Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn Ebrill, 1837, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Daniel Evans, Nazareth, sir Gaerfyrddin, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn tuan ar ol hyny. Dywed Mr. Evans ei hun yn y Diwygiwr am 1849, yr hyn a ganlyn am y llwyddiant anghyffredin a ddilynodd ei sefydliad ef yma :—"Yn amser y gweinidog presenol yr adgyfodwyd yr Ysgol Sabbothol yn Maesyrhaf o farw yn fyw, ac yr ymledodd yn chwech o ganghenau yn dra buan, yn cynwys amryw ganoedd o rifedi-y sefydlwyd chwech neu wyth o gyfarfodydd gweddio at y rhai oedd o'r blaen-y cynyddodd yr eglwys o saith ugain heibio i bed war cant o aelodau, mewn llai na chwe' blynedd—y gwelwyd pedwar ugain ar yr un amser ar brawf yn y gyfeillach—y gwnawd dwy bunt a deugain at achos y Genhadaeth yn yr un flwyddyn-y dygwyd dirwest a chyfarfod gweddi y gwragedd i'r capel-yr adeiladwyd addoldy Salem, ac y talwyd am dano-y codwyd y canu i sylw a siarad parchus yn y dref a'r gymydogaeth—y dygwyd gas i oleuo y capel," &c. Bu Mr. Evans yn rhyfeddol o lwyddianus a pharchus yma am ddeg neu ddeuddeg mlynedd, ond yn ol, yn hytrach nag yn mlaen, yr oedd yr achos yn myned yn mlynyddoedd olaf ei dymor ef. Dichon fod hyn i'w briodoli mewn rhan i farweidd-dra yr amseroedd gyda golwg ar grefydd, ac mewn rhan hefyd i'w ddull pigog ef o geryddu pechod, ac i fesur o chwerwder yn ei ysbryd, yr hyn a achosid gan y gofidiau a gyfarfyddodd yn mlynyddau diweddaf ei oes. Nid oedd yr eglwys yn ddim lluosocach, os oedd mor lluosog, yn niwedd tymor ei weinidogaeth ef ag yr oedd yn ei ddechreuad. Bu farw y gweinidog da a llafurus hwn ar ol rhai misoedd o gystudd nychdod, Ebrill 17eg, 1859.

Wedi i'r eglwys fod am ychydig gyda blwyddyn yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, rhoddwyd galwad i Mr. Jonah Roberts, myfyriwr yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Mehefin 20fed a'r 21ain, 1860. Dechreuwyd cyfarfod yr urddiad trwy weddi gan Mr. Mathews, Castellnedd, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Roberts, Cwmafon; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. E. C. Jenkins, Rhymni; traddodwyd siars i'r gweinidog gan Mr. J. Morris, o athrofa Aberhonddu, a siars i'r eglwys gan Mr. T. Rees, Cendl. Pregethwyd yr hwyr blaenorol, ac ar brydnawn a hwyr dydd yr urddiad gan Meistri Williams, Hirwaun; Davies, Aberaman Thomas, Glandwr; Rees, Canaan, ac eraill. Mae Mr. Roberts wedi llenwi ei le yn dda yma am fwy nag un-mlynedd-ar-ddeg bellach. Gan fod y capel wedi myned yn hen, ac i raddau yn anghyfleus fel lle addoliad, penderfynodd yr eglwys a'r gynnulleidfa ei dynu i lawr, ac adeiladu un newydd, a mwy teilwng o'r dref a'r oes. Gosodwyd careg sylfaen y capel