Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/225

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eglwys i barhau hyd nes y byddai y ddyled wedi ei llwyr dalu. Rhoddwyd llythyr ysgar yn rhy fuan o lawer i eglwys ieuangc yn Nghymru, ond credwn i'r ysgariaeth fod yn lles i eglwys Ebenezer, canys taflwyd hi ar ei hadnoddau ei hun, a dysgodd gerdded yn Annibynol heb nawdd a chynorthwy y fam-eglwys.

Yn y flwyddyn 1839, rhoddodd yr eglwys hon alwad i Mr. Richard Jones, yr hwn a fuasai yn weinidog yn y Bala. Llafuriodd Mr. Jones yn egniol a didor yn y lle hyd fis Mai, 1846, pryd y symudodd i gapel Gartside-street Manchester. Mabwysiadodd Mr. Jones gynllun effeithiol er cadw gwyliadwriaeth fanol dros yr holl aelodau. Rhanodd yr eglwys yn ddosbarthau, a gosododd arolygwr ar bob dosbarth. Ar foreu y Sul, wythnos cyn y cymundeb, cydgyfarfyddai yr arolygwyr, pryd y rhoddent gyfrif o'u dosbarthau i'w gweinidog; ac ar nos Sul y cymundeb yn y gyfeillach eglwysig, crybwyllent enwau y rhai nad oeddynt yn y cymundeb yn y boreu, yn nghyd a'r achos o'u habsenoldeb. Llafuriwyd yn ddiwyd yn y tymor hwn i ddyrchafu yr Ysgol Sabbothol, ac i leihau dyled y capel. Blynyddoedd cynhyrfus yn y byd a'r eglwysi oedd blynyddoedd arosiad Mr. Jones yn Sirhowy. Yn ystod yr amser hwnw y cododd y Siartiaid ar fryniau Gwent, ac yr aethant yn lluoedd arfog ar nos Sul i Gasnewyddar-wysg, gyda bwriad sicr i ddinystrio y dref, a dymchwelyd llywodraeth henafol Prydain Fawr. Yn nghamlas y gwaith, a'r dwfr hyd yr ên, yr ymguddiai gweinidog Ebenezer y noson ryfedd hono. Yn fuan wedi hyny, ymranodd yr eglwys, ac aeth nifer o'r aelodau allan, a buont am fwy na blwyddyn yn cynal moddion mewn lle arall. Ond yn ffodus, yn lle codi capel iddynt eu hunain, dychwelasant i Ebenezer-eu hen gartref. Yn y flwyddyn 1843, methodd cwmni Pencae a Sirhowy, arosodd y gwaith, ac ofnid y byddai i'r eglwys gael ei gwasgaru. Ond yn fuan prynwyd y lle gan gwmni Coalbrook Dale, ac aeth pethau rhagddynt fel cynt. Gwrthwynebodd Mr. Jones y Siartiaid yn benderfynol, cyfarfyddodd a gwrthwynebiadau, ond cefnogid ef yn ffyddlon gan ei gyfeillion a'i edmygwyr, y rhai a deimlent yn hiraethlon ar ei ol, pan symudodd i Manchester.

Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Jones, penderfynodd yr eglwys na roddent alwad i weinidog unrhyw eglwys, nac ychwaith i un oedd wedi bod mewn gweinidogaeth, ond yr edrychent allan am wr ieuangc o un o'r colegau. Argraffwyd y penderfyniad yn nghyhoeddiadau yr enwad, a bu yn dipyn o dramgwydd i frodyr tyner eu teimladau. Yn mis Tachwedd 1846, ar ol ychydig o brawf, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Noah Stephens, myfyriwr yn ngholeg Aberhonddu. Mae y drefna arferwyd yn amgylchiad hwn yn deilwng o goffadwriaeth. Rhoddasid rhybudd digonol o'r amcan yn flaenorol, gyda chymelliad taer i'r holl eglwys i ddyfod y nghyd ar nos y Sabboth hwnw, a gwahoddasid Mr. Stephenson, Nantyglo, un o weinidogion mwyaf pwyllog a phrofiadol y cyfundeb—i bregethu, ac i fod yn dyst o'r hyn a benderfynid. Darllenwyd yr alwad gan Daniel Jones, y diacon henaf yn yr eglwys, gofynwyd gan y frawdoliaeth arwyddo gydsyniad trwy sefyll ar eu traed, anfonwyd dau o'r diaconiaid trwy y ty i gael gweled a oedd rhywrai yn eistedd, a phan welwyd nad oedd cymaint ag un yn groes, arwyddwyd yr alwad yn enw ac yn ngwydd yr eglwys gan y diaconiaid, ac yn ddiweddaf oll gan Mr. Stephenson, Nantyglo, fel llygaid dyst o'r hyn a wnaed.

Cynnaliwyd cyfarfod urddiad Mr. Stephens ar y Mawrth a'r Mercher olaf yn Rhagfyr, 1846, yn y drefn ganlynol:—Am 2 o'r gloch ddydd