dynion mwyaf enwog, parchus, a defnyddiol yn ei oes; a darllenir gan yr oesau a ddel ar ol gydag edmygedd, am "lafurus gariad" yr bybarch John Roberts, Llanbrynmair.
LLANFYLLIN.
Er ein bod wedi rhoddi y flaenoriaeth i Lanbrynmair, dichon fod yn anhawdd penderfynu pa un ai y gangen yno o eglwys sir Drefaldwyn ai y gangen yn nghylchoedd Llanfyllin a ymffurfiodd yn eglwys Annibynol gyntaf. Mae yn dra eglur pa fodd bynag fod yr eglwys yn Llanfyllin yn gallu dilyn ei hanes yn lled ddifwlch hyd y flwyddyn 1640, pryd y gweinyddid iddi gan yr hyglod Vavasor Powell, a'r hwn hefyd a barhaodd i fwrw golwg drosti cyn belled ag y goddefid iddo gan ei lafur dirfawr a'i ddioddefiadau chwerwon am fwy nag ugain mlynedd. Hyd adferiad Siarl II. yn 1660, a'r cyfreithiau gormesol a ddilynodd ei esgyniad i'r orsedd, arferent ymgynull i addoli yn nhai Meistriaid John Griffith, a Walter Griffith, ac mewn manau eraill yn y dref a'i hamgylchoedd; ond ar ol hyny gorfu iddynt gilio i leoedd anghysbell a chuddiedig i gyfarfod i addoli er dianc rhag cynddaredd yr erlidwyr y rhai oeddynt fel gwaedgwn yn barod i ymosod arnynt. Arferent ymgynull fynychaf yn y Pantmawr, amaethdy o fewn milldir a haner i dreflan Meifod. Mae yr hen dy yn aros a'i olwg yn gyffelyb i dai yr eilfed ganrif ar bymtheg. Ei wneuthuriad sydd o goed a delltwaith-y coed wedi eu duo, a'r dellt wedi eu gorchuddio a phriddgalch. Ychydig o eleuni a ollyngir i fewn iddo trwy ffenestri bychain culion; ac fel i ychwanegu at olwg hynafol a chyntefig y lle tyf wrth ei dalcen dwyreiniol ywen ganghenog; a chysgodir y ty rhag poethder yr haul ganol dydd gan sycamorwydden gref. Yma y cyrchid i addoli o bob cwr o'r wlad oddiamgylch yn y cyfnod hwnw, ac am fwy na dau can' mlynedd ar ol hyny. Arferai tua deg ar hugain o bersonau o Lanfyllin ddyfod i'r Pantmawr i addoli yn yr adeg yma. Gweinyddwyd i'r gynulleidfa ar y pryd gan y pregethwyr a enwyd eisoes yn nglyn a Llanbrynmair, y rhai a wasanaethent eglwys sir Drefaldwyn yn ei holl ganghenau. Yr oedd un Morris Williams, cylchwr (cooper) with ei gelfyddyd, yn aelod gweithgar o'r frawdoliaeth, ac yn bregethwr cymeradwy. John Evans, ysgolfeistr o Groesoswallt, John Griffith, o Lanfyllin, yr hwn oedd Ynad Heddwch, a Richard Baxter gwas John Kynaston, oeddynt hefyd yn mysg y rhai mwyaf gweithgar yn y lle; ac yn y cyfarfodydd anghyfreithlawn, fel eu cyfrifid, a gynhelid mewn manau eraill yn mhlwyfi Llanfyllin a Llanfechain.
Bu Ambrose Mostyn, fel y tybir, am dymor yn llafurio yn mysg y gangen yma. Adroddir ei fod mewn cyfarfod parotoad yn Pantmawr, ac yr oedd yno ryw nifer i'w derbyn i gymundeb dranoeth. Wrth eu holi pa beth a wasgodd ar eu meddwl am fater eu heneidiau, dywedai pob un mai gweinidogaeth Vavasor Powell, gyda'r hon yn gyffredin yr oedd effeithiau grymus yn cydfyned. Ar ol eu gwrando syrthiodd Mr Mostyn i iselder meddwl mawr, ac ofnai nad oedd yr Arglwydd wedi ei alw ef i bregethu, onide y rhoddasid iddo yntau yn gystal ag i Mr. Powell eneidiau yn seliau ei weinidogaeth. Pan ddaeth y gynulleidfa yn nghyd boreu dranoeth yr oedd y pregethwr yn ei wely, ac yn rhy wael i godi. Aeth