Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adawiad a'r wlad hon addawai ddychwelyd, ond bu yn hir yn nychu ac yn dihoeni, a bu farw Mawrth Sed, 1870. Hyderwn y denfyn yr Arglwydd yn fuan fugail wrth fodd ei galon i ofalu am y praidd nodedig hyn.

Ni bu eglwys y Tynewydd ar un cyfnod o'i hanes yn lluosog iawn. Dichon na fu rhif y cymunwyr unrhyw amser yn fwy na thri chant, os buont yn gymaint a hyny, ond nis gwyddom am un eglwys yn y Dywysogaeth sydd wedi bod o oes i oes yn fwy enwog am ei bywiogrwydd, ei sirioldeb, a'i gwresogrwydd crefyddol. Mae y tân wedi cael ei gadw i gyneu ar yr allor braidd yn ddiatal oddiar ffurfiad cyntaf yr eglwys hyd y dydd hwn, ac olyniad o ddynion rhyfeddol am eu teimladau toddedig dan y gair wedi bod yn perthyn i'r gynnulleidfa. Cyfeiria eu hen gymydog, Phillip Dafydd, Penmain, yn fynych yn ei ddyddlyfrau at ei "gymydogion y neidwyr," sef pobl y Tynewydd, gyda gradd o annghymeradwraeth, oblegid yr oedd pob dynesiad at Fethodistiaeth yn groes i'w feddwl ef. Mae yn ddigon tebygol y buasai yn fanteisiol iawn i achos crefydd, yn yr oesau a aethant heibio, pe buasai mwy o oleuni Penmain yn y Tynewydd, a mwy o dân y Tynewydd yn Mhenmain.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

THOMAS WALTERS. Nid oes genym ond y peth nesaf i ddim o hanes y gwr rhagorol hwn. Ymddengys mai yn mhlwyf Mynyddislwyn y cafodd ei eni a'i fagu. Amaethwr cyfrifol ydoedd yn byw ar ei dir ei hun, mewn lle a elwir Pantyrhesg. Yn y flwyddyn 1729 y ganwyd ef, ac felly nid oedd ond rhwng naw a deng mlwydd oed pan yr ymwelodd Howell Harries gyntaf a'r ardal. Nis gwyddom trwy bwy na pha bryd yr ennillwyd ef at grefydd, ond y mae yn lled sicr iddo gael ei ennill yn dra ieuangc. Yr oedd Herbert Jenkins, wedi hyny gweinidog yr Annibynwyr yn Maidstone, Kent, yn enedigol o'r un ardal a Thomas Walters, ac yn bregethwr rhyfeddol o alluog a dylanwadol, mor fore a'r flwyddyn 1739, a dichon mai trwyddo ef yr ennillwyd Mr. Walters i gofleidio crefydd. Fel y nodasom, darfu iddo ef gyda phump eraill, ddechreu yr achos yn 1758. Urddwyd ef, wrth bob tebygolrwydd, gan y bobl eu hunain, tua y flwyddyn 1765; parhaodd i lafurio yn eu mysg hyd ddydd ei farwolaeth, sef Mai 25ain, 1794, pryd yr oedd yn 65 oed.

Ychydig a fedrwn gofnodi am nodweddiad Mr. Walters, er y dylasem fod yn gwybod llawer am dano, gan i ni fod ugeiniau o oriau yn nghymdeithas ein hen gyfaill anwyl, Mr. Phillip Williams, Toneiddon, yr hwn a fu lawer o flynyddoedd dan ei weinidogaeth. Clywsom ef droion yn crybwyll enw ei hen weinidog, ond ni buom ar y pryd yn ddigon doeth i holi nemawr arno yn ei gylch. Mae yn gofus genym ei glywed yn dyweyd fwy nag unwaith fod Mr. Walters yn un o'r dynion mwyaf hynaws ac addfwyn ei dymer a adnabu ef erioed, a'i fod yn bregethwr hynod o effeithiol a gwresog. Yn ol tystiolaeth ei hen gymydog, Phillip Dafydd, yr oedd llawer mwy o wres nag o oleu yn mhregethau Thomas Walters. Yn ei ddyddlyfr am Hydref 24ain,'1773, cawn'y nodiad canlynol: "Yrhwyr, hwn bum yn gwrandaw Thomas Walters, yr hwn ni chlywais erioed o'r blaen. Pa beth i'w wneyd a'i bregeth, nis gwn i, ac y mae yn ddirgelwch i mi pa fodd y gall neb sydd yn feddianol ar ryw fesur o wybodaeth