PENYSTRYD.
Mae y capel hwn ar un o'r lleoedd uchaf yn mhlwyf Trawsfynydd; ac y mae y lle, a golwg hynafol yr addoldy, yn ein hadgofio o sefyllfa dra gwahanol ar Ymneillduaeth Cymru i'r hyn ydyw yn bresenol.
Yr ydym wedi derbyn y rhan fwyaf o hanes yr eglwysi yn y plwyf hwn, a rhai o'r plwyfi cylchynol, oddiwrth yr hybarch Mr. Edward Davies, Trawsfynydd; a sicr genym, nad oes neb yn fyw mor alluog at hyn o orchwyl. Mae traddodiad yn mysg hen bobl y wlad hon, fod dau dŷ anedd yn mhlwyf Trawsfynydd wedi eu trwyddedu yn foreu i bregethu ynddynt, sef Tyddyn-sais, a Bronysgellog. Os yw hyny yn gywir, y tebygolrwydd yw, mai yn nyddiau Mr. H. Owen, Bronyclydwr, a'i gydlafurwyr, y bu hyny. Bu teulu o gymydogaeth Llanuwchllyn, yn byw yn Hafodygarreg, Trawsfynydd, er's mwy na phedwar-ugain-mlynedd yn ol, a byddai yno foddion crefyddol, yn cael eu cynal yn awr a phryd arall, a byddai Lady Nanney, o Gefnddeuddwr, yn arfer a myned yno i addoli. Yr oedd march-faen, hyd yn ddiweddar, yn ymyl hen gapel Penystryd, a byddai y Lady Nanney yn arfer cerdded o ben ffridd y Tyddyndu at y march-faen, ac yna yn myned ar gefn ei cheffyl drachefn; a byddai un John Garmons, o'r Rhiwgoch, yn annog rhyw anifeiliaid o ddynion, tebyg iddo ei hunan, i aflaneiddio y march-faen, o ddirmyg arni am ei bod yn myned i gydaddoli a'r Annibynwyr. Ni sefydlwyd achos yma y pryd hwnw, ond pan ymadawodd y teulu hwnw o Hafodygarreg, arosodd pobl y gymydogaeth mor ddigrefydd ag o'r blaen. Yr oedd gwr o'r enw Mr. Robert Price yn byw yn y Gilfachwen, Trawsfynydd-etifedd y Gerddibluog, a'r berthynas agosaf oedd yn fyw y pryd hwnw, i Mr. Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd. Yr oedd gan Robert Price ferch o'r enw Jane, a hi oedd ei unig ferch, ac ymbriododd a Mr. John Jones, o Aeddren, yn mhlwyf Llangwm, tua'r flwyddyn 1785. Yr oedd John Jones yn Annibynwr selog, ac yn aelod, mae yn debygol, yn Rhydywernen, cangen y pryd hwnw o'r eglwys yn Llanuwchllyn. Mae yn fwy na thebyg mai John Jones a berswadiodd ei dad-yn-nghyfraith i ganiatau i ambell oedfa gael ei chynal yn y Gilfachwen. Mae yn amlwg mai Mr. Abraham Tibbot, a Mr. Robert Roberts, o Dyddynyfelin, a fu yn offerynol i sefydlu yr achos Annibynol yn Nhrawsfynydd. Ymunodd Mr. Robert Price, a'i wraig, ac amryw eraill a'r Annibynwyr, a derbyniwyd hwynt yn aelodau yn hen gapel Llanuwchllyn, a byddent yn arfer myned yno i gymundeb bob mis am gryn amser.
Efallai mai nid annyddorol fyddai ychydig o hanes John Jones, o Aeddren, gan ei fod yn dal perthynas mor agos a dechreuad yr achos Annibynol yn Nhrawsfynydd. Yr oedd John Jones, fel y sylwyd, yn barod yn Annibynwr trwyadl, yn ddyn gwybodus a pharchus iawn yn ei gymydogaeth,. ac yn fwy dysgedig na'r rhan fwyaf yn y dyddiau hyny. Ar ol y chwyldroad yn Ffraingc, yr oedd yn amser blin yn Lloegr, ac yn y rhan fwyaf o deyrnasoedd y Cyfandir. Yr oeddynt yn codi Militia yn fynych iawn. Meddyliodd llangciau Llangwm am sefyll yn erbyn hyny, a phenderfynasant fyned i Ddinbych i'r perwyl. Ni wyddai John Jones ddim am eu bwriad hyd nes yr oeddynt wedi cychwyn; ond pan ddeallodd eu bod wedi myned, cyfrwyodd ei anifail mor fuan ag y gallai, ac aeth ar eu hol i'w perswadio i fod yn llonydd, a llwyddodd i hyny. Gofynodd rhai o'r ustusiaid i'r llangciau, pa beth a'u boddlonai i fyned adref yn dawel?