Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn peri llawer iawn o ysgafnder, a phethau eraill dymunol i front y capel. Costiodd y tir, a'r addoldy sydd yn awr arno, yn nghyd a'r railing sydd yn ei amgylchynu, yn lled agos i chwe' mil o bunnau. O'r swm mawr hwn y mae pedair mil o bunnau eisoes wedi eu talu, ac felly dwy fil sydd o ddyled yn aros ar hyn o bryd.

Mae pob pregethwr fu ynddo, o'r bron yn ddieithriad, yn cyddystiolaethu ei fod yn un o'r addoldai hawddaf i bregethu ynddo, yn holl dywysogaeth Cymru. Ar ddyddiau agoriad y capel, ac ar amser uchel-ŵyliau eraill, gwelwyd yn yr addoldŷ uwchlaw deuddeg cant o wrandawyr. Maddeued y rhai sydd yn y gymmydogaeth am i ni fanylu cymmaint yn narlunio'r capel: gwnaethom fel hyn, rhag y dygwydd i'r llyfryn hwn ddyfod i law y pell a'r dyeithr. Fe allai fod rhai yn beio am i'r brodyr yn y lle anturio gwneyd capel mor fawr. Wel, y mae yn rhaid addef fod ei faint yn achlysur o'r hyn lleiaf i rai, os nad i luaws wneyd y sylw hwnw. Mae rhyw bethau, er hyny, yn cyfiawnhau y cyfeillion yn y lle am wneuthur fel y gwnaethant. Mae yn hysbys i bawb sydd yn gydnabyddus â'r dref, fod cynydd ei phoblogaeth yn y blynyddoedd diweddaf hyn yn fawr iawn. Heblaw hyny, mae dau o weithfaoedd glô mawrion yn cael eu hagor ar hyn o bryd gerllaw i'r dref: un yn agos i'r Rhos-ddu, oddeutu milldir o'r dref, a'r llall yn agos i'r Railway sydd yn rhedeg rhwng Gwrecsam a Rhiwabon, llai o ffordd na dwy filldir o'r dref. Yn mhen ychydig flynyddoedd eto, dyweder chwech neu ddeg fan bellaf, fe fydd yn y ddau waith glô hyn ddwy neu dair mil o weithwyr, a dyweyd y lleiaf, yn mhlith y miloedd hyn, yr ydym yn meddwl mai nid rhyfyg ynom ydyw dyweyd y bydd rhai canoedd o honynt yn Gymry gwaed coch cyfan.

Mae hyn yn un peth, ni dybiwn, sydd yn cyfiawnhau adeiladu addoldŷ mor eang. Gallasem enwi pethau eraill fel rhesymau, ond gadawn ar hyn yn unig. Mae nifer o'r rhai mwyaf ffyddiog ac eang galon, yn ein plith, yn meddwl y bydd yn rhaid adeiladu addoldŷ arall, cyn hir, yn nghymmydogaeth Fairfield, aden newydd o'r dref yn cynnwys amryw ganoedd o drigolion.