Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan ystwythder, melusder, a rhai ergydion gwir farddonol, ond nid yw ei iaith na'i feddyliau y fath ag i ddal yn ngwyneb beirniadaeth fanol. Pe buasai ychydig yn fwy coethedig ei feddyliau a'i iaith, buasai llawer o'i gyfansoddiadau prydyddol yn sicr o gyrhaedd enwogrwydd cenedlaethol. Fel gweinidog a phregethwr yr oedd yn rhyfeddol o weithgar a diddiogi. Yr oedd yn ngafael a rhyw waith da yn ddiatal, ac ni feddyliodd erioed am arbed ei gorph wrth deithio a phregethu. Os yw rhai yn byrhau eu heinioes trwy ormod o seguryd, yr ydym yn credu iddo ef ei byrhau trwy ormod o waith, yn enwedig wrth gerdded trwy bob tywydd ar ol chwysu a lluddedu wrth bregethu. Bu am y pedair-blynedd-ar-hugain olaf o'i fywyd yn ddirwestwr egwyddorol a didwyll, a braidd nad oedd ei sel dros yr achos dirwestol weithiau yn ei gario i eithafion i ddyweyd pethau a dueddent yn hytrach i galedu a digio pobl na'u hargyhoeddi. Dau fath o bersonau oedd yn ei gynhyrfu hyd waelodion ei ysbryd, ac yn ei gyffroi braidd i lid aflywodraethus—diottwyr blysig ar enw crefydd, a dynion anhywaith mewn eglwys.

Fel cyfaill yr oedd yn un o'r rhai ffyddlonaf a mwyaf didwyll a adnabuom erioed. Ni welai unrhyw beth yn ormod i'w wneyd dros gyfaill, a gallasai ei gyfeillion ymddiried eu bywydau i'w ffyddlondeb. Ond er ei holl ddidwylledd fel cyfaill yr oedd yn ddiffygiol, er ei fawr anfantais ei hun, o un o nodweddau cyfaill, sef parodrwydd i dywallt ei deimladau a'i ofidiau ei hun i fynwesau ei gyfeillion goreu, er cael eu cynghorion a'u cydymdeimlad Cadwai ei holl ofidiau dirgelaidd yn hollol oddiwrth bawb ond ei Dad nefol Mae yn ddiau y buasai yn ysgafnhau llawer ar ei feichiau yn fynych pe buasai yn fwy agored i fynegu ei helbulon i'w gyfeillion; ond cofir am dano gyda pharch gan yr ychydig o'i gyfoedion sydd yn aros; ac y mae to ieuengach y rhai a'i cafodd yn gyfaill caredig, a didwyll, yr erys ei "goffadwriaeth yn fendigedig" ganddynt.

MELINYCWRT.

Mae y lle hwn yn Nghwmnedd, yr ochr ddeheuol i'r afon wrth fyned i fyny o Gastellnedd, o fewn ychydig gyda phum milldir o'r dref. Hyd yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf nid oedd ond ychydig o'r trigolion yn meddwl fawr am grefydd. Cyrchai ambell un i Godrerhos, ac yr oedd rhai yn arfer myned i lawr i Gastellnedd, ond treuliai y rhan fwyaf eu Sabbothau yn hollol ddifeddwl am grefydd. William Griffiths, Bottle and Glass, ac Elenor ei wraig, (tad a mam Mr. Daniel Griffiths, Castellnedd), ac Ann Davies, Cefny gelli, oedd yr unig dri y mae genym sicrwydd am danynt oeddynt yn aelodau yn Nghastellnedd yn yr adeg yma. Yn fuan wedi sefydliad Mr. Thomas Bowen yn Nghastellnedd, daeth i fyny i Cefnygelli ar un prydnawn Sabboth i bregethu, a daeth cynifer yn nghyd fel y bu raid iddo bregethu allan. Daeth i fyny yn fuan wedi hyny a phregethodd i dorf fawr yn muarth ty William Griffiths, ac yr oedd yr Arglwydd yn rhoddi iddo, ac i'w weinidogaeth, ffafr yn ngolwg yr ardalwyr. Pregethodd drachefn yn mhentref Melinycwrt, a thro arall cafodd genad i fyned i dy eang oedd gan gwmpeini y gwaith haiarn oedd yn y lle at gadw glô, ac un tro buwyd yn addoli yn y tawdd-dy (cast house). Yr oedd y gwaith haiarn oedd yn y lle wedi dwyn cryn lawer o bobl i'r ardal ar y pryd, ac yr oedd gweinidogaeth Mr. Bowen yn gymeradwy ganddynt oll, a