Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/320

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Annibynol; ond oblegid yr anhawsder i gael gan ddynion i anfon hanesion eu heglwysi, a hwyrfrydigrwydd llawer iawn o'r derbynwyr neu y dosbarthwyr i dalu, a'i lesgedd a'i henaint ei hun, bu raid iddo, er siomedigaeth fawr i'w feddwl, ei roddi i fyny ar ei haner. Cyhoeddodd Esboniad ar Lyfr y Datguddiad, a rhanau o broffwydoliaethau Daniel. Ystyriai ef hwn y goreu a'r pwysicaf o'i holl weithiau; ac yr oedd ynddo chwaeth neillduol at ddeongli proffwydoliaethau, a chwilio i mewn i ragfynegiadau yr Ysgrythyrau o'r pethau a fydd ar ol hyn. Mae y cwbl a ysgrifenodd yn dangos ymroddiad diflino; ac nis gallasai ond dyn o gyfansoddiad corfforol a meddyliol o'r fath gryfaf fyned trwy y fath lafur dirfawr. Nerth ac angerddoldeb yw yr elfenau amlycaf yn y cwbl a ysgrifenodd. Nid yw ei gyfansoddiadau yn cael eu nodweddu gan dlysni a dillynder; ac yr oedd yn aml lawer o dywyllni ac amwysedd o gylch ei frawddegau; nid am ei fod ef mewn un modd yn amcanu dyweyd geiriau i guddio ei feddwl, ni bu neb erioed yn mhellach oddiwrth y fath beth; ond am ei fod wedi mabwysiadu arddull wasgarog ac amleiriog, fel yr oedd yr hyn yr amcanai ei ddyweyd, yn aml yn cael ei guddio gan gyflawnder a helaethrwydd ei ymadroddion. Nid oedd fel llawer ychwaith yn amlhau geiriau oblegid prinder meddyliau; canys yr oedd y rhai hyny yn ddihysbydd, ac yn ymryson am ddyfod allan yn gyflymach nag y gallasai ei bin eu hysgrif enu, na'i dafod eu llefaru. Yn ei bregethau yr oedd yn fywiog a difrifol yn ei draddodiad, ac yn aml byddai ei deimladau yn cario y dydd arno yn hollol. Byddai yn bur sicr o ddyfod o hyd i wir feddwl ei destun, a seiliai arno y gosodiad a godai yn fwyaf naturiol o hono. Cymerai olwg eang a chwmpasog ar y mater fyddai dan sylw ganddo, a chariai ef allan i'r holl gysylltiadau i'r rhai y rhedai yn naturiol; ac ni byddai byth yn ysgoi y cymhwysiad uniongyrchol o'r gwirionedd at galonau a chydwybodau ei wrandawyr. Ni welid byth mo hono yn cellwair gyda'r gwirionedd, nac yn curo yn ddiofal o'i gwmpas; ond agorai ef i'r gwaelod, a hyny gyda hyfrdra diarswyd un yn teimlo mai gair oddiwrth Dduw oedd ganddo i'w draethu. Nid oedd yn dilyn chwedlau cyfrwys," nac yn arfer "ymadrodd gwenieithus," ac nid oedd dim a ffieiddiai yn fwy na dwyn i'r pulpud "wrachiaidd chwedlau" a "chwedlau gwneuthur;" ac nid mewn "godidawgrwydd ymadrodd" ychwaith yr ymddiriedai; ond ei syniad ef am "gyflawni ei weinidogaeth" oedd trwy ddwyn gwirioneddau mawrion yr efengyl yn eu symledd a'u gonestrwydd i arweddu ar galonau a chydwybodau dynion. Un ydoedd Mr. Morgan, a'i gymeryd gyda'i gilydd, na chyfyd ei gyffelyb ond anaml yn mysg cenedl. Gwyddom nad ydoedd yn berffaith, a gwyddai yntau hyny ei hun, ac yr oedd ei golliadau a'i ddiffygion yn peri mwy o ofid iddo ei hun nac i neb arall; ond a'i gymeryd oll yn oll, anhawdd cael ei gyffelyb. Yr oedd ynddo wroldeb llew, a thynerwch plentyn. Nid oedd dim yn haws na'i dyneru hyd yn nod at ddagrau, ond nid oedd dim a allasai ei gymhell i weithredu yn groes i'w argyhoeddiadau; ond safai wrth yr hyn a ystyriai yn ddyledswydd yn ddiystyr o bob colled a allasai hyny ddwyn iddo ef, ac heb ofalu am ddim ond anrhydedd gwirionedd. Am dano fel Cristion, gellir crynhoi y cwbl i un o'i ymadroddion diweddaf ef ei hun—"Yr wyf wedi meddwl lawer gwaith, yn enwedig yn ddiweddar, am ddesgrifiad Paul o hono ei hun, y rhai y teimlaf ydynt yn llawn mor gymhwysiadol ataf finau—Y penaf o bechaduriaid Y llai na'r lleiaf o'r holl saint.'"

DAVID MILTON DAVIES. Ganwyd ef mewn amaethdy o'r enw Hen-