heb i'r ddamwain, fel y nodasom, adael effeithiau arno na ddilewyd byth mo honynt.
Ar ol iddo wellhau yr oedd yn rhy eiddil ac analluog i fyned mwyach i weithio i'r pwll glo, ac ni wyddai ei dad, yr hwn oedd yn lled isel ei amgylchiadau, pa beth i'w wneuthur o hono. Yn y cyfyngder hwnw, pan ddigwyddodd iddo fod yn Rhuthin, gofynwyd iddo gan foneddiges o'r dref hono, Pa beth oedd helynt ei fachgen ddarfu gael ei losgi yn y gwaith? Attebodd ei fod gartref, ond yn analluog i ddilyn unrhyw waith. "Wel," ebe y wraig dda, "ond i chwi ei anfon ef yma i'r ysgol at Mr. Evans (gweinidog yr Annibynwyr yn Rhuthin), myfi a'i cadwaf ef a bwyd a dillad, a dichon y gellir ei wneyd yn ddigon o ysgolhaig i enill ei fara." Derbyniodd y cynygiad yn ddiolchgar, ac anfonwyd ef yn ddioed i Ruthin. Yr oedd wedi bod am ychydig o amser ar ol y ddamwain mewn ysgol yn Nhreffynon, ac ar ol treulio blwyddyn yn ysgol Mr. Evans yn Rhuthin, cafodd ei osod yn athraw ysgol a gedwid yn y Pwllglas, gerllaw y dref hono, ar draul yr haelfrydig Mr. Jones o Gaer. Yr oedd erbyn hyn tua dwy ar bymtheg oed. Y flwyddyn cyn hyny yr oedd wedi cael ei dderbyn yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Rhuthin gan ei athraw, Mr. Evans. Gan fod ysgol rad Mr. Jones o Gaer yn un symudol, cafodd Mr. Ellis ei anfon yn mhen ychydig amser o'r Pwllglas i'r Wern, i agor ysgol yno. Yr oedd y symudiad hwn yn amgylchiad pwysig yn ei fywyd, oblegid iddo ei arwain i gysylltiad ag un o weinidogion rhagoraf y Dywysogaeth, yr enwog Williams o'r Wern. Ni bu yn hir yn y Wern cyn iddo gael ei anog i ddechreu pregethu.
Yr oedd y pryd hwnw tua deunaw mlwydd oed. Ar ol dechreu pregethu, glynodd gyda'r ysgol, yr hon a symudodd o'r Wern i'r Rhos, ac oddiyno i Bethel, gerllaw y Bala, ac oddiyno drachefn i Landrillo. Pan yr oedd yno, bu yn offerynol i ddechreu yr achos Annibynol yn y gymydogaeth hono. Efe ei hun oedd yr unig Annibynwr yn yr ardal. Dechreuodd bregethu yn y ty lle y cadwai yr ysgol. Yn mhen ychydig amser amlygodd gwraig o'r enw "Betty o'r Felin" ddymuniad am uno a'r Annibynwyr, ac yn mhen ychydig ar ei hol hi, daeth gwr ieuangc at Mr. Ellis i amlygu yr un dymuniad. Y gwr ieuangc hwnw oedd William Jones, wedi hyny gweinidog yr eglwysi yn Hawen a Glynarthen. Ychwanegwyd eraill atynt yn fuan. Pan yn ugain mlwydd oed, rhoddodd Mr. Ellis ofal yr ysgol i fyny, a derbyniwyd ef i'r athrofa yn Llanfyllin, yr hon oedd y pryd hwnw dan ofal y Dr. George Lewis. Yr oedd ef yn fyfyriwr yn yr athrofa pan y symudwyd y sefydliad o Lanfyllin i'r Drefnewydd. Yn fuan ar ol ei dderbyniad i Lanfyllin, cymerodd drwydded i bregethu. Ystyrid trwyddedau ar dai at bregethu ynddynt, ac i'r personau fyddent yn pregethu, yr amser hwnw yn angenrheidiol, mewn amryw ardaloedd, er attal dynion gelynol i aflonyddu yr addoliadau. Person Eglwys, o'r enw David Hughes, oedd yr Ynad, gerbron yr hwn y bu Mr. Ellis yn cymeryd y llwon gofynedig, a dyddiad y drwydded yw Hydref 7fed, 1819. Wedi bod yn fyfyriwr diwyd yn yr athrofa am fwy na phum' mlynedd, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Nhalybont, Ceredigion, ac urddwyd ef yno Gorphenaf 7fed, 1824. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol yn yr urddiad, ac yn arwyddo tystysgrif i'r urddedig: John Roberts, Llanbrynmair; Edward Davies, Drefnewydd; William Griffiths, Caergybi; G. Griffiths, Ebenezer; William Jones, Rhydybont; J. Davies, Llanfair; William Hughes, Dinas; J. Ridge, Penygroes; W. Morris,