Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hanesydd Brycheiniog, "Ar doriad allan y rhyfel, gwelwyd ef (Jenkin Jones) a chleddyf yn y naill law a Bibl yn y llall. Cyfododd fyddin o chwech ugain o wyr meirch yn mysg ei berthynasau, ei weithwyr, a'i Efe a denantiaid, ac arfogodd a gwisgodd hwynt ar ei draul ei hun. lywyddai y gwyr hyn, a thrwy eu cynorthwy gallodd gadw pleidwyr y brenin yn sir Frycheiniog, er eu bod yn llawer o rif, ac yn fawr eu dylanwad a'u cyfoeth, yn gwbl dan law." Yr oedd Jenkin Jones yn ŵr lled gyfoethog. Priododd un o deulu y Manseliaid yn Mrowyr. Yn ddioed ar ol adferiad Siarl II., cafodd ei fwrw allan o eglwys Llangattwg, Glynnedd. Dywed Walker iddo gael ei benodi yn weinidog Llanddetty, ei blwyf genedigol yn 1656. Mae yn bosibl fod ganddo balasdai yn Llanddetty a Llangattwg, gan ei fod yn foneddwr o gyfoeth mawr, a bod ei wraig hefyd o deulu urddasol. Dywed Walker hefyd fod un "Jenkin Jones, ailfedyddiwr ffyrnig," yn dal bywioliaeth plwyf Merthyr Tydfil ar ol bwrw yr offeiriad esgobyddol allan oddiyno; ond mae yn amheus iawn mai yr un person oedd hwnw a'r Jenkin Jones hwn. Gan fod Mr. Jones yn foneddwr o radd uchel, ac yn un o'r rhai blaenaf gyda phob achos gwladol ac eglwysig, nid yw yn debyg y buasai ef yn cymeryd arno ofal tri o blwyfydd yn mhell oddiwrth eu gilydd, canys yr oedd rhan fawr o'i amser yn cael ei gymeryd i fyny gyda phethau cyhoeddus.

Yr oedd Mr. Jones yn bregethwr galluog, diwyd, a llwyddianus. Bernir mai efe yw sylfaenydd yr hen eglwysi yn Nghastellnedd a'r Mynyddbach, yn Morganwg, a Chefnarthen, yn sir Gaerfyrddin, ac o bosibl yr holl eglwysi henaf yn neheubarth Brycheiniog. Bu mewn enbydrwydd am ei fywyd lawer gwaith wrth bregethu yr efengyl i'w gydwladwyr anwybodus. Yr oedd unwaith wedi cael ei gyhoeddi i bregethu yn Gelligrug, yn mhlwyf Aberystruth, Mynwy, a chan mai o sir Frycheiniog y disgwylid ef i ddyfod, aeth dyn ffyrnig o'r enw John James Watkin, yr hwn a fuasai yn filwr yn myddin y brenin, yn ei wisg filwrol ac yn arfog, i heol gul ger llaw eglwys y plwyf i'w gyfarfod, gyda bwriad i ymosod arno a'i ladd. Pan ddaeth Mr. Jones yn mlaen, a gweled milwr yn sefyll ar y ffordd, tynodd ei het, a chyfarchodd ef yn foneddigaidd. Darfu i'w gyfarchiad moesgar a'r olwg brydferth oedd arno orchfygu teimladau y creulonddyn fel y methodd osod ei fwriad llofruddiog mewn gweithrediad. Dilynodd y pregethwr i'r Gelligrug, a chafodd ei ddychwelyd at yr Arglwydd dan y bregeth. Bu o hyny allan yn grefyddwr selog, ac yn ddioddefydd mawr yn achos ei grefydd.

Dywed Dr. Calamy mai gwrth-fedyddiwr (cata-baptist) oedd Mr. Jones, hawlia rhai Bedyddwyr ef fel un o'u plaid hwy, ond y peth mwyaf tebyg ydyw nad oedd y naill na'r llall o'r pethau hyn. Yr oedd ei sel dros Ymneillduaeth y fath, a'i awydd am atal dadl bedydd i'w rhanu, ac felly ei gwanychu, mae yn debyg wedi peri iddo beidio dywedyd dim ar fedydd, neu yn hytrach ddyweyd rhyw bethau a arweiniodd rai i gasglu ei fod yn erbyn pob math o fedydd. Dyna sail y chwedl a gofnododd Calamy fel ffaith ei fod yn wrth-fedyddiwr, a'i ddystawrwydd am fedydd babanod, rhag rhanu yr Ymneillduwyr a barodd i'r Bedyddwyr honi hawl ynddo.

Yn gymaint a bod Mr. Jones yn ddyn o safle uchel, yn Ymneillduwr selog, ac wedi bod yn un o'r rhai blaenaf gyda phob achos cyhoeddus yn amser y werinlywodraeth, ymosodwyd arno ef yn un o'r rhai cyntaf wedi adferiad Siarl II. Cafodd ef ac amryw o aelodau yr eglwys a gasglasai yn sir Gaerfyrddin, eu dal yn niwedd mis Mai, 1660, a'u carcharu am fis