Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

genyn tra ieuangc, i wasanaeth Mr. Morris, tad ynghyfraith y diweddar Mr. Powell, Cross Inn, ac yno yr oedd pan y derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Nghapel Isaac. Yn mhen ychydig amser ar ol ei dderbyn cafodd ef, a dau frawd ieuangc eraill, sef David Thomas, Penmain, a Jonathan Lewis, 'Cwmmawr, eu hanog gan yr eglwys i ddechreu pregethu. Gan ei fod yn wr ieuangc gobeithiol anfonwyd ef i ysgol Mr. John Griffiths, Glandwr, ar draul ei feistr, Mr. Morris, a chyfeillion eraill yn eglwys Capel Isaac. Ar ol bod yno am ryw ysbaid derbyniwyd ef i'r athrofa yn Abergavenny, Tachwedd 3ydd, 1777. Yn ei adroddiad, dyddiedig Rhagfyr 26ain, 1780, dywed Dr. Davies :-"Y nesaf yw Thomas Bowen, yr hwn fydd wedi gorphen ei amser yma yn mis Medi nesaf. Efe a ddaeth i'r athrofa dan anfanteision mawr gan nad oedd wedi cael nemawr o fanteis ion addysg cyn dyfod yma. Pa fodd bynag, y mae wedi myned rhagddo yn mhell tu hwnt i'm disgwyliad i; ond y mae yn amheus genyf y bydd iddo gyrhaedd y fath berffeithrwydd yn yr iaith Saesonig ag i'w wneyd yn dderbyniol fel gweinidog i gynnulleidfa o Saeson, etto, yr wyf yn gobeithio y bydd iddo droi allan yn weinidog Cymreig derbyniol a defnyddiol." Darfu i'r athraw da gamgymeryd y tro hwn, oblegid fe ddaeth Thomas Bowen, ar ol hyn, yn gymaint o feistr ar yr iaith Saesonaeg fel yr oedd yn bregethwr poblogaidd ynddi.

Ar orpheniad ei amser yn yr athrofa, tua diwedd y flwyddyn 1781, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Maesyronen, sir Faesyfed, ac urddwyd ef yno, a bu yn rhyfeddol o lwyddianus. Tua y flwyddyn 1792, bu yno ddiwygiad nerthol iawn, ac ychwanegwyd amryw ugeiniau at yr eglwys yn Macsyronen, a'r gangen yn Brechfa, sir Frycheiniog. Yn mysg eraill a dderbyniwyd yn Mrechfa, yr oedd llangc deuddeg oed o'r enw William Havard, yr hwn wedi hyny a ymunodd a'r Methodistiaid, ac a fu yn weinidog enwog yn eu mysg am ugeiniau o flynyddau. Yr oedd Mr. Havard hyd derfyn ei oes yn son am Mr. Thomas Bowen fel ei dad yn yr efengyl. Yr oedd Mr. Bowen o gychwyniad ei fywyd cyhoeddus yn nodedig o lafurus. Yn fuan wedi iddo ymsefydlu yn Maesyronen aeth trwy yr holl ardaloedd i bregethu yn mhob man y cawsai dderbyniad. Trwy ei lafur ef y dechreuwyd yr achos yn Brechfa, ac y mae yn debyg pe buasai yn aros yn y parth hwnw yn hwy y buasai yn dechreu amryw achosion eraill. Byddai yn myned yn lled fynych i bregethu mewn anedddai yn mhlwyfydd Llangan, Llanfihangel, Talyllyn, a Llansantffraid, Brycheiniog. Cynhyrfodd ei ymweliadau a phlwyf Llansantffraid gynddaredd un Mr. Frew, person y plwyf hwnw, fel y dygodd gwyn yn ei erbyn, ac y gwysiwyd ef ger bron yr ynadon yn Aberhonddu yn 1791, dan y cyhuddiad o bregethu yn mhlwyf Llansantffraid mewn tŷ heb ei drwyddedu. Yn ol y gyfraith yr oedd yn agored i ddirwy o ugain punt, un ran o dair o ba swm oedd i fyned i'w gyhuddwr am ddwyn yr achwyniad yn mlaen. Gwnaeth Mr. Bowen ei ymddangosiad yn ol y wys yn llysdy Aberhonddu ar y dydd penodedig. Darllenwyd y cyhuddiad iddo, ac addefodd yntau ei fod yn euog; yna dywedodd yr ynadon wrtho ei fod dan ddirwy o ugain punt, heblaw y costau. Ond yn lle ymostwng yn wasaidd i ofyn eu trugaredd, a dadleu ei dlodi, fel yn ddiau y dysgwylient iddo wneyd, talodd yr arian bob ceiniog, a chyda moesgyfarchiad, o'r fath ag a fedrai ef wneyd, dymunodd fore da i'r boneddigion, a throdd ymaith. Pan yr oedd ar waelod y grisiau yn myned allan, anfonwyd cenad i'w alw yn ol. Pan ddychwelodd dywedodd cadeirydd y faingc ynadol wrtho :—