feddau, ger llaw Llanbedr, sir Aberteifi, Tachwedd 23ain, 1827. Bu farw ei dad pan nad oedd ef ond tair blwydd oed; a gadawodd gartref pan yn dair-ar-ddeg oed. Aeth i Blaenafon, sir Fynwy, lle yr arhosai ei chwaer hynaf, a dechreuodd weithio yno; ac ymwthiodd yn mlaen trwy lawer o anhawsderau ac anfanteision yn ystod y pedair blynedd y bu yno. Derbyniwyd ef yn aelod yn Bethlehem, Blaenafon, Awst 30ain, 1840. Yr oedd Mr. Edward Williams, yn awr o Ddinasmawddwy, yn cael ei dderbyn agos yr un pryd ag ef; ac yr oedd y ddau yn gyfeillion mawr, ac yn gweithio gyda'u gilydd. Symudodd Mr. Davies oddi yno i Cendl, lle y bu oddeutu dwy flynedd, ac oddi yno i Dredegar, ac ymgysylltodd â'r eglwys yn Adulam; ac yno y dechreuodd bregethu, Ionawr 16eg, 1848. "Dydd y pethau bychain" oedd hi arno ef y pryd hwnw, ac nid oedd ei gyfeillion goreu yn meithrin disgwyliadau uchel gyda golwg arno; ond yr oedd ei gymeriad mor loyw a diargyhoedd fel y calonogent ef i fyned yn mlaen. Yn niwedd y flwyddyn 1848, aeth i'r ysgol i Hanover, at Mr. R. Thomas, er parotoi i fyned i'r Athrofa, a derbyniwyd ef i Aberhonddu yn haf 1850. Wedi treulio tair blynedd yno yn ymroddgar i gasglu gwybodaeth, derbyniodd alwad o'r Gelli (Hay), sir Frycheiniog; a rhoddodd Pwyllgor yr Athrofa ollyngdod iddo naw mis cyn i'w amser ddyfod i fyny, gan fod yr eglwys yn y Gelli mor awyddus am dano. Urddwyd ef yno Tachwedd 12fed, 1853. Llafuriodd yno a'i holl egni; a chan mai Saesonaeg oedd yr holl wasanaeth yno, bu treulio blwyddyn yn y Gelli yn gynorthwy mawr iddo berffeithio yn yr iaith Saesonaeg, yr hyn a brofodd yn fanteisiol dros y gweddill o'i oes. Yn nghanol y flwyddyn 1854, derbyniodd alwad gan eglwysi y Wern a Phenycae, sir Aberteifi, a chydsyniodd a hi; a bu yno yn llafurio gyda chymeradwyaeth a llwyddiant mawr am fwy na phedair blynedd. Yn yr adeg yma, ymagorodd ei alluoedd i gyfeiriadau na ddisgwyliasid. Daeth yn llenor gwych, a chymerai ran arbenig yn holl symudiadau gwladol, cymdeithasol, a chrefyddol yr ardaloedd lle y llafuriai, a'r holl wlad oddi amgylch. Ymddadbly godd ei ddoniau fel pregethwr, fel y tynodd sylw cyffredinol, a derbyniodd wahoddiadau oddiwrth amryw eglwysi cryfion a chyfrifol i sefydlu yn eu plith. Yn niwedd y flwyddyn 1858, derbyniodd alwad oddiwrth hen eglwys barchus Pendref, Llanfyllin, â'r hon y cydsyniodd, a dechreuodd ei weinidogaeth yno yn Rhagfyr y flwyddyn hono; ac yma llafuriodd fel gweithiwr difefl hyd adeg ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mehefin 7fed, 1869, yn 42 oed.
Cyrhaeddodd Mr. Davies safle uchel a pharchus yn mysg pobl ei ofal, ac yn yr enwad, yn benaf trwy ddiwydrwydd ac ymroddiad. Anaml y gwelsom neb yn fwy cwbl gyflwynedig i'w waith. Nid oedd ei alluoedd naturiol yn uwchraddol, ac nid oedd erioed wedi astudio duwinyddiaeth byngciol yn fanwl-nid yn hyny yr oedd ei ragoriaeth; ond yr oedd yn taflu ei holl galon i'w waith. Ysbryd ei bregethau oedd yn rhoddi bywyd ynddynt. "Beth bynag yr ymaflai ynddo gwnai ef a'i holl egni;" ac yr oedd o ddifrif yn y cwbl. Nid oedd dim difyrwch yn ei natur, ac nis gallasai oddef ysgafnder; gallasai ef yn anad odid i neb a adwaenasom erioed ddyweyd, "Credais, ac am hyny y llefarais." Siaradai y rhan fwyaf o'r bregeth, a hyny mewn cywair lled ddistaw. Nid oedd ei frawddegau yn nodedig am eu tlysni, ac nid amcanai at berffeithrwydd cyfansoddiad; ond yr oedd yn y cwbl a lefarai rywbeth oedd yn bachu yn y galon a'r gydwybod. Yr oedd ei bregethau yn llawn iawn o engreifftiau, ond wedi eu cymeryd gan mwyaf o hen hanesiaeth, y rhai a