Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mr. Bowen, er fod genym ni hawl i'ch dirwyo chwi o ugain punt, yr ydym yn foddlon iselhau y swm." Atebodd yntau, "Na ofalwch foneddigion, mae yr arian yn awr wedi eu talu, a dichon y bydd i'r rhan o honynt sydd i fyned i logell fy nghyhuddwr fod yn ddinystr iddo;" a chyda hyny aeth allan o'r llys. Casglwyd digon o arian yn ddioed i wneyd ei golled i fyny. Yn mysg manau eraill, anfonodd pobl y Groeswen tua thair punt iddo. Yn mhen tua chwech wythnos ar ol hyn yr oedd ei gyhuddwr, Mr. Frew, person Llansantffraid, yn dychwelyd adref o Aberhonddu, a darfu i'w geffyl syrthio dano, neu syrthiodd ef oddiar yr anifail, a disgynodd ar ei ben nes i'w siol hollti, ac i'w ymenydd gael ei wasgaru ar gerig yr heol!! Yr ydym yn gadael i bob darllenydd i dynu ei gasgliad ei hun oddiwrth y ffaith arswydus hon.

Yn y flwyddyn 1795, fel y gwelsom eisioes, derbyniodd Mr. Bowen alwad oddiwrth yr eglwys yn Maesyrhaf, a symudodd yno yn nechreu y flwyddyn ganlynol. Cafodd gryn ofid yn Nghastellnedd yn fuan ar ol dechreu ei weinidogaeth yno, ond treuliodd yno weddill ei oes yn enwog, parchus, a defnyddiol i raddau helaeth, ond nid i haner y graddau y gallasai fod pe buasai pob peth yn ei le ynddo. Bu farw mewn llewyg ar y ffordd yn agos i'w dŷ ei hun, Chwefror 27ain 1827, yn 71 oed, a chladdwyd ef wrth gapel Maesyrhaf.

Yr oedd Thomas Bowen yn un o'r dynion mwyaf boneddigaidd yn ei oes. Medrai gyfeillachu a'r pendefigion mwyaf coethedig, a gwneyd ei hun ar yr un pryd yn gartrefol gyda'r weddw dlawd ar y plwyf. Edrychid i fyny ato gan uchel ac isel. Mewn gair, yr oedd yn. foneddwr yn yr ystyr helaethaf i'r gair. Fel pregethwr yr oedd yn dlws, eglur, a phoblogaidd. Yr oedd yn feistr perffaith ar y ddwy iaith. Tystiolaeth y rhai a'i hadwaenant yn dda ydyw ei fod mor ddiddiffygion fel gwladwr a phregethwr a neb yn ei oes. Ond y mae gonestrwydd hanesyddol yn ein rhwymo i grybwyll nad oedd ei gymeriad moesol yn bob peth y gallesid dymuno iddo fod. Bu amryw weithiau dan ddysgyblaeth am yfed yn annghymedrol. Hyn oedd ei wendid, a phe buasai yn rhydd oddiwrth y gwendid hwn mae yn ddiameu na buasai un gweinidog, o un enwad, yn y Dywysogaeth yn uwch nag ef mewn defnyddioldeb ac enwogrwydd. Ond er ei holl ddiffygion, gwnaeth ddaioni dirfawr yn ei ddydd, ac y mae genym obaith iddo ddiangc i'r wlad yn yr hon nid oes cofio beiau.

JOHN DAVIES. Ganwyd ef yn Esgairfynwent, plwyf Llanfihangel-rhosy-corn, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1799. Yr oedd ei rieni yn bobl dduwiol iawn, ac yn aelodau parchus o'r eglwys Annibynol yn Gwernogle. Bu farw ei dad pryd nad oedd ef ond ieuangc, gan adael ei fam yn weddw ac un-ar-ddeg o blant dan ei gofal; ond cafodd fyw i'w gweled oll wedi tyfu i'w maintioli, ac ymsefydlu yn y byd, a'r hyn sydd yn bwysicach byth, cafodd eu gweled oll yn aelodau o eglwys Crist. Aeth dau o'r meibion, sef John, a'i frawd Mr. David Davies, o Stanstead, Essex, i'r weinidogaeth. Bu farw eu mam mewn oedran teg, ac yn gyflawn o gysuron crefydd, ar ol bod yn arddel Crist am yn agos i driugain mlynedd. Pan yn bedair-ar-ddeg oed derbyniwyd John Davies yn aelod o'r eglwys yn Gwernogle, gan y diweddar Mr. Powell, o Gaerdydd, yr hwn oedd y gweinidog yno y pryd hwnw. Anogwyd ef yn mhen ychydig amser ar ol ei dderbyn i ddechreu pregethu. Yn 1819, derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin, lle bu am chwe' mlynedd. Ar derfyniad ei amser yno derbyniodd alwad oddi wrth eglwys Maesyrhaf, lle yr urddwyd ef Gorphenaf