Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

4ydd, 1826. Bu yn weinidog yma rhwng naw a deng mlynedd. Yn mhen rhyw gymaint o amser ar ol i'w gysylltiad ag eglwys Maesyrhaf ddarfod, ymaelododd yn Zoar, ac yno yr oedd yn aelod yn amser ei farwolaeth. Bu farw Awst 3ydd, 1862, a chladdwyd ef yn mynwent Maesyrhaf. Yr oedd John Davies yn ddyn tawel, o dymer addfwyn, ac yn bregethwr digon derbyniol, ond bu yr un peth yn fagl iddo ef ag a fu yn gymaint o niwed i'w ragflaenor, Mr. Bowen. O herwydd hyn, bu am y pum'-mlynedd-ar-hugain olaf o'i oes heb fod o nemawr gwasanaeth i fyd nac eglwys. Byddai yn pregethu yn achlysurol yn ei flynyddau olaf, a dywedir ei fod yn ei ddyddiau diweddaf yn amlygu teimladau nefolaidd iawn. Ni chafodd ond dau ddiwrnod o gystudd trwm cyn ei farwolaeth.

DANIEL EVANS. Ganwyd ef yn Mhenygraig, Ystlumgwyli, yn mhlwyf Abergwyli, sir Gaerfyrddin, Hydref 4ydd, 1803. Cafodd ei dderbyn yn aelod eglwysig yn Hermon, Cynwyl, Mehefin 24ain, 1821. Ar anogaeth yr eglwys dechreuodd bregethu yn Gorphenaf, 1823. Wedi treulio rhyw gymaint o amser yn ysgol ramadegol Mr. Peter, Caerfyrddin, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Nazareth, plwyf Llangyndeyrn, ac urddwyd ef yno Ionawr 21ain, 1829. Yn fuan ar ol ei urddiad, dechreuodd achos yn Crwbyn, ac adeiladodd yno gapel bychan. Cymerodd hefyd ofal yr eglwys yn Siloam, Pontargothi, mewn cysylltiad a Nazareth a Chrwbyn, a bu yn rhyfeddol o boblogaidd a defnyddiol yn y tri lle hyd nes iddo symud i Gastellnedd. Yn 1837, dechreuodd ei weinidogaeth yn Maesyrhaf, lle y bu yn llafurio am ddwy-flynedd-ar-hugain. Bu am rai blynyddau yn gofalu am yr eglwys sydd yn awr yn ymgynull yn nghapel y Wern, Aberafan, mewn cysylltiad a Maesyrhaf. Fel y nodasom yn barod, bu ei weinidogaeth yn Nghastellnedd a'r cylchoedd, yn annghyffredin o lwyddianus am y deg neu y deuddeng mlynedd cyntaf o'i amser yno, ond o hyny allan yr oedd y gynnulleidfa a'r eglwys yn lleihau yn raddol; nid o herwydd unrhyw goll yn nghymeriad moesol y gweinidog, canys ni bu yr un dyn purach ei foesau nag ef erioed yn rhodio y ddaear, ond o herwydd yr hyn a grybwyllasom yn flaenorol. Cyfarfyddodd y dyn da hwn a llawer o ofidiau blinion a siomedigaethau tost yn mlynyddoedd olaf ei fywyd, yr hyn a adawodd effeithiau niweidiol ar ei iechyd corphorol, ac ar ei holl gyflawniadau fel dyn cyhoeddus. Bu farw Ebrill 17eg, 1859, yn 56 oed, a chladdwyd ef wrth gapel Maesyrhaf, lle y mae maen prydferth wedi ei osod ar ei fedd. Gweinyddwyd yn ei angladd gan Meistri Rees, Llanelli; Griffiths, Alltwen; Thomas, Glandwr, ac eraill, a dangosodd pobl y dref eu parch iddo trwy gau eu masnachdai a dyfod yn dorf ddirfawr i'w ganlyn i dy ei hir gartref.

Yr oedd Daniel Evans o ran corph o wneuthuriad lluniaidd, tua phum' troedfedd a naw modfedd o daldra, ei wallt yn wineuliw, a'i edrychiad yn nodedig o fywiog a siriol. Yr oedd ei dymer, fel ei gorph, yn llawn tân a bywiogrwydd. O ddyn twymn ei dymer, yr oedd yn hynod ofalus i beidio tramgwyddo neb yn ddiachos, ond pan y cawsai achos medrai arfer geiriau a frathent fel cleddyf daufiniog. Fel pregethwr yr oedd, yn mlynyddau boreuaf ei weinidogaeth, yn anarferol o boblogaidd. Tywalltai allan ffrydlif o eiriau a meddyliau, gyda chyflymder agerdd-beiriant, ac mewn llais rhyfeddol o soniarus. Tua diwedd ei oes yr oedd wedi myned yn rhy siariadus yn ei bregethau i fod yn boblogaidd fel cynt. Yr oedd y ddawn brydyddol yn naturiol iddo. Cyfansoddodd a chyhoeddodd lawer iawn o'i brydyddiaeth, ac y mae ei holl gyfansoddiadau yn cael eu nodweddu