Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gogwyddwyd llawer o honynt i geisio yr Arglwydd. Penderfynodd Mr. Bowen gynal cyfeillach grefyddol yn nhy William Griffiths, ac er nad oedd neb ond William Griffiths, a'i wraig, ac Ann Davies, a Hopkin Hopkins, aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ynddi gyda Mr. Bowen y tro cyntaf, nid hir y bu raid disgwyl cyn gweled amryw yn ymwasgu a'r dysgyblion. Derbyniwyd cyn pen ychydig fisoedd un-ar-bymtheg o'r ardal yma ar yr un Sabboth yn gyflawn aelodau yn Nghastellnedd, a daliodd y rhan fwyaf o honynt eu ffordd hyd y diwedd. Yn y fintai gyntaf yma yr oedd Howell John, un o'r rhai fu a'r llaw flaenaf yn nghychwyniad yr achos yn Nghwmafan. Trwyddedwyd ty William Griffiths i gynal gwasanaeth yn rheolaidd, ac wedi bod yno dros dymor, barnwyd mai gwell a fuasai symud yn nes i bentref Melinycwrt, ac agorodd un Mary Cook ei drws i'w derbyn, a chymerwyd trwydded ar ei thy. Llwyddodd yr achos fel yr aeth y lle yn rhy gyfyng, a theimlid yn llawn bryd edrych am dir i adeiladu capel arno. Er y cynhelid yma bob moddion yn rheolaidd, nid oedd yma eglwys hyd yn hyn wedi ei ffurfio, ac elai yr holl aelodau i Gastellnedd i gymundeb. Bu siarad am amryw leoedd i godi y capel-mynai rhai ei gael ar dir Pentwyn yn agos i'r Ynysfach, ond barnai eraill mai gerllaw Melinycwrt y dylasai fod, lle yr oedd y boblogaeth luosocaf ar y pryd. Cafwyd tir gan Mr. Jones, Llwyncoedwr, ar brydles 300 mlynedd, am yr ardreth ddeg swllt a chwe' cheiniog y flwyddyn, a chafwyd digon o dir at gapel a mynwent helaeth yn nglyn ag ef. Codwyd y capel y flwyddyn olaf o'r ganrif ddiweddaf, yn mesur 32 troedfedd wrth 22 troedfedd, ac agorwyd ef y flwyddyn ganlynol, ac yn fuan wedi ei agor ffurfiwyd eglwys ynddo o'r aelodau oedd eisioes yn y lle, a bu gofal yr eglwys ar Mr. Bowen tra y gallodd gyflawni ei weinidogaeth. Yn fuan wedi codi y capel, methodd cwmpeini y gwaith haiarn oedd yn y lle, a gwasgarwyd y bobl, yr hyn a effeithiodd yn fawr ar yr achos, ond glynodd rhai yn ffyddlon wrtho er pob digalondid, ac er gorfod myned yn mhell i weithio, cyrchent adref erbyn pob Sabboth, ac yn aml deuant i gyfarfodydd yr wythnos. Yr oeddynt yn nodedig yn eu serch at eu gilydd, ac ni bu eglwys erioed yn fwy cariadus nag y bu yr eglwys hon am yr haner canrif cyntaf o'i hanes. Tua'r flwyddyn 1806, bendithiwyd yr eglwys a diwygiad grymus pan yr ychwanegwyd llawer o bobl i'r Arglwydd, ac yn yr adeg yma y derbyniwyd yr hybarch Phillip Griffiths, Alltwen, yr hwn "wedi cael help gan Dduw sydd yn aros hyd yr awr hon." Bu diwygiad grymus drachefn yn yn y flwyddyn 1816. Dyma y pryd y derbyniwyd y diweddar Mr. Daniel Griffiths, Castellnedd, yn aelod, ac yr oedd teimladau mor ddwysion yr adeg yma fel yr oedd y bobl yn "neidio ac yn moli Duw."

Bu gofal yr eglwys ar Mr. Bowen hyd nes y dewiswyd Mr. Daniel Griffiths yn gydweinidog ag ef yn Nghastellnedd a Melinycwrt, ac er i gysylltiad Mr. Griffiths a'r eglwys yn y dref gael ei dori, etto parhaodd ei gysylltiad a'r eglwys hon hyd ddiwedd ei oes. Er mai ei ardal enedigol ydoedd, etto nid oedd neb a ddeuai i'r lle yn fwy cymeradwy gan y bobl nag ef, ac ymgynnullai yr holl wlad i wrandaw arno, ac yn yr holl amgylchiadau blin a'i cyfarfu glynodd ei fam eglwys yn ffyddlon wrtho.

Wedi marwolaeth Mr. Griffiths, yn anffodus daeth un Joseph Jones, a fuasai yn weinidog yn Bristol, i'r ardal, a chafodd fwyafrif yr eglwys i roddi galwad iddo, ond ni chafwyd ond gofid oddiwrtho tra y bu yma, ac wedi hwylio yn annyben am fwy na blwyddyn, ymadawodd a rhyw ychydig gydag ef at y Bedyddwyr, a dyna ddechreuad yr achos sydd gan