Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr enwad hwnw yn yr Ynysfach. Bu gofal y lle am ychydig ar ol hyn ar Mr. John Ridge, gynt o Cendle, ond gan ei fod yn byw yn rhy bell i'w gwasanaethu gydag un cysondeb rhoddodd y lle i fyny. Yn nechreu y flwyddyn 1850, ar symudiad Mr. John Thomas, o Bwlchnewydd i Glynnedd, cymerodd hefyd ofal y lle hwn, a bu yma hyd ddechreu y flwyddyn 1854, pan y symudodd i Liverpool. Er na bu llwyddiant mawr ar yr achos yn y blynyddoedd hyny, etto bu yr eglwys yn nodedig o heddychol a thangnefeddus, a gwnaed rhyw adgyweiriadau a chyfnewidiadau yn y capel ac o amgylch iddo, a dygwyd yr holl draul gan y gymydogaeth ar y pryd. Bu gofal y lle ar ol hyn dros ysbaid ar Mr. William Watkins, Maesteg, yr hwn yn ffyddlon a ddeuai yma dros y mynydd ar bob tywydd, ond yr oedd teithio y fath ffordd anhygyrch ddwy waith yn y mis yn ormod iddo, ac oblegid hyny rhoddodd y lle i fyny. Wedi iddo ef ei rhoddi i fyny, cymerodd Mr. J. Mathews, Castellnedd ofal yr eglwys, a chyrchai. yma yn ffyddlon am rai blynyddau, nes yn mhen amser wedi i Mr. Rees Morgan sefydlu yn Glynnedd, cymerodd ef ofal yr eglwys, ac felly y parhaodd hyd ddiwedd y flwyddyn 1870, pryd y symudodd Mr. Morgan i Bethlehem, St. Clears, ac er hyny y mae yr eglwys hon heb neb yn neillduol i fwrw golwg drosti. Gwelir ei bod wedi myned trwy gryn gyfnewidiadau, ond yn y cyfnewidiadau hyny y mae wedi mwynhau gwahanol ddoniau, ac er nad yw yr achos yn gryf a lluosog y mae yma ychydig enwau yn glynu wrth yr Arglwydd, a'r achos ar y cyfan mewn agwedd siriol a chalonog.

Mae yma lawer o bersonau wedi bod yn nglyn a'r achos y buasai crybwylliad am danynt yn ddigon gweddus pe buasai ein terfynau yn caniatau, ond gallwn grybwyll nad â caredigrwydd a ffyddlondeb hen deuluoedd Llwyncoedwr, Clungwilym, y Felin, ac eraill, ddim yn angof yn fuan, a gobeithiwn fod eu disgynyddion yn etifeddu eu hysbryd.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:

Phillip Griffiths. Derbyniwyd ef, fel y crybwyllasom, yn y flwyddyn 1806, ac y mae er's yn agos i haner can' mlynedd yn gweinidogaethu yn yr Alltwen.

Daniel Griffiths. Gweler ei hanes ef yn nglyn a Zoar, Castellnedd.

Thomas Evans. Bu ef am dymor hir yn ddiacon ac yn bregethwr cynnorthwyol parchus yn yr eglwys, ac arno ef yn benaf yr oedd gofal yr achos, ac yr oedd yn gwir ofalu am dano. Yr oedd yn un o gyfoedion Mr. Daniel Griffiths, ac yn gyfaill mawr iddo. Yr oedd Thomas Evans yn ddyn o ddeall cryf, wedi darllen llawer, ac yn meddu gwybodaeth helaeth am bethau yn gyffredinol. Er nad oedd yn ddoniol o hyawdl fel pregethwr, etto yr oedd ganddo ddawn rhwydd i draethu ei feddwl heb fod mewn un modd yn boenus i wrandaw arno. Ymdriniai yn benaf a phethau athrawiaethol, ac yr oedd ei olygiadau ar drefn yr efengyl yn eang a rhyddfrydig, etto nid mewn un modd i gymylu graslonrwydd yr iachawdwriaeth. Yn ei gyfeillach ymyfrydai yn fawr i siarad ar byngciau duwinyddol, a chael eglurhad ar yr hyn a ymddangosai iddo ef yn dywyll, ac ni fynai un amser ymgymeryd ag un golygiad heb reswm drosto. Bu ei dy am dymor hir yn agored i lettya pregethwyr, ac nid yn fuan yr anghofir gan y rhai a fu dan ei gronglwyd am ei garedigrwydd dirodres ef a'i wraig. Yr oedd er's blynyddau yn dyoddef oddiwrth ddiffyg anadl, yr hyn a'i hanalluogai i bregethu, ac a'i gorfodai hefyd i ymgadw rhag myned allan i awyr y nos, fel nas gallodd fod am y pymtheng mlynedd diweddaf o'i oes o'r fath