludwyd i'r lle hwn o Ysgotland. Hefyd, y mae rhwng y tyrau a ddysgrifiwyd, ac oddiar y pyrth, un ffenestr fawr ac ardderchog, ac ynddi beth o'r gwydr amryliw. Mae'r ffenestr yn ugain troedfedd o uchder, ac yn ugain troedfedd draws-fesur. Mae wedi ei gweithio yn addurniadol drwyddi oll, yn enwedig ei phen uchaf. Hefyd, y mae iddi ddwy o golofnau o'r un defnydd â cholofnau'r pyrth. Mae'r ffenestr mor llydan fel y mae yn llenwi'r holl front o'r bron, o'r naill dŵr i'r tŵr arall. Mae hefyd yn y talcen arall i'r capel, o'r tu ol i'r pulpyd, ffenestr gron fawr, a mwy o gelfyddydwaith arni na'r llall: mae hon yn llawn o brydferthion y gwydr amryliw. Mae'r capel yn sefyll ar lanerch ddymunol ac er ei fod mewn cyssylltiad â'r dref, eto mewn rhan y mae allan o honi. Adeiladwyd ef ar y llaw ddeheu, yn Regent-street, ffordd yr eir o'r dref at y station. Mae hefyd wedi dygwydd yn bur hapus trwy fod tai prydferth, lle a elwir 'Bryn Edwin,' ar ei gyfer yr ochr arall i'r ffordd. Mae front y lle hwnw, am ei fod amryw latheni oddiwrth y ffordd, ac iddo pleasure-ground o'i flaen,
- ↑ yn lle 'troedfedd' darllener can' troedfedd. (gw tud 100)