Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

penderfynwyd anfon dyn drosedd i'r America i brynu y coed. Casglwyd digon o arian at eu prynu a thalu traul y prynwr. Yn mysg eraill, darfu i un Richard Jones, diacon a phregethwr yn yr eglwys, werthu dau fustach a rhoddi eu harian i'r drysorfa at brynu y coed. Aeth y prynwr i'r America, ond hoffodd ei le yno, ac ni welwyd mo hono ef, na'r coed, na'r arian byth mwyach yn Nghymru; ond llwyddwyd i gael coed ac i orphen yr adeilad. Yr oedd y dywededig Richard Jones yn faendowr wrth ei gelfyddyd, a darfu iddo doi y tŷ a'i ddwylaw ei hun yn rhad. Wedi cael y capel yn barod ymddiriedwyd i ddyn arall i fyned i Loegr i gasglu at y ddyled, ond darfu i hwnw hefyd hoffi ei le yn Lloegr, ac ni ddychwelodd byth, er y bernir iddo gasglu digon i dalu yr holl ddyled. Fel hyn yr ydym yn gweled mai mewn amseroedd blinion yr adeiladwyd muriau y ddinas hon. Yn fuan ar ol ei urddo aeth Mr. Noah Simmons i Loegr a chasglodd yno ddigon i dalu yr hyn oedd o ddyled yn aros ar y capel. Bu Mr. Simmons yn weinidog yma am ugain mlynedd wedi marwolaeth ei dad; ond tua diwedd ei dymor yma cyfododd rhyw bersonau maleisus yn ei ben gan ddwyn y cyhuddiadau mwyaf gwaradwyddus yn erbyn ei gymeriad, ac er nad oedd pobl y dref, na mwyafrif y gynnulleidfa, yn credu dim o'r cyhuddiadau, etto, barnodd ef mai gwell oedd iddo ymadael, ac felly ymfudodd i'r America yn 1794. Yn niwedd 1795, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Bowen, Maesyronen. Mae yr alwad wedi ei geirio fel y canlyn:

CASTELLNEDD, Rhagfyr 27ain, 1795.
Barchedig Syr,

Nyni, y rhai y mae ein henwau yn ysgrifenedig isod, aelodau o eglwys Crist, ymddiriedolwyr a chyfranwyr at dreuliau yr addoliad crefyddol, yn nhŷ cyfarfod yr Ymneillduwyr Protestanaidd yn Nghastellnedd, y rhai ydym yn awr yn amddifad o weinidog sefydlog, wedi clywed am eich bwriad chwi i ymadael a'r İle yr ydych ynddo yn bresenol, ac mor belled ag y cawsom brawf o'ch cymhwysderau gweinidogaethol yr ydym yn eu hoffi yn fawr, gan hyny yr ydym yn unfrydol yn rhoddi i chwi alwad fel gweinidog i Grist i ddyfod yn fugail arnom. Gosoda eich cydsyniad a'n cais ni dan rwymedigaeth i chwi. Yr ydym yn addaw cyfranu yn ol ein gallu tuagat eich cynhaliaeth a'ch cysur, a'n gweddi ydyw i'r Pen bugail mawr dueddu eich meddwl i gydsynio a'r alwad ddidwyll a thaer yma oddiwrthym, fel y byddo i chwi ddyfod atom yn nghyflawnder bendith efengyl Crist."

Arwyddwyd yr alwad hon gan gant a chwech-ar-hugain o bersonau. oedd Mr. Bowen o ran ei ddoniau fel pregethwr, ei ragoriaeth fel ysgolhaig, a boneddigeiddrwydd ei ymddangosiad yn ateb y lle i'r dim, ond ni bu yntau, er ei holl ragoriaethau, yma yn hir cyn gorfod teimlo, fel ei ragflaenor, Noah Simmons, oddiwrth ymosodiadau gelynion ffyrnig ac annghymodlon. Nid ydym yn gwybod pa un a'i yr un personau fuont yn ymosod ar Mr. Bowen ag ar Mr. Simmons, a'i ynte rhai gwahanol oeddynt. Blaenoriaid yr ymosodwyr ar Mr. Bowen oeddynt Rees Rees, John Rees, William Rees, a Lewis Herbert. Yr oeddynt oll, rhwng gwyr a gwragedd, tua phymtheg mewn rhif. Sosiniaid oeddynt o ran eu golygiadau, a'u hamcan ydoedd cael meddiant o'r capel i'r enwad hwnw. Dechreuodd y terfysg ar y Sabboth, Ionawr 13eg, 1799, trwy waith Rees Rees yn atal Mr. Bowen i fyned i'r pulpud, a chymeryd agoriad y capel oddiwrth Jean Hopkins, y wraig oedd yn glanhau y lle, gan ei gloi ac atal y gweinidog a'r gynnulleidfa i fyned i mewn. Bu y capel yn meddiant Rees Rees a'i blaid o Ionawr 13eg hyd Chwefror 25ain, pryd y gorfodwyd hwy gan yr ynadon, Mr. Gabriel Powell a Mr. John Miers, i'w roddi i fyny i Mr.