Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/233

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hollol. Prif waith y lle yn awr yw y gwaith alcam. Dechreuwyd cynal cyfarfodydd gweddio yn yr ardal tua'r flwyddyn 1840 neu cyn hyny. Arweinydd y cyfarfodydd hyn oedd Dafydd Morgan, aelod o eglwys y Rhydri, a "chyfarfod gweddi Dafydd Morgan" y gelwid ef. Yr oedd y Bedyddwyr a'r Wesleyaid yn cynnorthwyo yn aml yn y cyfarfodydd; ond ar Dafydd Morgan yr oedd y gofal. Cyn hir cymerwyd room wrth y Royal Oak, er cynal pregethu rheolaidd, a buwyd yno am tua deng mlynedd. Mynai cyfeillion y Rhydri mai cangen dan eu haden hwy a ddylasai fod; ond mynai Dafydd Morgan y dylasai fod yn annibynol, ac felly rhoddwyd room y Royal Oak i fyny, a buwyd yn cynal cyfarfodydd pregethu am dymor yn nhy Dafydd Morgan. Pregethodd Mr. Jones y Rhydri lawer iawn wrth y Royal Oak, ac amryw weinidogion eraill. Yn nhy Dafyld Morgan pregethodd Mr. Harries o'r Morfa, lawer, a Mr. Jenkins, Rhymni, ac eraill. Yn mhen ychydig cymerwyd club-room y "Fforwm-eistedd" i gynal cyfarfodydd. Bu dau neu dri o gyfarfodydd dau fisol yn y lle yma, y rhai a gynelid yr amser hwn yn y rhan isaf o'r sir. Wedi bod yma am ychydig cymerwyd tir i adeiladu capel, a dechreuwyd o ddifrif ar y gorchwyl.

Ychydig oedd nifer yr aelodau pan y sefydlwyd yr eglwys yn nhy Dafydd Morgan, yn 1842,-Dafydd Morgan a'i wraig, Selina Jones, Griffith Evans, William Roberts, Ebenezer Harries, Daniel Morgan, &c. Mr. T. Evans, Maesaleg, oedd yn arolygu y cwbl yr amser yma, ac efe roddodd arian at adeiladu y capel newydd. Llafuriodd Dafydd Morgan a'r aelodau eraill lawer iawn gyda'r capel; ond pan yr oedd yn barod i'w agor, cafodd Mr. Evans ei dori allan gan gyfarfod chwarterol y sir am ei ddrwg- fuchedd, ac am hyny digiodd yn aruthr, ac o herwydd nad allai y cyf- eillion gael yr arian iddo ar unwaith, gwerthodd y capel i'r Methodistiaid Calfinaidd, ac yn eu meddiant hwy y mae hyd heddyw; ac felly, wele y cyfeillion heb un capel etto. Buont yn addoli wedi hyn am yn agos i flwyddyn yn nhy Thomas Jones, yr hwn sydd etto yn fyw; ond cyn hir cafwyd tir i adeiladu capel. Yr oedd Mr. T. Jones, Watford yn genhadwr yn y rhanau isaf o Fynwy ar y pryd, ac yn teimlo cryn ddyddordeb yn yr achosion gweiniaid, ac efe a adeiladodd y capel hwn, yr hwn a agorwyd yn 1844, a bu yr eglwys yn byw jar (gynnorthwy gweinidogion cylchynol hyd Medi 1848, pan y cymerodd Mr. B. Lewis, yr hwn oedd y pryd hwnw yn weinidog yn Llanfabon ei gofal. Bu Mr. Lewis yma am ddwy flynedd, ac yna ymfudodd i'r America. Mai 7fed a'r 8fed, 1851, urddwyd Mr. W. Russell o Bentyrch, yn weinidog ar yr eglwys. Traddodwyd y gynaraeth gan Mr. Griffiths, Casnewydd; gofynwyd rhai holiadau i'r gweinidog ieuangc gan Mr. J. Jones, Rhydri; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. I. Harries, Morfa; pregethwyd siars i'r gweinidog gan Mr. T. Rees, Cendl; ac i'r eglwys gan Mr. E. Rowlands, Ebenezer. Bu gofal yr eglwys arno am yn agos i bedair blynedd. Wedi iddo roddi y lle i fyny, a chymeryd at Llansantffraid a'r Eglwysnewydd, daeth Mr. E. Evans, gynt o Nantyglo, yma, a bu yn y lle am ddwy flynedd. Yn ei amser ef yr helaethwyd y capel. Yn 1856, daeth Mr. T. L. Jones, y gweinidog presenol, i'r lle, a gwelodd yr Arglwydd yn dda lwyddo y gwaith i raddau helaeth iawn, fel y bu raid cael capel newydd, ac yn 1860 adeiladwyd y capel eang presenol, yr hwn a gostiodd 670p., ac nid oes ond ychydig o'r ddyled heb ei thalu. Mae llawer o'r rhai fu yn weithgar gyda'r gwaith wedi marw; ond y mae Dafydd Morgan, ei gychwynydd, etto yn fyw. Pe buasai y gymydogaeth yn