Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

JOHN DAVIES. Yn nglyn a hanes Trelech y rhoddwn yr hyn a fedrom gasglu am dano ef, gan mai yno y terfynodd ei oes.

JOSEPH SIMMONS. Ganwyd ef yn agos i Foxhole, ger Abertawy, tua 1694. Cafodd ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin. Yr ydym yn tybied mai tua 1722, y terfynodd ei amser yn yr athrofa, ac iddo yn fuan ar ol hyny gael ei urddo yn weinidog cynorthwyol yn y Gellionen a Chwmllynfell. Bu am ryw gymaint o amser yn preswylio yn Hendreforgan, gerllaw Cwmllynfell. Symudodd oddiyno i Fforest, yn mhlwyf Llansamlet, ac oddiyno drachefn i'r Wind-mill-hill, yn yr un plwyf, a dywedir mai efe a adeiladodd y felin wynt yn y lle hwnw [1] Nid ydym yn gwybod yr amser y symudodd o Hendreforgan, ond bernir iddo roddi gofal Cwmllynfell i fyny y pryd hwnw. Yn 1750, y derbyniodd alwad i ymsefydlu fel gweinidog yn Nghastellnedd, a bu yno o'r pryd hwnw hyd amser ei farwolaeth, Mai 12fed, 1774, pryd yr oedd yn bedwar ugain oed. Bu farw yn ddisymwth iawn. Cymerwyd ef yn glaf yn Heolygwynt, Abertawy, a chariwyd ef oddiar yr heol i dŷ un Evan Smith, a bu farw yno yn mhen yr awr. Cyfododd dau o'i feibion i'r weinidogaeth, sef Joseph a Noah. Nid ydym yn gwybod dim o hanes Joseph ei fab, ond urddwyd Noah yn gynorthwywr a chanlyniedydd i'w dad.

Yr ydym yn analluog, o ddiffyg defnyddiau i roddi unrhyw ddisgrifiad o Mr. Simmons fel pregethwr. Y cwbl a allwn gasglu oddiwrth y crybwyllion am ei enw a gyfarfyddir yn achlysurol mewn llawysgrifau, ydyw ei fod yn weinidog o gymeriad moesol pur, a'i fod yn iachus o ran ei athrawiaeth. Yr oedd yn enwog iawn fel ysgolhaig ac ysgolfeistr. Bu am rai blynyddau yn cadw ysgol ramadegol ragorol yn Abertawy a Chastellnedd, a bu yr enwog Lewis Rees am dymor yn ei ysgol. Yr oedd y werin hygoelus yr amser hwnw yn credu fod pob ysgolhaig gwell na'r cyffredin yn medru consurio, a dywedir fod y dyb yn gyffredin yn mysg y bobl o gylch y Foxhole fod gan Mr. Simmons awdurdod ar yr ysbrydion, ac felly yr oedd ofn ei ddigio ar bawb o honynt.

NOAH SIMMONS. Mab Mr. Joseph Simmons. Mae amser ei enedigaeth yn anhysbys i ni. Derbyniwyd ef yn fyfyriwr i athrofa Abergavenny, Hydref 3ydd, 1768. Mae Dr. B. Davies, yn ei adroddiadau blynyddol o sefyllfa yr athrofa, yn ei ganmol fel myfyriwr diwyd a gobeithiol. Yn 1772, ar ddydd agoriad capel Maesyrhaf, urddwyd ef yn gynorthwywr i'w dad oedranus, a pharhaodd i weinidogaethu yno hyd 1794, pryd yr ymfudodd i'r America. Yr oedd wedi claddu ei wraig a dau o'i blant yn mynwent Maesyrhaf, ac ar ei ymadawiad o'r wlad hon nid oedd ganddo ond un plentyn, yr hwn a aeth gydag ef i'r America. Nis gwyddom ddim o'i hanes ar ol ei ymfudiaeth ragor nag iddo ysgrifenu rhai llythyrau at Mr. John Davies, un o aelodau yr eglwys yn Maesyrhaf. Yr oedd yntau, fel ei dad, yn enwog iawn fel ysgolfeistr, ac yn fwy enwog fel pregethwr. Yr oedd hen bobl yn fyw yn Nghastellnedd, ychydig flynyddau yn ol, y rhai a soniant yn barchus iawn am dano, ac a gwynant o herwydd y driniaeth greulawn a gafodd oddiar law rhyw ddynion drygionus, yr hyn fu yn achos iddo adael ei wlad.

THOMAS BOWEN. Ganwyd ef yn rhywle yn mhlwyf Llandilo, yn sir Gaerfyrddin, yn 1756. Mae lle ei enedigaeth yn anhysbys i ni. Yr oedd ei rieni yn isel yn eu hamgylchiadau bydol. Cymerwyd ef, pan yn fach-

  1. Llawysgrifau Mr. Pryse, Cwmllynfall