HENRY WILLIAMS. Yr oedd y gwr da hwn yn byw yn yr Ysgafell, ger llaw y Drefnewydd. Mae lle ac amser ei enedigaeth yn anhysbys. Yr oedd wedi dechreu pregethu ryw gymaint o amser cyn 1660. Cafodd, fel y gwelsom, ei garcharu yn y Trallwm yn Mehefin y flwyddyn hono, a dywedir iddo fod naw mlynedd o garchar i garchar am bregethu yr efengyl Yn nghanol ei holl ddyoddefiadau parhaodd yn ffyddlon i Dduw a'i eglwys, a phregethai yn ddibaid tra y byddai allan o'r carchar. Pan gafwyd ychydig o ryddid yn 1672, cynhaliwyd cyfarfod yn agos i'r Drefnewydd, mewn lle o'r enw Gwnle, neu Gwynle, ar yr 28ain o Awst, pryd yr urddwyd Mr. Williams yn gynorthwywr i Mr. Hugh Owen, fel gweinidog amrywiol ganghenau yr eglwys Ymneillduol yn sir Drefaldwyn. Bu y dyn da a'r dyoddefydd ffyddlon hwn farw yn 60 oed tua y flwyddyn 1685. Cafodd deulu lluosog. Bu iddo ddeuddeg o blant, y rhai a dyfasant oll i'w cyflawn oed. Bu naw o honynt yn briod. Rosamond, un o'i ferched ef, oedd gwraig yr enwog Richard Davies, gweinidog yr Annibynwyr yn Rowell, sir Northampton. Cyhoeddodd Mr. Davies farwnad er coffadwr- iaeth am ei dad yn nghyfraith, yn yr hon y crybwylla am lawer o'i ddyoddefiadau yn achos crefydd. Dichon na ddarfu i nemawr o un Cymro, yn yr oes hono, oddi eithr V. Powell, ddyoddef mwy am ei grefydd na Henry Williams. Ymosodwyd arno unwaith pan yr oedd yn pregethu, ac wedi ei lusgo allan o'r ty, curwyd ef mor farbaraidd, fel y trodd yr erlidwyr ymaith gan dybied ei fod, fel Paul yn Lystra, wedi marw. Unwaith, pryd yr oedd yn ngharchar, ymosododd haid o erlidwyr ar ei dy, a rhoddasant ef ar dân nes ei losgi i'r llawr. Dro arall, torasant i'r ty gan ddinystrio yr holl ddodrefn; a holl ddodrefn; a thra yr oedd yr hen wr, tad Mr. Williams, yn sefyll ar y grisiau i'w hattal i'r llofft, rhuthrasant arno a lladdasant ef yn y fan. Yr oedd ei wraig ar y pryd yn feichiog, ac wrth ei bod yn ceisio dianc ag un plentyn yn ei chol, ac un ieuangc arall yn ei llaw yn cerdded, anelodd un o'r erlidwyr lawddryll ati, gan ei rhegu a bygwth ei saethu; a buasai wedi ei lladd, oni buasai fod un o'i gyd-erlidwyr yn llai ffyrnig nag ef, ac i hwnw ei rwystro. Wedi hyny, yspeiliwyd ef o'i holl anifeiliaid a chnwd ei dir, gan adael y teulu lluosog ac erlidiedig heb ddim at eu cynhaliaeth. Ond fe ddarparodd Rhagluniaeth yn garedig ar eu cyfer. Yr oedd yno gaeaed o wenith ar y pryd yn dechreu egino, yr hwn nis gallasai y gelynion ei gario ymaith. Darfu i'r cae hwnw gnydio mor anghyffredin nes peri syndod i'r holl wlad. Bu cynyrch y maes hwnw yn ddigon i wneyd i fyny am holl golledion y flwyddyn flaenorol Bu cynyrch y cae gwenith, yr hwn a ymddangosai yn debyg i wyrth, yn nghyd a diwedd truenus amryw o'r prif erlidwyr, yn foddion i lenwi yr ardal ag arswyd, fel y cafodd y gwr da lonyddwch o hyny allan. Yr oedd dau o flaenoriaid yr erledigaeth yn ynadon yr heddwch. Bu un o honynt farw yn ddisymwth wrth fwyta ei giniaw; a'r llall, wrth ddychwelyd adref o'r Drefnewydd yn feddw, a syrthiodd i'r afon Hafren ac a foddodd. Un arall, naill ai yr Uchel-Sirydd neu yr Is-Sirydd, yr hwn fuasai yn weithgar iawn yn yspeiliad y gwr da o'i anifeiliaid a chnwd ei dir, a syrthiodd oddiar ei geffyl yn ngolwg ty Mr. Williams, ac a dorodd ei wddf. "Yr oedd Henry Williams," medd Dr. Calamy, "yn ddyn cyfiawn a da, yn weithgar iawn dros Dduw, ac yn bregethwr bywiog.[1]
- ↑ Rees's Nonconformity in Wales, p. 162.