Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/216

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

ISAAC HARRIES, neu Isaac Morgan Harry, fel y galwai ei gymydogion ef, a anwyd mewn lle a elwir Twynycadnaw, yn mhlwyf Maesaleg, Mynwy, yn y flwyddyn 1782. Enw ei dad oedd Thomas Morgan Harry. Yr oedd ef a'i wraig yn aelodau ffyddlon a defnyddiol yn Heol-y-felin, Casnewydd, er's mwy nag ugain mlynedd cyn geni eu mab Isaac. Bu farw y fam pryd nad oedd Isaac yn llawn dwy flwydd oed, ond bu fyw ei dad hyd 1829. Er yn blentyn i rieni duwiol, efe a dreuliodd y pum' mlynedd ar hugain cyntaf o'i fywyd i rodio yn ol helynt y byd hwn, ond nid heb gael ei aflonyddu yn fynych gan ei gydwybod. Ar ol ymladd llawer ag argyhoeddiadau tueddwyd ef unwaith i fyned i wrandaw Mr. David Williams, o Ferthyr, yr hwn a gyhoeddasid i bregethu yn y gymydogaeth, a gafaelodd y gwirionedd yn achubol yn ei feddwl. Bu wedi hyn dros rai wythnosau mewn trallod meddwl dirfawr, ond o'r diwedd cafodd nerth i roddi ei hun i fyny i'r Arglwydd ac i'w bobl. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Heol-y-felin, Casnewydd, tua y flwyddyn 1807. Cyn gynted ag yr ymunodd a'r eglwys ymroddodd i fod yn weithiwr difefl yn ngwinllan ei Arglwydd. Yn mhen rhai blynyddau ar ol ei dderbyn anogwyd ef gan yr eglwys i arfer ei ddawn fel pregethwr, a'r hyn y cydsyniodd ar ol llawer o ystyriaeth. Wedi bod am amryw flynyddau yn bregethwr cynnorthwyol derbyniol iawn yn ei fam-eglwys, a'r eglwysi cymydogaethol, cafodd ei urddo yn weinidog i'r gynnulleidfa fechan a gasglesid yn benaf trwy ei lafur ef ei hun ar y Morfa. Bu yn llafurio, fel y nodasom, yn y cylch hwn gyda derbyniad a llwyddiant hyd derfyn ei oes. Ni bu erioed yn ymddibynol ar yr hyn a dderbyniai oddiwrth yr eglwys am gynaliaeth ei deulu, ond dilynai ei orchwyl fel gweithiwr diwyd cyhyd ag y parhaodd ei nerth. Tra y gallodd ef ennill ei fara trwy chwys ei wyneb ni feddyliodd am gymell pobl ei ofal i gyfranu yn ol eu gallu at ei gynaliaeth, a dichon ei fod ef a hwythau wedi bod i raddau yn esgeulus ar y pen hwn, ac iddo gael teimlo mesur o anfantais yn ei henaint o herwydd yr esgeulusdod hwn. Pan yn deall fod ei amgylchiadau i raddau yn wasgedig, tua dwy flynedd cyn ei farwolaeth darfu i ysgrifenydd y llinellau hyn, o hono ei hun, ysgrifenu at Drysorydd un o'r Funds i Lundain i ofyn am ychydig gymorth i'r gwr teilwng, a derbyniodd bedair punt iddo, a thyna yr unig arian a dderbyniodd yn ei fywyd o le o'r fath. Yr oedd y gwr da yn rhy wylaidd i son gair am ei anghenion with bobl ei ofal na neb arall. Pa fodd bynag trefnodd ei Dad nefol iddo gael digon i'w gario i ben ei daith, a bu farw heb fod yn nyled neb o ddim. Ar ol cael ei gyfyngu i'w wely, am rai wythnosau, bu farw, fel y bu fyw, mewn cymundeb hyfryd a'r Arglwydd, Awst 2il, 1862, yn 80 oed. Claddwyd ei gorff yn barchus wrth gapel y Morfa, a gweinyddwyd yn ei angladd gan Mr. Davies, New Inn; Mr. Daniel, Cefnerib; Mr. Jones, Rhydri, ac eraill.

Gorchwyl anhawdd iawn yw rhoddi darluniad cywir o gorff, meddwl, doniau, a nodwedd Isaac Harries i rai na welsant ac na chlywsant ef erioed. O gorff yr oedd yn lled dal-yn agos i chwe' troedfedd, teneu o gnawd, ond yn gadarn o wneuthuriad, o liw tywyll, ac o wynebpryd yn hytrach yn hagr, ond yr oedd y mwyneidd-der, y gwylder, a'r diniweidrwydd a ymddangosai yn ei ddau lygad yn gwneyd i fyny yn gyflawn am ddiffyg prydferthwch wyneb. Fel gweithiwr cyffredin, neu hen