gael unrhyw adeiladaeth wrth ei wrandaw. Enwodd fel ei destyn Mat. v. 6, ond ychydig neu ddim a wnaeth o hono." Dylem gofio fod rhagfarn Phillip Dafydd mor gryf yn erbyn pob peth tebyg i Fethodistiaeth, fel mai braidd yr oedd yn gymhwys i roddi barn deg ar bregeth gwr mor Fethodistaidd a Thomas Walters. Pa fodd bynag, dengys y difyniadau canlynol fod cyflawnder o dân yn ei gyflawniadau os nad oedd ynddynt ddigon o oleuni i foddio P. Dafydd: "Hydref 6ed, 1776. Bum heddyw mewn cyfarfod gweinidogion yn nhy cyfarfod Mr. Edmund Jones. Pregethodd Mr. William Morgan, o'r Cymar, oddiwrth 1 Cor. xv. 20; a Mr. William Thomas, o Aberhonddu. Diweddwyd y gwasanaeth trwy weddi gan Thomas Walters, a mawr y swn a gadwyd ganddo ef a'i gyfeillion." "Ebrill 1af, 1778. Heddyw yr oedd cyfarfod gweinidogion yn y Casnewydd. Yn y bore, pregethodd Mr. Benjamin Davies, yn Saesonig; a Mr. William Edwards, yn Gymraeg, oddiwrth Mat. v. 3. Yn y pryd—nhawn, yn lle cadw cynnadledd, er fod ei heisiau yn fawr, gosodwyd Abraham Williams, a Thomas Walters i draddodi rhywbeth ar lun pregethau i gynhyrfu y bobl." Os nad oedd Phillip Dafydd, a Thomas Walters yn hollol gydolygu ar y ddaear am y dull goreu i wasanaethu Duw, maent yn sicr o fod yn cyduno yn hyfryd heddyw i ganu cân Moses a chân yr Oen.
THOMAS WALTERS, yr ail. Nid oes genym ddim i'w gofnodi am dano ef yn ychwanegol at yr hyn a welir yn hanes y New Inn.
WILLIAM GEORGE. Ganwyd ef yn mhlwyf Risca yn y flwyddyn 1758. Enwau ei rieni oedd David a Mary George. Bu farw ei dad pan nad oedd ef ond deg oed. Ymddengys iddo gael ychydig addysg yn ieuangc, a thrwy ddiwydrwydd personol ar ol hyny daeth yn ysgolhaig gweddol dda. Ar ol bod am rai blynyddau yn gwasanaethu gydag amaethwyr, yn mhlwyfi Henllys a Mynyddislwyn, ystoriodd ddigon o arian i'w osod ei hun yn egwyddorwas gyda Lewis Miles y saer yn Llanhiddel. Priododd a Margaret Miles, (merch ei feistr mae yn debygol), ac yna symudodd i fyw i Abercarn yn y flwyddyn 1783. Yn fuan wedi hyny, ymunodd a'r eglwys yn y Tynewydd. Nis gwyddom pa mor fuan ar ol ei dderbyn y dechreuodd bregethu. Yn ol llyfr eglwys Heol-y-felin, Casnewydd, bu yn pregethu yno Tachwedd 23ain, 1795. Mae yn ddigon tebygol ei fod wedi dechreu rai blynyddau cyn hyny. Bu yn bregethwr cynnorthwyol yn ei fam-eglwys a'r eglwysi cymydogaethol hyd 1811, pryd, fel y nodasom, yr urddwyd ef yn weinidog yn y Tynewydd. Ymneillduodd o'r weinidogaeth yn rhanol yn 1828, ac yn hollol yn 1829, ond parhaodd i bregethu yn achlysurol cyhyd ag y parhaodd ei nerth. Bu farw Chwefror 21ain, 1838, yn 81 oed, a chladdwyd ef wrth gapel y New Inn.
Pan gynygiwyd yn yr eglwys i William George gael ei anog i ddechreu pregethu, dywedir i rai o'r aelodau wrthwynebu hyny. Wrth glywed y brodyr yn gwrthwynebu y cynygiad, cyfododd un Harry Siams, yr hwn yn mhen blynyddau wedi hyny fu yn ddiacon enwog yn yr eglwys, a dywedodd "Bydd yn well gan yr Arglwydd ladd tri o'r rhai penaf o honoch nag atal un William George i bregethu yr efengyl." Yn mhen ychydig wedi hyn, bu farw tri o'i brif wrthwynebwyr, a chafodd yntau y ffordd yn rhydd i bregethu. Er nad oedd Mr. George yn cael ei resu yn mysg y pregethwyr mawr, ni bu un gweinidog erioed yn anwylach gan bobl ei ofal, na neb mwy gwresog ei ysbryd yn sefyll uwch ben cynnulleidfa. Braidd y safai un amser i fyny heb danio y gynnulleidfa. Perchid