yn 1817, ac ymunodd drachefn â'r Methodistiaid. Mae yn ymddangos i'r eglwys ar ol ei ymadawiad ef fod tua thair blynedd heb un gweinidog sefydlog. Ionawr 6ed, 1820, cafodd Mr. Benjamin Moses, myfyriwr o athrofa Llanfyllin, ei urddo yno, ond ni fu y cysylltiad hwn o fawr barhad, nac o gysur i'r eglwys. O herwydd peidio rhodio yn deilwng o'r efengyl bu raid i'r eglwys ymwrthod a Mr. Moses cyn pen llawn ddwy flynedd ar ol ei urddo.
Cafodd eglwys y New Inn dywydd teg a digwmwl iawn o ddechreuad yr achos, tua y flwyddyn 1740, hyd gwymp Edward Francis, oddeutu diwedd 1789, neu ddechreu 1790. Os byddai ambell elyn oddiallan yn rhoddi iddi ergyd yn awr a phryd arall, yr oedd tangnefedd perffaith oddi-fewn, a'r pulpud yn cael ei lenwi gan olyniad o weinidogion hyawdl a llawn o dân sanctaidd. Ond ar syrthiad Mr. Francis dechreuodd arni ddiwrnod tywyll du, yr hwn a barhaodd felly agos yn ddigyfnewid hyd ymadawiad Mr. Moses yn 1822. Bu cwympiadau Francis a Moses yn ddolur tost i'r achos, a bydolrwydd ac esgeulusdod Walters yn nychdod truenus iddo.
Pa fodd bynag, aeth y gauaf ystormus heibio, a dilynwyd ef gan haf hir a dymunol. Yn niwedd y flwyddyn 1822, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. David Davies, myfyriwr yn athrofa y Neuaddlwyd, ac urddwyd ef ar y 27ain o Fawrth, 1823, ac y mae yn aros yno hyd y dydd hwn. Yr oedd Mr. Davies ar ei gychwyniad yn y weinidogaeth "fel cân cariad un hyfrydlais yn canu yn dda," ac ar ol saith mlynedd a deugain o fyned i mewn ac allan o flaen y bobl, y mae y dydd hwn yn llawn mor dderbyniol a'r dydd cyntaf, ac yn llawer mwy ei ddylanwad nag y gallasai fod y pryd hwnw.
Mae y gwasanaeth yn y New Inn er's amryw flynyddau bellach yn cael ei ddwyn yn mlaen agos yn hollol yn yr iaith Saesonig. Mae newid iaith yr addoliad wedi bod yn ddinystr i lawer achos blodeuog ar derfynau Cymru a Lloegr. Ond y mae wedi bod yn wahanol yma. Er fod rhai hen bobl ar y dechreu yn grwgnach ychydig, ac yn awgrymu mai balchder oedd dwyn y Saesoneg "oerllyd" i mewn i'r gwasanaeth, aed trwy y cyfnewidiad heb nemawr o ofid, ac y mae y gynnulleidfa yn awr, o bosibl, yn lluosocach nag y bu erioed, er fe ddichon yn cynnwys llai o bigion teuluoedd parchus yr ardaloedd cymydogaethol, o herwydd fod achosion newyddion wedi cael eu sefydlu trwy yr holl wlad yn mhob cyfeiriad.
Mae yn perthyn i'r eglwys hon yr anrhydedd o fod yn fam i amryw eglwysi cymydogaethol. Yn amser Mr. Abraham Williams, corpholwyd cangen yn Brynbiga. Yn amser Mr. Walters y dechreuwyd yr achosion yn Nghaerlleon a Phenywaun; yn amser Mr. Moses y dechreuwyd Maes-llech; a chorpholwyd Cwmbran—y gryfaf ei chyfansoddiad o holl ferched y fam eglwys yn nhymor gweinidogaeth y gweinidog presenol.
Hen anedd-dy a elwid y Neuadd, wedi ei gyfaddasu i fod yn lle addoliad, fu ty cyfarfod cyntaf yr eglwys hon. Yn mhen rhai blynyddau adeiladwyd yno gapel, ac yn y flwyddyn 1825, adeiladwyd yn ei ffurf bresenol, ond iddo gael ei brydferthu a gosod eisteddleoedd newyddion ynddo yn 1844. Mae yr eglwys hon er ei dechreuad wedi bod yn nodedig am ei doniau a'i gwresogrwydd crefyddol. Nid ydym gan hyny i ryfeddu ei bod, o bryd i bryd, wedi anfon allan niferi o'i phlant i bregethu yr Efengyl. Heblaw y rhai fuant yn weinidogion yn y lle, cafodd y rhai canlynol ei cyfodi i bregethu yma:—