Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

newydd Awst 18fed, 1864, gan y diweddar Mr. Evan Evans, yr hwn ar y pryd a roddodd 50p. at draul yr adeiladaeth. Cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus ar yr achlysur ar y fynwent, dan lywyddiad y Maer, y diweddar Mr. W. T. Morgan, yr hwn hefyd a roddodd ddeg gini at yr adeiladaeth. Bu amryw weinidogion, ac eraill, yn areithio yn y cyfarfod hwnw. Mr. Thomas, Glandwr, oedd cynllunydd y capel hwn, ac y mae prydferthwch yr adeilad yn glod iddo. Trwy fusgrellni y gweithwyr buwyd ddwy flynedd cyn ei orphen. Cynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad Awst 12fed, 13eg, 14eg, 15fed, 16eg a'r 19eg, 1866. Pregethwyd gan Meistri W. Rees, D.D., Liverpool; T. Rees, D.D., Abertawy; R. Ferguson, LL.D., Llundain; J. Davies, Caerdydd; T. Davies, Llandilo; E. Hughes, Penmain; W. Williams, Hirwaun; J. Williams, Castellnewydd; J. Thomas, Liverpool; R. Pryse, Cwmllynfell, ac eraill. Maint y capel hardd hwn yw 62 troedfedd wrth 42 tu fewn i'r muriau, ac ysgoldy wrth un pen iddo yn 42 troedfedd wrth 13. Costiodd dros 2,200p., ac o'r swm hwn yr oedd dros wyth gant o bunau wedi eu casglu erbyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad. Y mae rhai canoedd wedi eu casglu wedi hyny, a'r ddyled fawr yn toddi yn barhaus o flaen ymdrechion pobl sydd a chalon ganddynt i weithio.

Gan fod yr eglwys hon yn un o'r rhai henaf yn Nghymru, a bod gweinidogion dysgedig ac enwog wedi bod yn gofalu am dani o oes i oes, mae yn hynod na buasai rhyw gofnodion eglwysig wedi cael eu cadw gan rai o honynt, er rhoddi manylion hanes yr achos, a'r dynion mwyaf nodedig fuont yn perthyn iddo, ond er pob ymchwil yr ydym wedi methu dyfod o hyd i ddim o'r fath. Mae yn ddiameu fod llawer o aelodau teilwng a rhagorol mewn llawer o bethau wedi bod yn y lle hwn o bryd i bryd, ond o ddiffyg defnyddiau yr ydym yn gorfod gadael eu henwau a'u hanes mewn ebargofiant. Clywsom am David Rogers, Ysw., fel aeled amlwg iawn yma er's tua dwy genhedlaeth yn ol; ac y mae coffadwriaeth David Davies, o'r Fynachlog; Mathew Arnold, William Thomas, Morgan Morgans, ac amryw eraill sydd wedi eu symud yn ddiweddar, yn barchus gan lawer.

Mae yn ddigon tebyg fod llawer o bregethwyr wedi cyfodi yma yn yr oesau gynt, ond yr ydym ni wedi methu cael enw cymaint ag un o honynt. Thomas Jones, pregethwr cynorthwyol, a fu farw rai blynyddau yn ol, a J. R. Davies, Rhosymeirch, Mon, yw yr unig bregethwyr y gwyddom ni am danynt a gyfodwyd yma.

Mae yr hen eglwys hon, er iddi fyned trwy lawer o dywydd mewn tua dau gant ac ugain mlynedd, a chael ei hysgwyd yn ofnadwy gan derfysgiadau mewnol amryw weithiau, yn ymddangos yn awr yn gref ac iachus, a digon o elfenau bywyd ynddi i ddal ei ffordd am ganrifoedd etto. Hi yn briodol yw mam yr holl eglwysi o'r Llwyni a'r Drefnewydd hyd Gwmllynfell a Chwmaman. Hyderwn fod dyfodol gogoneddus yn ei haros.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

JENKIN JONES. Ganwyd y gwr enwog hwn yn y Tymawr, yn mhlwyf Llanddetty, sir Frycheiniog. Enw ei dad oedd John Jones, neu John ap John Howell. Mae amser ei enedigaeth yn anhysbys. Bu farw ei dad yn 1646, ac yr oedd ei fab yn Sirydd Brycheiniog yn 1658. Cafodd Mr. Jones ei addysgu yn Rhydychain, ac yr oedd yn bregethwr cyhoeddus cyn i'r rhyfel dori allan yn 1642. Dywed y rhagfarnllyd Theophilus Jones,