ffarmwr nodedig o wledig y gwisgai bob amser. Nid oedd dim yn offeiriadol yn ei ymddangosiad, ond yn gwbl i'r gwrthwyneb. O ran ei dymer yr oedd yn rhyfeddol o fwyn a charedig, ac or ddau yr oedd yn rhy wylaidd. Ni chafodd ddim manteision addysg yn moreu ei oes; dysgodd ddarllen ei Feibl a llyfrau Cymreig eraill, a thyna holl gyfanswm ei ddysgeidiaeth. Er iddo gael ei fagu yn agos i'r Casnewydd—tref sydd er's oesau yn fwy na haner Saesonaeg, ychydig neu ddim Saesonaeg a wyddai. Yr oedd yn gyfarwydd iawn yn ei Feibl, ac wedi yfed ei ysbryd, yn gystal a thrysori ei eiriau yn ei gof i raddau helaethach na nemawr a adwaenasom yn ein hoes. Fel pregethwr, yr oedd yn hollol ar ei ben ei hun. Nid oedd yn debyg i neb yn ei ddawn, na neb yn debyg iddo yntau, ac etto nid oedd ei hynodrwydd yn tynu dim o sylw y gwrandawyr oddiwrth y gwirionedd a draddodai. Nid yn yr hyn a ddywedai yn gymaint ag yn yr eneiniad oedd ar ei eiriau yr oedd dylanwad mawr ei weinidogaeth yn gynwysedig. Byddai weithiau yn lled ddieffaith, ond brydiau eraill cariai y cwbl o'i flaen. Nid oedd un radd o fiwsig yn ei lais, ond byddai ar amserau yn ofnadwy o effeithiol. Mae yn anmhosibl rhoddi darlun byw o Isaac Morgan Harry ar bapur. Y rhai a'i gwelsant ac a'i clywsant yn unig a all ffurfio drychfeddwl cywir amdano. Bydd ei enw yn perarogli yn Mynwy, a rhanau o Forganwg, tra byddo y diweddaf o'i gydnabod yn fyw. Priododd yn y flwyddyn yr aeth at grefydd, a chafodd bedair o ferched, a bu tair o honynt fyw i weled claddu eu mam a'u tad. Yn awr, gorphenwn ein sylwadau ar hanes yr hen bererin hwn yn yr ychydig linellau a ysgrifenasom at Mr. Jones, awdwr ei gofiant, ychydig flynyddau yn ol: "Fel dyn, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf diddrwg a anadlodd erioed; o ran galluoedd meddyliol, talp o ddiamond heb ei gaboli ydoedd; o ran ei dduwioldeb yr oedd yn seraph mewn corff dynol; fel pregethwr, yr oedd bob amser yn dderbyniol, ond rai prydiau llwyr amddifadai ei wrandawyr o'u hunanfeddiant; ac fel gweddiwr cyhoeddus, nid wyf yn cofio i mi erioed glywed neb yn gyffelyb iddo i gyfodi torf o ddynion i'r nefoedd, o ran teimlad, ac i dynu cawodydd o'r nefoedd i lawr ar ddynion."[1]
TABOR, MAESYCWMWR
Dechreuwyd yr achos Annibynol yn ardal Maesycwmwr yn 1827, gan aelodau perthynol i'r Tynewydd, Mynyddislwyn, ac ychydig o aelodau o'r Groeswen, y rhai a osodasant i fynu addoliad lled reolaidd, megis cyfarfodydd gweddio, cyfeillachau crefyddol, a phregethu achlysurol, yn nhy Edward Richards, yr hwn oedd yn byw y pryd hwnw yn agos i'r Gellideg Isaf. Yr oedd teuluoedd Gwernanfawr a'r Gellideg-Isaf yn perthyn i'r Groeswen, a'r proffeswyr eraill gan mwyaf oll, yn aelodau yn y Tynewydd, yr oedd rhai o aelodau Penmain a'r Tynewydd yn byw yn mhlwyf Bedwellty, ychydig yn nes i fyny yn y cwm na Maesycwmwr, ac yn chwenych uno i osod i fynu yr achos newydd. Pan aed i son am adeiladu capel, methodd yr holl frawdoliaeth gyduno am y lle cymhwysaf i'w adeiladu, ac felly adeiladodd un blaid Tabor, yn mhlwyf Bedwas, tra yr adeiladodd y blaid arall Salem, yn mhlwyf Bedwellty, tua milldir yn uwch i fynu yn y cwm. Gan i'r cyfeillion ymranu yn heddychol, a bod yr