Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ydym yn cyflwyno ein hachos i'ch sylw caredig, gan obeithio y derbynir ni etto i fod yn gyfranogwyr o'ch haelioni. Yr ydym yn gweddio yn ddidwyll am fendith i ddilyn eich cynlluniau canmoladwy i weithio yn mlaen a thaenu efengyl Crist.

Arwyddwyd, yn enw yr holl eglwys, genyn ni,

Daniel James, Gweinidog,

William Jones,
Herbert Williams,
Fran. Morgan,
Wm. Thomas,
Thos. Pritchard,
Wm. Rogers.

Henuriaid Llywodraethol

Wm. Morgan.
Hen. Morgan.

Diaconiaid.

Yr ydym ni y rhai y mae ein henwau isod, fel rhai adnabyddus o achos eglwys y New Inn, yn ddidwyll yn cymeradwyo y cais uchod i'ch ystyriaeth, gan obeithio yr ystyrir ef yn deilwng o'ch sylw.

Edmund Jones, gweinidog yn Ebenezer.
Emanuel Davies, gweinidog yn Hanover."

Yn ol y llythyr uchod, yr oedd yr eglwys mewn angen am weinidog cynnorthwyol yn y flwyddyn 1791. Ryw amser wedi hyn, dichon yn mhen blwyddyn neu ddwy, rhoddasant alwad i Mr. Thomas Walters, yr hwn oedd yn bregethwr teithiol yn mysg y Methodistiaid. Efe oedd y cyntaf o weinidogion y New Inn a urddwyd yn ol y drefn arferol yn mysg yr Annibynwyr. Yr oedd Mr. Walters yn bregethwr melus a phoblogaidd, ond nid ymddengys i'w weinidogaeth fod o fawr les i'r eglwys, oddieithr am ychydig o flynyddau cyntaf ei dymor yno, pan y bu yn hynod o'r llafurus, oblegid ymroddodd yn fuan wedi hyny i ymdrafod â phethau y bywyd hwn i'r fath raddau, nes y collodd ysbryd y weinidogaeth, ac yr esgeulusodd ei waith; a'r canlyniad fu i'r achos wywo a gwanhau yn fawr. Yr oedd wedi myned gymaint i ysbryd y byd fel na welid ef braidd un amser mewn cyfarfod crefyddol ar ddyddiau o'r wythnos, pa mor nodedig a phwysig bynag y gallasent fod. Yr oedd yr enwog Ebenezer Morris yn teimlo yn anwyl iawn at Mr. Walters, am mai dan ei weinidogaeth ef y cafodd ei ddychwelyd at yr Arglwydd. O barch i'w dad yn yr efengyl, ac oddiar awydd am ei weled, anfonodd ei gyhoeddiad i'r New Inn. Daeth yno dorf o bobl yn nghyd, ond nis gallodd y gweinidog fforddio i roddi y maes a'r fasnach heibio am ddwy neu dair awr i fyned i wrandaw dyn mor enwog. Cafodd Mr. Morris, wrth reswm, ei siomi yn fawr yn ei absenoldeb. Clywsom Mr. Powell, Caerdydd, yn adrodd peth cyffelyb. Yr oedd ef, yn fuan ar ol iddo ddechreu pregethu, wedi myned ar daith trwy sir Fynwy, gyda Mr. Williams, Troedrhiwdalar, yr hwn oedd y pryd hwnw, fel y mae etto yn parhau, yn un o brif enwogion y pulpud Cymreig. Wedi pregethu yn y New Inn un noswaith i dorf fawr, yn absenoldeb Mr. Walters, yr oedd eu cyhoeddiad ganol dydd dranoeth yn Mhenywaun, cangen o'r New Inn y pryd hwnw, ac yn ymyl anedd Mr. Walters. Pan oeddynt yn agoshau at y capel, cyfarfyddent a'r gweinidog yn myned i ffwrdd ar ryw neges fydol. Cyfarchodd hwynt, a dywedodd nad oedd ganddo ef amser i ddyfod i'w gwrandaw. Nid rhyfedd i'r achos nychu dan weinidogaeth dyn o'r fath. Rhoddodd Mr. Walters ei weinidogaeth yn y New Inn i fyny tua y flwydd-