Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/319

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arglwydd. Dichon pe buasai yn fwy ystwyth a hyblyg, yr arbedasid ef rhag llawer ystorm a'i cyfarfu; ac nid ydym yn sicr na byddai weithiau yn gwneud pethau yn fater o egwyddor, neu yn bwngc cydwybod, nad oeddynt ond pethau o farn ac opiniwn. Gallesid tybied arno o draw ei fod yn sarug ac angharedig; ond gwyr y rhai a gafodd gyfle i gyfeillachu ag ef, ei fod yn un o'r dynion caredicaf a ffyddlonaf a allesid gyfarfod. Gallesid ei doddi yn llymaid a'i yru i wylo fel plentyn, ond i ddyn fyned ato ac adrodd ei dywydd wrtho. Un o'i brofedigaethau, a phrofedigaethau dynion o'r un dymer ag ef, ydoedd, y gallesid dylanwadu arno a'i gael i gymeryd plaid neillduol mewn rhyw achos. Yn niddichellrwydd ei enaid meddyliai ef fod pawb fel efe ei hun; a dichon i lawer o'i drafferthion eglwysig gychwyn o'r fan yna. Pan y cymerai at gyfaill, neu y gwnai ymrwymiad i fyned i gyfarfod, nid oedd dim a'i hataliai i gwblhau. Cymerai ran, a rhan dda, o bob llafur fyddai gan yr eglwysi dan ei ofal, neu gydag unrhyw amcan cyffredinol a fyddai gan ei enwad.

Pan y codwyd capel newydd yn Machynlleth, ac yr aeth y ddyled yn llawer mwy na'r bwriad cyntaf, cymerodd ef y rhan drymaf o'r baich. Teithiodd Gymru, a Lloegr, a Scotland i gasglu ato. Bu oddi cartref unwaith oddi wrth ei deulu a'i eglwys am naw mis yn casglu, a chladdwyd ei fab hynaf tra yr oedd oddi cartref yn wr ieuangc ugain oed; ond casglodd ato saith gant a haner o bunau wedi talu pob costau. Yn amser y cydymegniad cyffredinol yn 1833 i dalu dyledion addoldai Cymru, yr oedd efe yn un o'r rhai a benodwyd i fyned i Lundain yn yr achos; a chlywsom un oedd yn y brifddinas ar y pryd, ac mewn cyfle i wybod holl hanes y casglwyr, yn dyweyd mor llwyr ymroddedig ydoedd i'r gwaith yn ystod y tri mis y bu ef a Mr. Williams, o'r Wern, a'r brodyr eraill yno. Codai yn foreu i gynllunio pa ffordd a gymerent. Ni chai cwmni na chyfeillgarwch ei droi oddiar ei lwybr; a phan y byddai sicrwydd mai ar ryw awr benodol y ceid gweled ryw foneddwr, ni byddai na phellder ffordd, na blinder corff, na gerwinder tywydd yn ddigon i'w atal yno. Ac os digwyddai ambell ddiwrnod heb fod yn llwyddianus iawn, fel y digwyddai yn aml ond odid, nid oedd fawr o sirioldeb yn ei wyneb y noson hono; ond byddai ar ei oreu yn chwilio hen adroddiadau ac yn pigo enwau er mwyn ceisio gwneyd yn well dranoeth. Yr oedd wedi myned yno i gasglu, ac nid oedd dim arall yn ei feddwl nac ar ei dafod.

Fel awdwr, nis gallwn ond prin grybwyll am ei brif weithiau. Ysgrifenodd lawer i'r Dysgedydd o bryd i bryd er ei gychwyniad cyntaf, a chyhoeddodd amryw fân draethodau a phregethau. Y gwaith mawr i'r hwn y cysegrodd ddyddiau goreu ei fywyd yn Machynlleth oedd "Hanes yr eglwys Gristionogol o ddyddiau yr apostolion hyd ein dyddiau ni," yn ddwy gyfrol hardd. Costiodd y gwaith yma iddo lafur dirfawr. Llawer diwrnod tra yn ei gyfansoddi yr eisteddodd yn ei fyfyrgell am un awr-ar-bymtheg. Dywedai hen forwyn a fu yn ei wasanaeth yn yr adeg yma am naw mlynedd, na wyddai hi pa bryd y byddai ei meistr yn myned i orphwys, na pha bryd y byddai yn codi mai yn ei fyfyrgell y byddent yn ei adael y nos, ac mai yno y byddent yn ei gael y boreu. Bu am flynyddau yn codi am dri o'r gloch yn y boreu, ac yn ddiwyd gyda Hanes yr Eglwys hyd giniaw; yna rhoddai y prydnawn at barotoi ei bregethau; ac ar ol te, byddai fynychaf bob nos yn cychwyn allan i ryw gyfarfod neu gilydd. Cyhoeddodd ddeg rhan o Hanes Ymneillduaeth yn Nghymru, yn cynwys yn benaf hanes yr eglwysi