Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr adeiladwyd capel y Chwarelaubach, yn agos i Gastellnedd, ac yn yr un flwyddyn yr adeiladwyd capel y Gellionen. Yr oedd Mr. Busey Mansel o Lansawel, boneddwr o gyfoeth a dylanwad mawr, yn aelod o'r eglwys hon, ac wedi i'r Ymneilldnwyr gael rhyddid yn ol cyfraith y tir i addoli rhoddodd ef dir, coed, a cherig iddynt at adeiladu y capeli yn Chwarelaubach a'r Gellionen. Dywed Edmund Jones, yn ei lawysgrifau, i Mr. Mansel fynu adeiladu capel y Chwarelaubach ychydig bellder oddiwrth y prif ffordd, rhag pe buasai yn ymyl y ffordd i bob gelyn wrth fyned heibio daflu ceryg i ddryllio y ffenestri. Dichon mai ffyrnigrwydd gelyniaeth y werin yn erbyn Ymneillduaeth oedd yr achos pa ham na ddarfu i bobl Castellnedd adeiladu capel cyn 1695, oblegid yr oedd Deddf Goddefiad wedi ei phasio naw mlynedd cyn hyny.

Dywed Dr. John Evans, mai Thomas Davies oedd y gweinidog yma yn 1715. Nid ydym yn gwybod dim am y gwr hwn, ac yr ydym yn gogwyddo i dybied mai gwall yn llawysgrif y Dr. yw Thomas Davies, ac mai Lewis Davies a ddylasai fod, ac os yw ein tyb yn gywir, ni bu Lewis Davies farw hyd ar ol 1715. Pan ranwyd y cylch gweinidogaethol ar ol marwolaeth Mr. Davies, dilynwyd ef yn Nghastellnedd a'r canghenau gan David Thomas a Henry Davies. David Thomas oedd yn benaf yn gofalu am y fam-eglwys yn Nghastellnedd, a Henry Davies am y ganghen yn Mlaengwrach. Bu yr eglwys yn Nghastellnedd dan ofal Mr. Thomas hyd 1748, pryd y bu farw. Yn 1740, cafodd Mr. John Davies o athrofa Caerfyrddin ei urddo yma yn gynorthwywr i Mr. Thomas, ond ni bu ei arosiad ef yma yn hir. Yn 1750, derbyniodd alwad oddiwrth ei fam-eglwys yn Nhrelech, a symudodd yno, lle y bu hyd derfyn ei oes. Wedi ymadawiad Mr. Davies, rhoddwyd galwad i Mr. Joseph Simmons, yr hwn, fel yr ymddengys, oedd wedi bod yn weinidog i rai o ganghenau yr eglwys hon, megis Gellionen, Cwmllynfell, &c., am fwy nag ugain mlynedd cyn iddo gael galwad gan y fam-eglwys. Bu Mr. Simmons yn weinidog yma o 1750 hyd derfyn ei oes yn 1774, ond yr oedd ei fab Noah Simmons wedi ei urddo yn gynorthwywr iddo tua thair blynedd cyn ei farwolaeth.

Gan fod capel y Chwarelaubach wedi myned yn hen, ac yn anghyfleus o herwydd ei fod allan o'r dref, cafwyd darn helaeth o dir at fynwent ac adeiladu capel yn y dref gan Syr Herbert Mackworth, o'r Gnol, tua 1771, ar les o 999 o flynyddau am yr ardreth o bum' swllt yn y flwyddyn, ond fod y gynnulleidfa yn rhoddi yr hen gapel a'r ychydig dir perthynol iddo, i Syr Herbert yn gyfnewid am y llall. Mae yr eglwys er's ychydig amser yn ol wedi prynu y lle gan berchenogion ystad y Gnol, fel y mae yn awr yn feddiant hollol i'r gynnulleidfa. Cafodd y capel ei adeiladu yn ol cynllun rhyw gapel a welsai Syr Herbert yn Lloegr, ac yr oedd ar y pryd yr adeiladwyd ef y capel helaethaf a phrydferthaf yn Nghymru. Ei faint oedd 50 troedfedd wrth 40, ac yr oedd yn ddigon uchel i osod dwy oriel, un uwchlaw y llall, ynddo. Ar ddydd ei agoriad yr urddwyd Mr. Noah Simmons yn gydweinidog a'i dad. Dywedir i'r oriel y diwrnod hwnw, o herwydd lluosogrwydd y dorf, roddi ychydig o'i ffordd. Parodd hyn lawer o ddychryn, ond ni chafodd neb niwed. Yr oedd Syr Herbert Mackworth yn wyddfodol ar y pryd, ac er rhagflaenu pob trychineb rhagllaw, penderfynodd osod colofnau cedyrn ar ei draul ei hun o dan yr oriel. Cafwyd cryn lawer o helbul yn nglyn ag adeiladu y capel hwn. Gan nad oedd mor hawdd y pryd hwnw i gael coed at adeiladu o'r America ag yn awr,