hen dy, er ei fod yn henafol iawn yr olwg arno, ac yr oedd yn nghylch dau gyfair o dir yn perthyn iddo, a gelwid y ty yn Gapel yr Hirbryd.' Y mae yn dra thebyg ei fod yn feddiant ar wahan a'r tir a'i cylchynai. Gwerthwyd y ty a'r cae i Councillor Owen, Glan Severn, ger y Trallwm, gan hen wr o'r enw Thomas Owen, ond a elwid yn gyffredin 'Bold Owen,' ar gyfrif ei annuwioldeb a'i greulondeb at ei gyd-ddynion, fel oedd yn arswyd gwlad. Daeth y capel i feddiant y dyn hwn oddeutu y flwyddyn 1762, ac y mae lle i farnu mai yn ei amser ef y rhoddwyd heibio bregethu yn Nghapel Hirbryd. Daeth y Thomas Owen yma i ddiwedd truenus. Aeth yn dlawd a diymgeledd cyn diwedd ei oes; a syrthiodd pren yn y llwyn ar ei ben, a lladdwyd ef yn y fan. Mae yn dra thebyg i'r cae gael ei ollwng at y weirglodd, oblegid dywedir fod Mr. Edward Owens, Peniarth, yn ei haredig tua'r flwyddyn 1811, ac i amryw benglogau ddod i'r golwg, yn nghyd ag esgyrn dynol eraill; a bod yno gerig beddau gydag adysgrifen arnynt; ond erbyn hyn, nid oes yno na phren na maen yn aros o'r capel na'r ty."
O'r flwyddyn 1690 hyd ddechreu y ddeunawfed ganrif, gwasanaethid yr eglwys yn Llanfyllin a'r Pantmawr gan yr ychydig weinidogion a'u cynorthwywyr oedd y pryd hyny yn Sir Drefaldwyn; ond yn 1703, rhoddwyd galwad i Mr. William Jervice i fod yn weinidog. Yn hanes Llanbrynmair, cawn mai yn 1713 y dechreuodd Mr. Jervice ei weinidogaeth yno; ond yn ol yr hyn a ysgrifenodd y diweddar Mr. D. Morgan yn llyfr eglwys Llanfyllin, dywed iddo ymsefydlu yno yn 1703, ac ychwanegai mai felly y ceir y dyddiad yn llyfr eglwys y Cilgwyn. Os yw hyny yn gywir, yr oedd Mr. Jervice wedi ei urddo yn Llanfyllin ddeng mlynedd cyn iddo dderbyn galwad o Lanbrynmair. Un peth sydd yn ymddangos yn ddyrus i ni yn hyn ydyw, pa fodd na buasai enw Mr. Jervice yn nglyn ag adeiladiad y capel cyntaf yn Llanfyllin. Yn y flwyddyn 1708 y codwyd y capel cyntaf yn y dref, yn y fan lle y saif y capel presenol. Rhoddwyd y tir gan Mr. Nehemiah Griffith, un o ddisgynyddion y John Griffith am yr hwn y crybwyllasom fwy nag unwaith; a rhoddwyd y weithred gan ei frawd, Mr. Thomas Griffith, o'r Rhuall, sir Fflint, yn y flwyddyn 1738, yn yr hon y cydnabyddir fod y capel wedi ei godi lawer o flynyddau cyn hyny trwy lafur ac ar draul Evan Evans, Timothy Quarell, John Quarell, John Chidlaw, Peter Chidlaw, ac Arthur Chidlaw. Nid ydym yn cael enw William Jervice o gwbl yn eu plith, yr hyn sydd braidd yn hynod, os oedd yn weinidog iddynt. Heblaw hyny, yn Mehefin 1702, cawn fod Mr. Rees Prothero wedi ei urddo yn y Pantmawr i fod yn weinidog yno ac yn Bragginton, a'r gorsafoedd cylchynol lle y pregethid; ond nid oes son am Lanfyllin; a bu yno nes y symudodd i Gaerdydd yn 1712. Os oedd Mr. Jervice wedi dechreu ei weinidogaeth yn 1703, gellir casglu fod Llanfyllin a Phantmawr wedi ymwahanu dros dymor, ac iddynt ymuno drachefn wedi ymadawiad Mr. Prothero. Ni fynem fod yn rhy bendant lle na byddo ffeithiau y gellir dibynu arnynt; ond, a chymeryd yr holl amgylchiadau i ystyriaeth, gogwyddir ni i feddwl mai yn 1718 yr ymsefydlodd Mr. Jervice i fod yn weinidog yn Llanfyllin a Llanbrynmair a'r canghenau.
Yn nheyrnasiad y Frenhines Anne, llwyddodd y Toriaid i fyned i awdurdod, a daeth Dr. Sackeverell gyda'i ddolef "yr Eglwys mewn perygl" yn offeryn cymhwys at eu gwasanaeth. Cefnogwyd erledigaeth—ymosodwyd ar yr Ymneillduwyr—yspeiliwyd hwy o'u meddianau—a