Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bowen a'i bobl. Terfynwyd y ddadl mewn llys cyfraith yn ffafr Mr. Bowen a'i blaid. Yna darfu i Rees Rees a'i blaid gymeryd ystafell yn y dref at gynal gwasanaeth Undodaidd, a dewisasant Mr. David Davies, mab yr enwog David Davies, Castellhowell, yn weinidog iddynt. Bu cynnulleidfa fechan o Undodiaid yn Nghastellnedd o'r pryd hwnw hyd o fewn ychydig flynyddau yn ol, pryd yr aeth i'r dim. Bu Mr. Bowen yn barchus a defnyddiol iawn yma am lawer o flynyddau. Yn nhymor ei weinidogaeth ef rhoddodd Mr. Grant o'r Gnol ddarn helaeth o dir yn rhad at helaethu y fynwent, a thrwy ei lafur ef y dechreuwyd yr achosion yn Melinycwrt a Chwmafan. Yn ei amser ef hefyd y dechreuwyd cynal y cyfarfod Calan yn Maesyrhaf. Mae y cyfarfod hwn wedi cael ei gynal yma bellach er's mwy na thriugain-a-deg o flynyddau, ac yn bresenol mor boblogaidd ag y bu erioed. Nid ymddengys i'r eglwys hon fod mor lluosog a dylanwadol ar un tymor blaenorol o'i hanes ag yr oedd yn amser Mr. Bowen. Yr oedd llawer o brif deuluoedd y dref a'r gymydogaeth yn perthyn i'r gynnulleidfa hon yn ei amser ef. Pan oedd Mr. Bowen yn dechreu heneiddo, a maes ei lafur wedi helaethu, penderfynodd ef a'r eglwys urddo cynorthwywr iddo. Mr. Daniel Griffiths, gwr ieuangc a ddygesid i fyny dan weinidogaeth Mr. Bowen yn Melinycwrt, a ddewiswyd i fod yn gynorthwywr. Urddwyd ef Chwefror 12fed a'r 13eg, 1823. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. T. B. Evans, Ynysgau; gofynwyd yr holiadau gan Mr. M. Lewis, Cwmnedd; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Williams, Ty'nycoed; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. R. Howells, Baran, ac i'r eglwys gan Mr. D. Evans Mynyddbach. Gweinyddwyd hefyd ar yr achlysur gan Meistri J. Harrison, Aberdare; J. Rowlands, Cwmllynfell; T. Davies, Abertawy, ac eraill. [1] Darfu i ddoniau poblogaidd digyffelyb Mr. Griffiths luosogi y gwrandawyr yn ddirfawr, a chafodd llawer eu hychwanegu at yr eglwys. Parhaodd pethau yn rhyfeddol o lewyrchus yma hyd haf 1825, pryd y dygwyd cyhuddiad gan ferch ieuangc yn erbyn y gweinidog ieuangc, o fod yn dad i'w phlentyn anghyfreithlawn; yr hyn a lwyr wadai yntau. Achlysurodd hyn derfysg yn yr eglwys a'r ardal a'r wlad yn gyffredinol. Credid y cyhuddiad gan rai ac anghredid ef gan eraill. Y diwedd fu i'r eglwys ymranu, aeth tua saith ugain o'r aelodau allan gyda Mr. Griffiths i ddecheu уг achos sydd yn awr yn Zoar, ae arosodd tua yr un nifer yn yr hen gapel. Ar ol yr ymraniad rhoddodd yr eglwys yn Maesyrhaf alwad i Mr. John Davies, myfyriwr yn athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef Gorphenaf 4ydd, Yn 1826. Bu yma ddiwygiad tanllyd iawn yn 1829, ac ychwanegwyd nifer fawr at yr eglwys; ond yn raddol cyfododd oerni rhwng Mr. Davies a'r eglwys yr hwn a derfynodd mewn ymadawiad hollol yn 1835. y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd galwad i Mr. John Davies, Cwmaman, a bu ef yn gweinidogaethu yma ddau Sabboth o bob mis am tua blwyddyn, yna rhoddodd ei ofal i fyny, ac wrth wneuthur hyny, ysgrifenodd y llythyr canlynol at yr eglwys:

"At y gangen o eglwys Crist sydd yn cyfarfod yn hon gapel Castellnedd.
Anwyl frodyr a chwiorydd yn yr Arglwydd,
Trwy gyfrwng y llinellau hyn, yr ydwyf yn eich hysbysu fy mod yn eich rhoddi fel eglwys i fyny, nad ydych hyn allan i edrych arnaf fel eich gweinidog, ac nad wyf finaui'ch hystyried chwithau fel pobl fy ngofal o hyn allan. Wrth fwrw golwg arnoch chwi a'r Felindref, yr wyf yn gwybod y gellwch chwi gynal gweinidog eich hunain yn hollol gysurus, a'u bod hwythau yn rhy dlawd i wneuthur hyny. Nis gallaf wneuthur cyfiawnder a'r tair eglwys; mae fy iechyd wedi gwanychu i raddau mawr; pe rhoddwn y wanaf i fyny, dywedai llawer mai arian yn unig sydd yn fy ngolwg-hyderaf fod genyf beth mwy. Yr ydwyf yn dra diolchgar i chwi am eich sirioldeb a'ch caredigrwydd attaf dros yr amser byr y bum yn llafurio yn eich plith. Dymunwn i chwi gael gweinidog duwiol, dysgedig, llafurus, doniol, a llwyddianus. Ceisiwch un i chwi eich hunain. Nis gellir disgwyl daioni i eglwys mewn tref heb fod ei gweinidog yn byw yn mhlith ei bobl. Yn awr, yr wyf yn gwir ewyllysio eich llwyddiant yn ysbrydol ac yn dymorol, a chadwed Duw chwi yn un, ac addased chwi oll i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni. Ydwyf, eich ewyllysiwr da,
CWMAMAN, Ionawr 24ain, 1837.


JOHN DAVIES.

  1. Dysgedydd, 1823. Tu dal. 152.