Morris Williams ato a deallodd yn fuan mai iselder ysbryd oedd arno ar ol y pethau a glywodd yn y cyfarfod y prydnawn o'r blaen, a dywedodd hyny witho. Addefodd Mr. Mostyn mai felly yr oedd. "O ddylech chwi ddim gadael i beth fel yna eich taflu i lawr," meddai Morris Williams, "chwi wyddoch mai cooper ydwyf fi, ac y mae genyf fi ddynion ar hyd y maes yn cwympo coed; ond wna nhw er hyny byth lestri cymhwys i fod ar y bwrdd, ac at wasanaeth teuluoedd heb i minau eu llunio a'u cymhwyso—felly y mae Mr. Powell yn myned allan yn ei nerth a'i fwyell ar ei ysgwydd i gwympo y coed; ond y mae eich gwaith chwi yn yr eglwys i'w trin a'u cymhwyso, ac y mae eich eisiau eich dau ar Dduw i gymhwyso llestri trugaredd y rhai a barotodd efe i ogoniant." Gwelodd Mr. Mostyn briodoldeb y sylw, cyfododd o'i wely, a phregethodd gyda blas i'r bobl oedd yn disgwyl yn awyddus am dano; canys yr oedd "gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny." Cafodd y gangen yma yn y cyfnod dan sylw fwynhau rhan o weinidogaeth Meistri Hugh Owen, Henry Williams, John Owen, Reynallt Wilson, James Owen, ac ereill. Yn y flwyddyn 1690, anturiodd Mr. James Owen, yr hwn oedd y pryd hwnw yn Nghroesoswallt, i dref Llanfyllin i gynyg pregethu. Agorodd Mr. John Griffith ei ddrws iddo. Yr oedd ei dy yn y fan y saif addoldy presenol yr Annibynwyr yn y dref. Mae yn debygol mai hwn oedd y John Griffith y cyfeiriwyd ato o'r blaen, yr hwn a gyrchai i'r Pantmawr i addoli, a'r hwn oedd yn Ynad Heddwch. Cyn gynted ag y deallwyd fod yr Ymneillduwyr yn myned i gynal addoliad yn y dref, a bod Mr. Griffith yn myned i agor ei dy iddynt, a bod y pregethwr wedi dyfod i'r lle; ymgasglodd y werin aflywodraethus o gylch ty Mr. Griffith—fel y Sodomiaid o amgylch ty Lot gynt—gan hawlio cael y pregethwr allan, a dryllio y ffenestri, a bygwth gosod y ty ar dan a llosgi pawb oedd ynddo. Daeth Mr. Griffith i'r drws, ac a'i eiriau caredig, a'i gyfarchiad efengylaidd llonyddodd gynddaredd yr erlidwyr, fel yr aethant ymaith gan ymddangos yn ofidus am yr hyn a wnaethant, ac ni bu yno unrhyw ymyriad mwy a rhyddid yr Ymneillduwyr i addoli am fwy nag ugain mlynedd. Cydnabyddodd un o'r erlidwyr ar ol hyny with Mrs. Griffith ei ffolineb, ac ychwanegodd "na bu byth lwyddiant arno er y cododd ei law yn erbyn yr efengyl." O gylch yr amser yr ymwelodd Mr. James Owen a Llanfyllin, codwyd capel bychan yn Bwlchycibau, yn mhlwyf Meifod, ar y ffordd rhwng Llanfyllin a'r Pantmawr, o fewn tua thair milldir i'r lle blaenaf. Adeiladwyd ef gan un Mr. Owen, Peniarth, gwr yn byw ar ei dir ei hun, a galwyd ef Capel Peniarth, ond mewn gwawd gelwid ef "Capel Hirbryd." Mae yn ymddangos y byddai y bobl o ochr Llanfyllin yn arfer cadw cyfarfod prydnawnol ynddo ar eu dychweliad o'r Pantmawr; a chan nad oedd cyfle i'r rhan fwyaf o honynt i gael bwyd rhwng y ddau gyfarfod, llysenwyd ef gan eu gelynion yn "Gapel Hirbryd." Fel hyn y dywed Cyffin yn yr Annibynur am 1863, tudal. 132, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am lawer o ffeithiau yn nglyn ag eglwysi Maldwyn Y mae y llecyn lle safai y capel a'r fynwent yn ngwr gogleddol y llwyn o goed derw a elwir "Coed y Capel,' yn mhen uchaf y weirglodd lle y daw i gyffyrddiad a'r llwyn yn ymyl hen chwarel gerig. Gelwir y weirglodd hon hefyd 'Weirglodd y Capel.' Er cyn cof gan y rhai henaf o breswylwyr yr ardal, yr oedd wedi ei droi yn dy anedd; ond y mae rhai eto yn fyw yn cofio yr
Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/295
Gwedd