wythnosau cyn i Mr. Harries symud o sir Gaerfyrddin i Fynyddislwyn, yr oedd Mr. Jones ac yntau i bregethu un nos Sabboth mewn amaethdy yn mhlwyf Llanddarog. Dechreuodd Mr. Harries yr oedfa, a phregethodd am tuag ugain munyd, mor felus a'r mêl, yna pregethodd Mr. Jones, ac wrth ganu ar y diwedd, torodd amryw o'r bobl allan i orfoleddu, ac aeth rhai gan angerdd eu teimlad i neidio. Yr oedd yno ddyn mawr iawn o gorff, yn sefyll yn agos i'r drws, ac yn ol yr hanes rhyw fath o bagan hollol ddigrefydd ydoedd, ond yr oedd Mr. Harries wedi swyno ei serchiadau. Wrth weled y bobl yn neidio yn lled drwsgl o amgylch Mr. Harries, ofnai y buasent yn sathru arno, ac am hyny ymwthiodd trwy y dorf gan agoryd ei freichiau mawrion am dano, rhuo fel tarw, a gwaeddi, "sefwch draw ddynion, rhag gwneyd niwed i'r un bach yma, ie, yr un bach anwyl." Un anwyl oedd Mr. Harries gan bawb, crefyddol a digrefydd, ffol a chall, ac y mae son am ei enw i'r dydd heddyw yn cynhyrfu rhyw deimladau o anwyldeb tuag ato yn ei hen wrandawyr a'i gyfeillion.
MOSES ELLIS, oedd fab i John a Mary Ellis. Ganwyd ef yn Bodfari, sir Ddinbych, Hydref 17eg, 1798. Bu i'w rieni wyth o blant, a Moses oedd ea trydydd mab. Yr oedd John Ellis a'i wraig yn bobl grefyddol iawn, ac yn ddisgynyddion henafiaid nodedig am eu duwioldeb. Bu John Ellis yn bregethwr cynnorthwyol derbyniol iawn am lawer o flynyddoedd, a chafodd fyw i weled pob un o'i blant yn proffesu crefydd, a phedwar o'i feibion yn pregethu yr efengyl. Pan yr oedd yn byw yn Bodfari, gosododd i fyny bwlpud yn ei dy, a byddai ef ei hun, ac ereill, yn pregethu yno yn gyson. Nid oedd gan un enwad Ymneillduol wasanaeth crefyddol yn mhentref Bodfari y pryd hwnw, ond y gwasanaeth a gadwai yr Annibynwyr yn nhy John Ellis. Pan oedd Moses tua 7 neu 8 mlwydd oed, symudodd ei rieni i Mostyn, lle yr oedd ei dad yn arolygwr ar y seiri perthynol i'r gwaith glo, a gadawyd ef yn nhy ei daid a'i nain yn Ninbych, er mwyn cael ychydig ysgol. Annedwydd iawn ydoedd yno o hiraeth am ei fam, o'r hon yr oedd yn anarferol o hoff, ac felly y tro cyntaf yr aeth hi i Ddinbych, mynodd ddychwelyd adref gyda hi. Yn ganlynol anfonwyd ef i'r gwaith glo gyda ei frodyr, ac yno, pan yr oedd tua thair ar ddeg oed, cafodd ei losgi yn arswydus gan y tân tanddaearol. Anffurfiodd y ddamwain hono ei wyneb yn fawr, ac effeithiodd ar ei gyfansoddiad, fel mai lled eiddil o ran nerth ac iechyd y bu trwy ei oes. Adroddwyd y ffeithiau rhyfeddol a ganlyn wrthym gan ei frawd, Mr. Edward Ellis, o berthynas iddo pan yr oedd yn llangc yn y gwaith glo:—Yr oedd un bore yn myned i'r gwaith fel arferol, gyda ei frawd Ellis, ond arosai yma ac acw ar y ffordd, ac amlygai anewyllysgarwch i fyned, fel y gorfu i'w frawd droi yn ol dair gwaith i'w gymhell i ddyfod yn mlaen. Trwy yr oediad, yr oeddynt tuag awr yn hwy nag arfer cyn cyrhaedd genau y pwll, ond erbyn iddynt fyned yno, cawsant fod y gwaith wedi tanio, a bod deg ar hugain o ddynion wedi cael eu llosgi i farwolaeth yno. Pe buasent yno ar yr amser arferol, buasent hwythau yn mysg y meirw. Yn mhen tair neu bedair blynedd ar ol hyny, pryd yr oedd tua thair ar ddeg oed, penderfynwyd ar ryw ddiwrnod nad oedd ef i fyned i'r gwaith y diwrnod hwnw, ond mai ei frawd Edward oedd i fyned yn ei le, ond mynai ef fyned am y barnai nas gallasai ei frawd wneyd y gwaith. Yn fuan wedi iddo fyned i lawr i'r pwll cymerodd tanchwa le yno, pryd y cafodd ef a dau eraill eu llosgi yn arswydus. Bu y ddau eraill feirw yn fuan, ond gwellhaodd ef yn mhen amser maith, er nid