Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/431

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wneuthur argraffiadau arosol ar feddyliau yr ardalwyr. Y mae ymdrechiadau Mr. Jones yn adeiladiad yr addoldy uchod mewn ardal dywyll, wedi bod yn dra chanmoladwy, ac y mae lle i obeithio y cânt eu coroni a llwyddiant."

Llafuriodd Mr. Jones yma yn ddiwyd, er mynych wendid, ac yn ngwyneb llawer o ddigalondid, am bedair-blynedd-ar-ddeg wedi ei urddiad, a bu farw, Tachwedd 30ain, 1840. Dilynwyd Mr. Jones, gan un Mr. Henley, yr hwn a lafuriodd yma gyda chymeradwyaeth hyd ddydd ei farwolaeth; ond ni bu ei dymor ond byr. Am yspaid ar ol hyny bu yr eglwys mewn cysylltiad a'r eglwys yn y Trallwm, dan ofal Mr. J. Davies, hyd ei farwolaeth. Yn mis Mai, 1851, rhoddwyd galwad i Mr. John Peter Jones, yr hwn oedd eisioes wedi symud o'r Drefnewydd i Marton, a bu yma nes y symudodd i Bromyard, sir Henffordd, yn Hydref, 1853. Yn nechreu Ionawr, 1855, cymerodd Mr. Thomas Peters, pregethwr cynorthwyol o Bwlchyffridd, ofal yr eglwys, ac urddwyd ef Mehefin 21ain, y flwyddyn hono, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri H. James, Llansantffraid; J. Owen, Bwlchyffridd; R. Hughes, Trallwm, ac eraill. Ymadawodd Mr. Peters i Gaerlleon yn 1857; ac yn Hydref y flwyddyn hono, dechreuodd Mr. R. W. Lloyd, o Lanbadarn, sir Faesyfed, ei weinidogaeth yma; a bu yma hyd Mai, 1865, pryd y symudodd i Woolerton. Yn haf y flwyddyn hono, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas R. Davies, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Hydref 3ydd, 1865. Ar yr achlysur gweinyddodd Meistri H. Oliver, B.A., Casnewydd; W. Price, Minsterley; L. Roberts, Dorrington; D. M. Davies, Llanfyllin, ac eraill. Rhoddodd Mr. Davies yr eglwys i fyny yn Hydref, 1868, a symudodd i Polton-le-Fylde, swydd Lancaster. Yn 1870, rhoddwyd galwad i Mr. William Bowen, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn mis Medi, ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri J. Jenkins, Pontypool; D. Rowlands, B.A., Trallwm; L. Roberts, Dorrington; W. Price, Minsterley, ac eraill. Mae Mr. Bowen yn parhau i lafurio, ac y mae yr achos mewn gwedd siriol, er nad yw wedi gwneyd y cynydd a ddisgwyliasid oddiwrth ei gychwyniad addawus.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

JOHN JONES. Ganwyd ef yn Llanddeusant, Mon, Gorphenaf 23ain, 1798. Er nad oedd ei rieni ond pobl gyffredin eu hamgylchiadau, yr oeddynt yn barchus gan eu cymydogion, ac yn "ofni Duw yn fwy na llawer." Yr oedd eu mab John, yr hwn oedd eu cyntafanedig, o dueddfryd hynaws, a dangosodd yn foreu ogwyddiad cryf i ymwasgu at grefyddwyr a phregethwyr, a chyda'r Ysgol Sabbothol yr oedd yn nodedig o ffyddlon. Derbyniwyd ef yn aelod yn Llanddeusant, yn haf, 1816. Mr. Owen Thomas Carrog, a Mr. Robert Roberts, Ceirchiog, oeddynt ei brif noddwyr, a buont iddo yn garedig dros ben, ac yr oedd ganddo yntau hyd ddiwedd ei oes y parch dyfnaf i'w coffadwriaeth. Ar eu cais hwy y dechreuodd bregethu, a thrwy eu dylanwad hwy derbyniwyd ef i'r Ysgol Ramadegol, oedd yn nglyn a'r athrofa yn Llanfyllin, yn Gorphenaf, 1819; ac yn mhen dwy flynedd derbyniwyd ef yn gyflawn i freintiau yr athrofa. Yr oedd Mr. Jones yn un o'r rhai oedd yn yr athrofa pan y symudwyd hi i'r Drefnewydd, yn Medi, 1821. Wedi gorphen ei dymor yn yr athrofa, yn Medi,