Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/241

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

EGLWYS SAESONAEG ABERSYCHAN.

Dechreuwyd yr achos Annibynol Saesonaeg yn y lle hwn gan Mr. Jason Jenkins, Mount Pleasant, Pontypool, yn y flwyddyn 1863. Ar ol iddo fod yn pregethu mewn anedd-dy am oddeutu blwyddyn, ardrethwyd Long-room y Buck Inn, at gynal gwasanaeth crefyddol. Bu y ddeadell fechan dan ofal Mr. Jenkins hyd Medi 1868, pryd y cymerwyd ei gofal gan Mr. W. A. Griffiths, gweinidog yr eglwys Gymreig yn Abersychan, a than ei ofal ef y mae hyd yn bresenol. Cyfansoddid yr eglwys ar ei ffurfiad cyntaf, yn benaf, o aelodau a gawsant ollyngdod heddychol o'r eglwys Gymreig yn Siloh. Prynwyd tir at adeiladu capel arno gan Mr. J. Daniel, a gosodwyd careg sylfaen yr adeilad i lawr Tachwedd 26ain, 1868, gan Charles Lewis, Ysw., Casnewydd. Anerchwyd y gynnulleidfa ar yr achlysur gan y Meistriaid S. Kennedy, Casnewydd; Jason Jenkins, Pontypool; H. Oliver, B.A., Casnewydd; a J. Davies, Caerdydd. Mae y tir, y capel, a'r festri wedi costio tua 1,200p. Gan fod yr ardal yn boblog iawn, a mwyafrif dirfawr y bobl ieuangc yn arfer y Saesonaeg, y mae yma faes gobeithiol iawn i'r achos newydd hwn.

MYNYDD SEION, CASNEWYDD.

Dechreuodd yr achos hwn dan yr amgylchiadau canlynol: Yn y flwyddyn 1830, cyfododd anghydfod yn yr eglwys yn Heol y Felin, a chafodd pump o'r aelodau eu diarddel. Barnodd naw ar hugain o'u cyd-aelodau fod eu diarddeliad yn annheg, ac felly ymadawsant gyda eu cyfeillion diarddeledig, a derbyniwyd y pedwar ar ddeg ar hugain y Sul canlynol, gan yr enwog Dr. Jenkyn Lewis, i'r eglwys dan ei ofal ef yn Hope Chapel. Buont yno yn gysurus hyd farwolaeth y Doctor; canys byddai ef yn pregethu ychydig yn Gymraeg iddynt yn achlysurol: ond wedi ei farwolaeth ef, a dewisiad Mr. Byron, yr hwn oedd Sais, yn ganlyniedydd iddo, teimlai y rhan fwyaf o'r Cymry yn annedwydd. Ar ol ymgynghori a rhai o weinidogion Cymreig y sir, a chael addewid o'u cymorth i gychwyn achos Cymreig, darfu i bedwar ar hugain o honynt gyduno i ymadael o Hope Chapel, ac ardrethu ysgoldy yn Charles Street, at gynnal gwasanaeth crefyddol yn yr iaith Gymraeg. Corpholwyd hwy yn eglwys gan Mr. D. Davies, Penywaun, Awst 17eg, 1834, a chynyddasant yn fuan nes i'r ysgoldy fyned yn rhy fychan i'w cynwys. Yn mhen ychydig o amser cymerwyd tir at adeiladu capel, yr hwn a orphenwyd, ac a agorwyd ar yr 2il a'r 3ydd o Ragfyr 1835. Gweinyddwyd yn nghyfarfodydd yr agoriad gan y Meistriaid J. Mathews, Mynyddislwyn (yn awr o Gastellnedd); D. Jones, Hermon, Llandilo; D. Davies, Penywaun; L. Powell, Caerdydd; J. Williams, Merthyr; I. Harris, Morfa; a D. Davies, New Inn. Costiodd y capel 500p. a chydunwyd i dalu 50p. y flwyddyn o't ddyled, yr hyn a wnaed nes ei lwyr ddileu. Rhoddwyd galwad i Mr. G. Griffiths, Llanbedr, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Mawrth 1837. Yn Medi 1840, symudodd oddiyma i gymeryd gofal yr eglwys yn nghapel y Plough, Aberhonddu. Dilynwyd Mr. Griffiths yn Mynydd Seion. yn Ebrill 1841, gan Mr. J. Mathews, Maesllech. Wedi llafurio yma, gyda gradd helaeth o lwyddiant am chwe' blynedd a haner, derbyniodd Mr.