Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Nghaerfyrddin. Yn fuan ar ol cael ei ryddhau o garchar Caerfyrddin, aeth adref i Landdetty. Ar y Sabboth, Gorphenaf 22ain, 1660, daeth torf o bump i chwe' chant i'w wrandaw yn pregethu yn Llanddetty. Yr oedd amryw o'r bobl hyn wedi ymgasglu o Forganwg, Mynwy, a Maesyfed, yn gystal a Brycheiniog. Clywodd eglwyswyr erlidgar y sir am y cyfarfod, ac anfonodd Henry Williams, un o'r ynadon, ddeuddeg o filwyr yno i ddal yr addolwyr. Diangodd amryw, a chymerwyd nifer o honynt i'r Gelli, i sefyll eu prawf ger bron yr ynadon dranoeth. Ni ddywedir wrthym pa un a oedd Mr. Jones yn mysg y rhai a ddaliwyd ai nad oedd. [1] Dyma yr hanes diweddaf sydd genym am dano ef. Cymerodd y llywodraeth feddiant o'i ystad, a rhoddodd yr awdurdodau ran o'i diroedd i un Edward Hughes, cyfreithiwr, o Aberhonddu. Mae yn dra sicr os na fu Mr. Jones farw yr amser hwn iddo orfod ymguddio yn rhywle am weddill ei oes, ac na chafodd byth mwyach gyfleusdra i bregethu yn gyhoeddus.

ROBERT THOMAS. Nid oes genym unrhyw hanes i'w roddi am dano ef ond iddo gael ei droi allan gan Ddeddf Unffurfiaeth o eglwys Baglan, ac iddo o'r pryd hwnw hyd amser ei farwolaeth tua 1693, fod yn weinidog yr eglwys wasgaredig a gyfarfyddai mewn gwahanol fanau yn ardaloedd Castellnedd, Llangafelach, &c.

JACOB CHRISTOPHER. Yr oedd ef yn "Henaduriad Athrawiaethol," hyny yw, yn bregethwr yn eglwys Mr. Robert Thomas. Mae yn ymddangos ei fod yn pregethu cyn 1662, ond nid ymddengys ei fod yn dal un fywioliaeth eglwysig pan ddaeth Deddf Unffurfiaeth i rym, ac felly ni chafodd ei droi allan o un lle neillduol. Yn mis Ebrill, 1664, darfu i ynad o'r enw John Aubrey, anfon milwyr i ddal Mr. Christopher, a thri eraill, am gynal cyfarfod yn nhy Lewis Alward, yn Cynffyg. Ni ddywedir wrthym pa cyhyd y buont yn garcharorion. [2] Yr oedd Mr. Christopher yn fyw ac yn pregethu yn 1675, a dyna yr hanes diweddaf sydd genym am dano[3]

RICHARD CRADOCK. Enwir ef yn llawysgrifau Lambeth fel un a gadwai gyfarfodydd crefyddol, ac a bregethai yn ei dy ei hun, yn y Drefnewydd, neu Newton Nottage, yn 1669, ac yn 1672. Cymerodd Watkin Cradock, o'r un lle, drwydded i bregethu, a thrwydded ar ei dŷ at bregethu ynddo. Nis gwyddom pa un a'i dau berson gwahanol oeddynt, neu i'r enw cyntaf gael ei gamosod yn y naill neu y llall o'r llawysgrifau. Dichon y gallasent fod yn ddau frawd, neu dad a mab, a bod y ddau yn pregethu. Nid oes genym un wybodaeth pellach am danynt.

LEWIS DAVIES. Mae y cwbl a wyddom am dano ef i'w gael yn nglyn a hanes y Mynyddbach.

THOMAS DAVIES. Nid oes genym unrhyw wybodaeth am dano ef ond el fod yn cael ei grybwyll yn llawysgrif Dr. John Evans fel cydweinidog a David Thomas yn Nghastellnedd yn 1715.

DAVID THOMAS. Mae ei hanes yntau yn hollol anhysbys i ni. Mae yn ymddangos iddo gael ei urddo ryw amser rhwng 1710 a 1715, a pharhaodd i weinidogaethu yma hyd ei farwolaeth yn 1748; ond cafodd John Davies ei urddo, naill ai yn ganlyniedydd neu yn gynorthwywr iddo, yn 1746.

  1. State papers for the year 1660
  2. State papers for the year 1664
  3. Broadmead Records, p. 514