Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/236

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond yn Awst, 1867, safodd holl waith y Blaenau—gwasgarwyd y miloedd trigolion—rhwygwyd yr eglwysi, ac ymdaenodd tristwch, caledi, a thlodi mawr trwy y gymydogaeth; ond yn wyneb y cwbl, trwy ymdrech a hunanymwadiad yr ychydig bersonau a arosodd yn y lle, cadwyd yr achosion yn fyw. Ni chiliodd y gweinidog yn nydd profedigaeth, ond arosodd gyda'r ychydig, a gweithiodd ei ffordd yn mlaen yn wyneb yr holl anhawsderau, a diau mai efe a fu y prif offeryn i gadw y ddwy eglwys dan ei ofal yn fyw yn y cyfnod tywyll a chymylog hwn. Yn 1869, ailgychwynodd y gwaith, ac erbyn hyn y mae llawer o'r hen aelodau a'r hen wrandawyr wedi dychwelyd, ac arwyddion gobeithiol etto am ddyfodol cysurus a llwyddianus. Cyfodwyd dau i bregethu yn yr eglwys hon.

Evan P. Jones. Daeth yma o sir Aberteifi. Yn fuan wedi dechreu pregethu aeth i athrofa y Bala, ac oddiyno i athrofa Caerfyrddin, ac oddiyno i un o Brifysgolion Germani, lle y graddiwyd ef yn M.A., a Ph.D.; ac y mae yn awr yn weinidog yn Mostyn.

David M. Davies. Wedi dechreu pregethu aeth i athrofa Aberhonddu, ac wedi treulio ei amser yno aeth i Awstralia, lle y mae yn weinidog parchus a chyfrifol.

TABERNACL,

Sydd addoldy yn Abertilerwy, plwyf Aberystruth. Cangen ydyw yr eglwys hon o Berea, Blaenau. Ffurfiwyd hi trwy offerynoliaeth Mr. D. Williams a'r eglwys dan ei ofal. Tua diwedd y flwyddyn 1852, dechreuwyd cynal cyfarfodydd gweddio a phregethu yn ardal Abertilerwy, a byddai Mr. Williams ac amryw o aelodau Berea yn myned i lawr dair a phedair gwaith yn y mis i gynal cyfarfodydd. Yn 1853, dechreuwyd ysgol Sab— bothol yn nhy Mr. Harris, yr hwn oedd ar y pryd yn aelod yn Berea, ac yn bregethwr cynnorthwyol cymeradwy, ac wedi myned yn mlaen yn llwyddianus am rai misoedd, penderfynwyd cael capel, gan fod lle y cynyddu, a'r trigolion yn lluosogi, ac arwyddion y buasai yn lle mawr a phwysig mewn blynyddau i dd'od. Yn 1854, adeiladwyd capel gwerth 300p. Ar y 4ydd o Fehefin, 1854, sefydlwyd yr eglwys. Rhoddodd eglwys Berea lythyrau i ddeuddeg o'i haelodau, y rhai oeddynt yn byw yn Abertilerwy, sef W. Harris a'i wraig, Mrs. Protheroe, James Protheroe, Thomas Tibbs a'i wraig, Edmund Lewis a'i wraig, George Moxley a'i wraig, Caturah Jones, a Rees Hughes, a sefydlwyd hwy yn eglwys Annibynol. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Meistri J. Davies, Llanelli; ac H. Daniel, Pontypool; a gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd gan Mr. Williams, eu gweinidog. Agorwyd y capel ar y 12fed a'r 13eg o Awst, 1855, pan y pregethodd y Meistri E. Hughes, Penmain; T. Rees, Cendl; G. Griffiths, Casnewydd; E. Rowlands, Pontypool; D. Davies, New Inn; J. M. Davies, Maesycwmwr; W.Williams, Brynmawr, a T. Jeffreys, Penycae. Bu yr eglwys hon dan ofal Mr. D. Williams am 12 mlynedd, sef o'i ffurfiad yn y flwyddyn 1854 hyd y flwyddyn 1866. Wedi dechreu achos Saesonaeg yn y Blaenau, teimlai fod yn rhaid iddo roddi ei gofal i fyny, oblegid nas gallasai wasanaethu y tair eglwys. Ac anogodd hwy i edrych allan am ddyn ieuangc duwiol a gweithgar, gan fod y maes yn Abertilerwy yn ddigon eang; ac felly yn unol a'i ddymuniad rhoddasant alwad i Mr. Thomas Hughes, myfyriwr o ysgol Ramadegol Milford, yr hwn a ymsefydlodd yn