Mercher, dechreuwyd gan Mr. W. Davies, Seion, Rhymni; a phregethwyd gan Mr. E. Roberts, Cwmafon; Mr. Ll. R. Powell, Hanover; a Mr. W. Williams, Hirwaun. Am 6, dechreuwyd gan Mr. T. Roberts, Llanuwchllyn; a phregethodd Mr. T. Griffiths, Blaenafon; Mr. B. Owens, Merthyr; a Mr. J. Stephens, Brychgoed. Am 7, boreu dydd Mercher, cynnaliwyd cyfarfod gweddio, ac annerchwyd y cyfeillion yn fyr gan Mr. J. Davies, Llanelli; a Mr. W. Williams, Hirwaun. Am haner awr wedi naw, darllenwyd a gweddiwyd gan Mr. W. Williams, Adulam, Tredegar. Traddodwyd y gynaraeth gan Mr. J. Stephens, Brychgoed; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. T. Jeffreys, Penycae; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Ridge, Cendl; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Davies, athraw yn ngholeg Aberhonddu; ac i'r eglwys gan Mr. L. Powell, Caerdydd. Am haner awr wedi dau, dechreuwyd gan Mr. S. Phillips, myfyriwr yn ngholeg Aberhonddu; a phregethodd Mr. W. Edwards, Aberdare; Mr. J. D. Williams, o goleg Homerton (yn Saesonaeg); a Mr. T. Rees, Siloa, Llanelli. Am 6, dechreuodd Mr. J. Evans, myfyriwr yn ngholeg Aberhonddu, a phregethodd Mr. T. Jones, Llangattwg; Mr. T. Roberts, Llanuwchllyn; a Mr. D. Stephens, Llanfairclydogau.
Ymosododd Mr. Stephens o ddifrif ar y gwaith o symud ymaith ddyled y capel, aeth i gasglu i'r ogofau a'r pyllau glo, ac o dy i dy yn Sirhowy a Thredegar; llwyddodd i gael cydweithrediad yn y gynnulleidfa, ac yn fuan symudwyd y baich yn hollol, a chynaliwyd cyfarfod i gydlawenhau. Adgyweiriwyd y capel oddifewn ac oddiallan, ond talwyd yr holl dreuliau yn llawen. Cynyddodd yr eglwys mewn rhifedi, a gweithgarwch, a dylanwad, a chyfranai yn haelionus at gynaliaeth yr achos gartref, a lledaeniad yr Efengyl dros y byd. Yn niwedd 1846, a dechreu 1847, bendithiwyd yr eglwys ag adfywiad, a derbyniwyd llawer o'r gwrandawyr i'w chymundeb, yr hyn a fu yn nerth a chalondid i'r gweinidog ieuangc yn nechreuad ei weinidogaeth. Ychwanegwyd dros 200 at rifedi yr eglwys trwy y diwygiad grymus a gafwyd yn y flwyddyn 1849. Derbyniwyd 140 ar unwaith yn mis Hydref y flwyddyn hono. Yn ngwanwyn 1859, derbyniodd Mr. Stephens alwad unfrydol oddiwrth eglwys Bethel, Liverpool; a chyn ei hateb, rhoddodd rybudd i eglwys Ebenezer o'i fwriad i symud yn mhen tri mis. Yn y cyfamser, torodd allan ddiwygiad crefyddol, a daeth ugeiniau i'r gyfeillach. Gwaith caled i weinidog oedd ymadael a phobl a'i carai yn fawr, ac a fawr gerid ganddo, ar amser o'r fath yma. Bu cysylltiad Mr. Stephens ag eglwys Ebenezer yn gysur iddo ef ac i bobl ei ofal. Y peth mwyaf, a'r unig beth o bwys a wnaeth ef i gyffroi eu gwg a'u hanfoddlonrwydd, oedd symud oddiwrthynt i Liverpool.
Wedi ymadawiad Mr. Stephens, bu yr eglwys am rai blynyddau heb weinidog; ond yn y flwyddyn 1862, rhoddasant alwad i Mr. John Davies, aelod gwreiddiol o Bethel, Llansamlet, ac a addysgwyd yn athrofeydd y Bala ac Aberhonddu. Urddwyd Mr. Davies Mehefin 23ain a'r 24ain, 1862, ac yn yr Annibynwr am y flwyddyn hono, tudalen 189, ceir yr hanes fel y canlyn:—"Am 6 y dydd cyntaf, dechreuodd y Parch. J. M. Davies, Tabor, a phregethodd y Parchn. Thomas, Glandwr; a Rees, Abertawe. Am 10, yr ail ddydd, dechreuodd y Parch. R. Griffiths, Cefn, a phregethodd Proffesor Roberts, Coleg Aberhonddu, ar natur eglwys. Holwyd y gofyniadau gan y Parch. J. Rees, Canaan; gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan y Parch. T. Jeffreys, Penycae; pregethwyd i'r gweinidog gan